Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 6 awgrym defnyddiol a fydd yn ei gwneud yn haws i ddechrau yn yr ysgol uwchradd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > 6 awgrym defnyddiol a fydd yn ei gwneud yn haws i ddechrau yn yr ysgol uwchradd
Busnes ac addysgY cyngor

6 awgrym defnyddiol a fydd yn ei gwneud yn haws i ddechrau yn yr ysgol uwchradd

Diweddarwyd diwethaf: Awst 19, 2021 12:19 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
6 awgrym defnyddiol a fydd yn ei gwneud yn haws i ddechrau yn yr ysgol uwchradd
RHANNU

Os bydd eich plentyn yn symud i’r ‘ysgol fawr’ yr hydref hwn, mae’n debyg eich bod yn teimlo braidd yn nerfus.

Cynnwys
  • Awgrymiadau defnyddiol
    • 1. Gwnewch yn siŵr bod ganddyn nhw bopeth yn barod
    • 2. Eu helpu i ganfod eu ffordd o amgylch yr ysgol
    • 3. Siarad gyda phlant hŷn
    • 4. Edrychwch ar gyfrifon eich ysgol ar y cyfryngau cymdeithasol
    • 5. Gwnewch yn siŵr eu bod yn barod am waith cartref
    • 6. Peidiwch â gwneud môr a mynydd ohono
  • Mwynhewch yr antur!

Mae hynny’n naturiol. Mae symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd yn teimlo’n gam mawr, ac ni fyddan nhw bellach yn bysgod mawr mewn pwll bach.

Ond does dim i boeni amdano mewn gwirionedd, a thrwy ddilyn yr awgrymiadau syml hyn, gallwch helpu eich plentyn i addasu’n gyflym.

Cymerwch olwg…

Awgrymiadau defnyddiol

1. Gwnewch yn siŵr bod ganddyn nhw bopeth yn barod

Mae cael popeth yn barod i’ch plentyn ar gyfer yr ysgol uwchradd o ran gwisg ysgol, offer ysgrifennu, dillad chwaraeon ac ati yn gallu eu helpu i deimlo’n fwy hyderus ac edrych ymlaen at gael newid ysgol.

Efallai y byddwch chi’n gymwys i dderbyn cymorth gyda chostau – darllenwch yr erthygl ddiweddar hon am y Grant Datblygu Disgyblion ????????????

Help ar gael gyda chostau gwisg ysgol a mwy yn 2021

2. Eu helpu i ganfod eu ffordd o amgylch yr ysgol

Cafodd y rhan fwyaf o ddyddiau pontio – lle bydd plant Blwyddyn 6 yn cael ymweld â’u hysgol uwchradd newydd – eu canslo eleni oherwydd y coronafeirws.

Er nad yw cystal â diwrnod pontio, efallai y gallech chi eu helpu i adnabod yr ysgol drwy fynd am dro neu yrru heibio eu hysgol newydd er mwyn iddyn nhw ei gweld?

Os byddan nhw’n dal y bws, gallech ddangos iddyn nhw ymhle i’w ddal a dod oddi arno. Gallai hyn wneud iddyn nhw deimlo’n fwy hyderus ar ddiwrnod cyntaf y tymor.

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2021/22! Cofrestrwch cyn 30 Awst er mwyn cael 12 mis llawn.

3. Siarad gyda phlant hŷn

Os ydych chi’n adnabod plentyn sy’n mynd i’r ysgol uwchradd newydd yn barod, gofynnwch iddyn nhw siarad gyda’ch plentyn a thawelu rhywfaint ar eu meddyliau.

Gall helpu eich plentyn os ydyn nhw’n teimlo eu bod yn adnabod rhywun hŷn yn yr ysgol – yn enwedig os nad oes ganddyn nhw frodyr neu chwiorydd yno.

Ond dewiswch y plant yn ddoeth! Weithiau bydd plant hŷn yn hoffi rhoi’r argraff bod yr ysgol uwchradd yn lle mawr a brawychus…felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis rhywun na fydd yn eu dychryn!

4. Edrychwch ar gyfrifon eich ysgol ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion gyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol – tudalennau Twitter a Facebook yn bennaf.

Efallai na fyddan nhw mor brysur ag arfer dros wyliau’r haf, ond maen nhw’n dal i fod yn ffordd dda i gael syniad am fywyd yr ysgol.

Gallech chi edrych arnyn nhw gyda’ch plentyn a dilyn y cyfrifon.

5. Gwnewch yn siŵr eu bod yn barod am waith cartref

Er bod plant yn cael gwaith cartref yn yr ysgol gynradd, maen nhw’n siŵr o gael mwy yn yr ysgol uwchradd…a bydd yn rhaid iddyn nhw ddod i arfer â neilltuo amser ar ei gyfer bob wythnos.

Nid yw’n hawdd magu brwdfrydedd i wneud gwaith cartref! Ond ceisiwch gyfeirio ato yma ac acw wrth sgwrsio…fel y byddan nhw’n sylweddoli y bydd yn rhan o’u trefn ddyddiol.

A cheisiwch ofalu bod ganddyn nhw ofod i weithio ynddo (e.e. rhywle tawel a bwrdd neu ddesg i weithio arni).

6. Peidiwch â gwneud môr a mynydd ohono

Gallai siarad gormod am yr ysgol uwchradd wneud iddo ymddangos fel rhywbeth enfawr, a’u gwneud yn fwy pryderus. Felly mae’n debyg mai taro cydbwysedd fyddai orau.

Ceisiwch wneud iddyn nhw deimlo’n frwdfrydig a hyderus, heb wneud i’r cam o bontio i’r ysgol uwchradd deimlo fel digwyddiad enfawr yn eu bywyd (er ei fod mewn gwirionedd!).

Mae ychydig o nerfau’n naturiol, ond gobeithio y byddan nhw’n edrych ymlaen at fis Medi yn llawn cyffro! 

Mwynhewch yr antur!

Mae El yn ddisgybl Blwyddyn 8 yn un o ysgolion Wrecsam. Dywedodd:

“Rwy’n cofio fy niwrnod cyntaf yn yr ysgol uwchradd. Roeddwn i’n nerfus pan gerddais i at y giatiau ac yn teimlo mor fach wrth edrych ar y plant hŷn!

“Ond unwaith es i drwy’r giatiau, fe drodd y nerfau’n gyffro a chefais lawer o hwyl wrth ddod i adnabod fy nghyd-ddisgyblion a’m hathrawon newydd.

“Roedd yr ysgol yn edrych yn fawr i ddechrau, ond buan iawn y dewch chi i ddysgu eich ffordd o’i hamgylch. Mae’r athrawon yn gwybod bod popeth yn newydd i chi ym Mlwyddyn 7, ac maen nhw’n rhoi llawer o gymorth i chi.

“Mae symud i’r ysgol uwchradd yn antur ac yn rhywbeth i chi edrych ymlaen ato.”

via GIPHY

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar-lein.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd”] ADNEWYDDWCH EICH CASGLIADAU BIN GWYRDD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Child benefit Mae’r dyddiad cau i rieni ddiweddaru Budd-dal Plant ar gyfer pobl ifanc 16 oed yn agosáu
Erthygl nesaf Ty Pawb Award Mae Tŷ Pawb wedi ennill prif wobr bensaerniaeth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English