Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Roedd fy ngofalwyr maeth bob amser yn deud wrtha’i am fod yn annibynnol cyn i mi symud allan felly roedd y profiad yma’n grêt i mi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Roedd fy ngofalwyr maeth bob amser yn deud wrtha’i am fod yn annibynnol cyn i mi symud allan felly roedd y profiad yma’n grêt i mi
Y cyngor

Roedd fy ngofalwyr maeth bob amser yn deud wrtha’i am fod yn annibynnol cyn i mi symud allan felly roedd y profiad yma’n grêt i mi

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 25, 2021 10:31 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Roedd fy ngofalwyr maeth bob amser yn deud wrtha’i am fod yn annibynnol cyn i mi symud allan felly roedd y profiad yma’n grêt i mi
RHANNU

Person ifanc rhwng 16 a 25 oed yw rhywun sydd yn gadael gofal, sydd wedi derbyn gofal y tu allan i’w teulu ar ryw adeg.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Gall y cyfnod rhwng bod mewn gofal ac yna gadael gofal fod yn brofiad anodd iawn, yn enwedig pan fydd rhywun mor ifanc.

Yn rhan o wythnos Pobl sy’n Gadael Gofal rydym wedi gwahodd rhai o’n pobl ifanc sydd wedi gadael gofal i rannu eu profiadau, cyngor, eu straeon, eu cynlluniau a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Mae straeon rhai o’r bobl ifanc wedi bod yn emosiynol iawn a heblaw am newidiadau bach mewn rhai achosion i helpu i’w cadw’n ddienw, mae’r geiriau ysbrydoledig yn cael eu siarad gan y bobl ifanc eu hunain.

Gofynnwyd yr un cwestiwn i’r bobl ifanc sydd wedi gadael gofal, ac mae’r atebion yn dangos bod eu hamgylchiadau personol a’u personoliaethau wedi golygu profiadau gwahanol iawn.

Rydym ni’n gobeithio y bydd eu geiriau cynnig cysur, cyngor ac ysbrydoliaeth i oedolion ifanc eraill mewn sefyllfaoedd tebyg….

Dwi’n 22 oed ac yn astudio hyfforddiant a rheolaeth pêl-droed yn UCFB ar yr un pryd â gweithio fel goruchwyliwr yn Trespass.  Dwi wrth fy modd yn chwarae gemau tîm cystadleuol fel pêl-droed a phêl fasged a dwi’n chwarae pêl-droed i dîm merched yn Salford ac yn y brifysgol.

Chwaraeon ydi’r rhan fwyaf o fy hobïau ond chwaraeon tîm oherwydd eu bod nhw’n fwy cystadleuol. Dwi’n hoffi treulio amser efo fy ffrindiau o’r brifysgol ac o’r tu allan i’r brifysgol. Dwi’n hoffi coginio bwyd iach a dwi hefyd yn hoffi tynnu lluniau am ei fod yn fy helpu i ymlacio.

Dydw i ddim yn cofio faint yn union oedd fy oed i pan ddes i mewn i’r system ofal ond dwi wedi bod yn y system ers pan o’ ni’n ifanc iawn a dwi dal yn rhan ohoni heddiw.

Mi o’ ni’n ofnus iawn ar y dechrau a doedd o ddim y profiad gorau ond dros amser daeth pethau’n well, ‘da chi’n dechrau deall y sefyllfa a sut mae gofal yn gallu eich helpu chi lot fawr efo’r pethau ‘da chi isio’u cyflawni mewn bywyd.

Roedd fy ngofalwyr maeth bob amser yn deud wrtha’i am fod yn annibynnol cyn i mi symud allan ac i wneud pethau drosof fy hun felly roedd y profiad yma’n grêt i mi.  Dwi wrth fy modd bod yn annibynnol a gneud bob dim drosof  fy hun.

Ar hyn o bryd dwi yn y brifysgol ac yn gweithio fel goruchwyliwr ond un diwrnod, ar ôl gorffen yn y brifysgol mi faswn wrth fy modd bod yn hyfforddwr i gymuned Manchester City.

……………………………………………………………………………………………………………….

Rydw i’n mwynhau cael hwyl gyda fy ffrindiau agos a mynd am dro hir gyda fy nghŵn ac rydw i’n hapusach yng nghwmni anifeiliaid na phobl gan fod anifeiliaid yn rhoi cysur i mi ond mae pobl yn rhoi drama i mi.

Rydw i wrth fy modd yn darllen ac ysgrifennu’n greadigol. Fe allwn i ennill medal am wylio tomen o raglenni yn syth ar ôl ei gilydd ac rydw i wrth fy modd yn arlunio. Dawnsio a cherddoriaeth yw fy mywyd.

Roeddwn i’n 8 oed, bron yn 9 pan wnes i ddechrau derbyn gofal

Fe achosodd lawer o boen meddwl a thrawma i mi ond roedd gen i bobl dda o fy nghwmpas ac fe wnaethon nhw fy helpu i setlo’n raddol. Fe wnaethon nhw fy helpu i gael bywyd da ac er mor anodd oedd addasu, rydw i mor ddiolchgar am y cymorth a’r gefnogaeth maen nhw wedi eu rhoi i mi.

Roedd yn anodd iawn ond mae’r gefnogaeth maen nhw’n ei rhoi i ti yn anhygoel. Os bydd rhywbeth yn bosib, maen nhw’n gwneud iddo ddigwydd, maen nhw yno i ti ar gyfer unrhyw anhawster neu angen, ar ôl rhoi gwthiad go dda i ti, ac maen nhw wir yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl i dy helpu ar dy daith tuag at annibyniaeth, maen nhw bob amser yn gyfeillgar ac yn cynnig cysur a does dim diwedd i’w cefnogaeth. Os byddi di’n gofyn am gymorth, byddan nhw’n gwneud eu gorau i dy helpu.

Diolch i’r tîm gadael gofal a’u cefnogaeth, rydw i nawr yn glanhau mewn ysgol uwchradd ac yn disgwyl am eiddo, felly nid yn unig ydyn nhw wedi fy helpu i ddychwelyd i fyd gwaith, ond maen nhw hefyd wedi rhoi’r hyder i mi symud allan. Fe hoffwn i fynd i’r brifysgol i ddilyn cwrs ysgrifennu creadigol i weld i le y byddai hynny’n fy arwain.

Os ydych chi’n rhywun sy’n gadael gofal ac eisiau cyngor, cysylltwch â’r tim gadael gofal :01978295610

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth cysylltwch â:Taylor Downes , 01978295316 , Taylor.Downes@wrexham.gov.uk

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am gynnig llety â chefnogaeth, cysylltwch â:Sara Jones –  sara.jones@wrexham.gov.uk, 01978295320

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol dwi’n gobeithio astudio gwaith cymdeithasol a dod yn weithiwr cymdeithasol fy hun a helpu plant a theuluoedd yn union fel fi dwi’n gobeithio astudio gwaith cymdeithasol a dod yn weithiwr cymdeithasol fy hun a helpu plant a theuluoedd yn union fel fi
Erthygl nesaf Resi Rydym yn chwilio am Swyddogion Gofal Plant Preswyl

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English