Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwiriwch fod y tacsi yr ydych yn mynd iddo yn gyfreithlon!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwiriwch fod y tacsi yr ydych yn mynd iddo yn gyfreithlon!
Y cyngor

Gwiriwch fod y tacsi yr ydych yn mynd iddo yn gyfreithlon!

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 27, 2023 3:58 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Taxi
RHANNU

Wrth i’r Nadolig agosáu mae pawb yn edrych ymlaen at nosweithiau allan Nadoligaidd gyda’u ffrindiau a’u perthnasau, felly ’rydym yn atgoffa pawb bod angen gwneud yn siŵr bod unrhyw dacsi yr ydych yn ei ddefnyddio wedi ei drwyddedu’n iawn.

Mae yna rai perchnogion ceir sydd heb fod yn yrwyr tacsi cyfreithlon, wedi eu trwyddedu’n iawn, a fydd yn cymryd mantais o bobl ar ddiwedd noson gan gymryd eu harian.Os nad ydynt wedi eu trwyddedu, nid ydynt wedi eu hyswirio, sydd yn golygu y gallai gostio’n ddrud i chi yn ddiweddarach pe bai unrhyw beth yn digwydd.

Dyma awgrymiadau defnyddiol i’ch cadw yn ddiogel

  • Dylai pob cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacni arddangos platiau trwydded gwyn a phiws y tu allan i’r cerbydau.
  • Bydd cerbyd hacni yn dangos plât ar y cefn ac arwydd wedi ei oleuo ar y to yn dangos y gair ‘TACSI’.
  • Bydd gan gerbydau hurio preifat arwyddion melyn yn y ffenestri cefn hefyd.
  • Dylai fod gan yr holl yrwyr fathodyn adnabod yn dangos eu henw, llun ohonynt, rhif trwydded a’r dyddiad y mae’r drwydded yn dod i ben arno. Os na ellwch weld y bathodyn, gofynnwch i’w weld cyn i chi gychwyn i unman.

Bydd nifer o yrwyr tacsi heb drwydded yn gyrru ar strydoedd prysur neu’n aros gerllaw mannau sy’n brysur gyda’r nosau am unigolion neu grwpiau sydd ddim callach, felly sicrhewch eich bod bob amser yn gwirio, fel nad ydych yn dod yn rhan o sgam.

Os ydych yn amau bod rhywun yn gweithredu fel tacsi heb drwydded, gellwch roi gwybod i’r Adran Drwyddedu amdano ar 01978 297441, e-bostiwch licensingservice@wrexham.gov.uk. Neu gellwch ffonio’r Heddlu ar 101. Gellwch aros yn ddienw pe dymunech.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Christmas carols Ymunwch â ni ar gyfer Gwasanaeth Carolau Cymuned Lluoedd Arfog Wrecsam cyntaf erioed ar 5 Rhagfyr
Erthygl nesaf Mae ‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn penodi cynllunwyr gweithgareddau Mae ‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn penodi cynllunwyr gweithgareddau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Crematorium
Y cyngor

Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English