Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwasanaethau Ambiwlans Cymru – “Pwysau eithafol yn arwain at ddigwyddiad parhad busnes”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwasanaethau Ambiwlans Cymru – “Pwysau eithafol yn arwain at ddigwyddiad parhad busnes”
Pobl a lle

Gwasanaethau Ambiwlans Cymru – “Pwysau eithafol yn arwain at ddigwyddiad parhad busnes”

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 21, 2021 8:59 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Welsh Ambulance
RHANNU

Erthyl Gwadd – Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

GWNAETH pwysau eithafol ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru ddoe olygu y bu’n rhaid iddo gyhoeddi ‘digwyddiad parhad busnes’. 

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn derbyn oddeutu 2,000 o alwadau 999 y diwrnod am y tridiau diwethaf.

Roedd y digwyddiadau ddoe naw y cant yn uwch na’r hyn a ragfynegwyd, cynnydd o 11 y cant ers ddydd Llun diwethaf (12 Gorffennaf 2021) a chynnydd o 29 y cant ar gyfer yr un dydd Llun y llynedd (20 Gorffennaf 2020).

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Roedd galwadau COCH lle mae bywyd dan fygythiad bron i 30 y cant yn uwch o’i gymharu â dydd Llun diwethaf.

Gwnaeth nifer y galwadau, ynghyd ag oedi hir mewn ysbytai ledled Cymru, olygu fod y galw am y gwasanaeth wedi goresgyn ei allu i ymateb.

O ganlyniad i hyn bu rhai cleifion yn aros am oriau lawer am ambiwlans.

Cyflwynodd yr Ymddiriedolaeth drefniadau arbennig i reoli’r galw, yn cynnwys gofyn i rai cleifion wneud trefniadau amgen, megis gwneud eu trefniadau eu hunain i fynd i’r ysbyty.

Roedd mwy na 21 y cant o’r galwadau 999 ddoe wedi’u categoreiddio fel rhai difrifoldeb isel GWYRDD, ac felly cawsant eu hasesu gan GIG 111 Cymru.

Yn eu plith roedd unigolyn â bachyn pysgota yn eu troed, un arall oedd wedi dal eu bys yn y peiriant gwneud sudd ac unigolyn yn dioddef o ddolur rhydd.

Dyma rai o’r penawdau eraill ddoe –

  • Galwadau COCH lle mae bywyd dan fygythiad ar unwaith wedi cynyddu 29 y cant ers dydd Llun diwethaf, a 175% yn uwch na’r un dydd Llun y llynedd
  • Y prif reswm y gwnaeth pobl ffonio 999 ddoe oedd problemau anadlu (13.4 y cant) gyda chwympiadau’n ail (13.3 y cant)
  • Roedd tua naw y cant o’r rhai a ffoniodd yn dioddef poenau yn eu brest a saith y cant yn dweud eu bod yn teimlo ar fin llewygu
  • Roedd galwadau at gleifion yn dioddef problemau anadlu wedi cynyddu 37 y cant o’i gymharu â dydd Llun diwethaf
  • Gwnaeth criwiau ambiwlans dreulio 516 o oriau mewn ysbytai ledled Cymru ddoe yn aros i drosglwyddo cleifion

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadadu, Lee Brooks: “Prin iawn rydym ni’n cyhoeddi digwyddiad parhad busnes ac nid yw’n benderfyniad rydym ni’n ei wneud yn hawdd – mae’n arwydd o sefyllfa ddifrifol.

“Fe wnaeth y gwres ddoe, ynghyd â’r oedi yn yr ysbytai, olygu ein bod wedi cyrraedd pwynt yn gynnar yn y noson lle’r oedd y galw’n goresgyn ein capasiti i ymateb mewn modd diogel ac amserol.

“Hoffem ddweud wrth unrhyw un fu’n aros am gyfnod maith am ambiwlans ddoe ein bod ni’n ymddiheuro am eich profiad chi, ac nid dyma’r gwasanaeth rydym ni’n dymuno ei ddarparu.

“Tra’n bo ni mewn sefyllfa mwy sefydlog heddiw rydym ni’n parhau i wynebu pwysau eithriadol ar draws Cymru, ac mae arnom ni angen cymorth y cyhoedd.

“Ffoniwch 999 os oes bywyd mewn perygl yn unig, os gwelwch yn dda – hynny yw, ataliad ar y galon, poenau yn y frest neu anawsterau anadlu, mynd yn anymwybodol, tagu neu waedu difrifol.

“Os nad yw’n argyfwng lle bo bywyd dan fygythiad yna mae’n bwysig eich bod chi’n defnyddio un o’r llu o ddulliau amgen yn hytrach na 999, gan ddechrau gyda’r gwirwyr symptomau ar ein gwefan GIG 111 Cymru neu eich meddyg teulu, fferyllydd neu Uned Mân Anafiadau.”

Ychwanegodd Lee ei ddiolchiadau i staff a gwirfoddolwyr ar draws y gwasanaeth.

“Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr ym mhob cwr o Gymru a phob rhan o’n gwasanaeth yn gweithio i’r eithaf i ddarparu’r gwasanaeth gorau y medrwn i bobl Cymru dan amodau anodd iawn,” meddai.

“Hoffwn ddweud diolch o galon wrth gydweithwyr am yr ymdrech aruthrol ar y cyd.”

Cliciwch yma i ddarllen prif gynghorion y gwasanaeth ambiwlans ar gyfer diogelwch yn ystod yr haf.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol solar light Ynni solar a gwynt yn taflu goleuni ar y tywyllwch
Erthygl nesaf Ty Pawb Cerddoriaeth Fyw yn dychwelyd i Tŷ Pawb bob dydd Sadwrn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?
DigwyddiadauPobl a lle

Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English