Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cadw bwyd yn ddiogel – Rhan 2
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor
St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cadw bwyd yn ddiogel – Rhan 2
Y cyngor

Cadw bwyd yn ddiogel – Rhan 2

Diweddarwyd diwethaf: 2022/03/10 at 4:26 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Food Storage
RHANNU

Ddoe, mi wnaethom drafod ffyrdd gwahanol y gellir storio bwyd yn eich oergell, beth i wneud gyda chynnyrch cig, a pha fwydydd y gellir eu rhewi a’u bwyta ar ddyddiad diweddarach. Heb ei weld y tro cyntaf? Gallwch weld Rhan 1 yma…

Yn Rhan 2, rydym yn edrych mwy ar y ffyrdd o gadw bwyd yn ddiogel, eich cadw yn iach ac osgoi gwastraffu bwyd heb angen.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Cadw bwydydd sych mewn cynwysyddion

Nid oes angen cadw llawer o fathau o fwyd yn yr oergell i’w cadw’n ddiogel i’w bwyta. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys bwydydd sych megis reis, pasta a blawd, llawer o ddiodydd, bwydydd tun, a jariau heb eu hagor, ond mae’n rhaid i chi dal eu cadw’n ddiogel.

I gadw bwyd sych yn ddiogel:

  • cadwch fwydydd mewn bagiau wedi’u selio neu gynwysyddion – mae hyn yn eu helpu i gadw’n ffres ac yn atal unrhyw beth rhag disgyn i mewn i’r bwyd drwy ddamwain
  • peidiwch â storio bwyd neu ddiodydd wrth ymyl cynnyrch glanhau na chemegau eraill.
  • peidiwch â storio bwyd mewn cynwysyddion sydd wedi cael eu defnyddio ar gyfer pwrpas eraill
  • defnyddiwch boteli dŵr plastig heb eu torri, y gallwch eu glanhau yn unig.
  • peidiwch â storio bwyd ar y llawr, oherwydd gall atynnu llygod bach, morgrug a phlâu eraill.
  • cadwch yr ardal storio yn sych a ddim yn rhy gynnes

Tuniau

Pan fyddwch yn agor tun bwyd ac nid ydych am ei ddefnyddio’r holl fwyd yn syth, gwagiwch i mewn i fowlen, neu gynhwysydd arall, a’i roi yn yr oergell.

Peidiwch â storio bwyd mewn tun agored, nag ailddefnyddio tuniau i goginio neu storio bwyd. Y rheswm am hyn yw pan fydd tun wedi’i agor a mae’r bwyd yn agored yn yr aer, yna gall y tun o’r can drosglwyddo’n gynt i gynnwys y can.

Nid yw’r cyngor hwn yn berthnasol i fwydydd sy’n cael eu gwerthu mewn tuniau sydd â chaead a ellir eu hail-selio, megis syryp a choco, oherwydd nid yw’r mathau hyn o fwydydd yn adweithio gyda’r can.

Gorchuddio bwyd gyda ffoil tun

Mae ffoil tun, sydd wedi’i wneud o alwminiwm, yn gallu bod yn ddefnyddiol i orchuddio a chau bwydydd. Ond mae’n well peidio defnyddio ffoil na chynwysyddion a wneir gan alwminiwm i storio bwyd sydd yn asidig iawn, megis:

  • tomato
  • riwbob
  • bresychen
  • ffrwythau meddal

Cofiwch! Gallwch ailgylchu ffoil tun glân gyda chaniau alwminiwm.

Deall dyddiadau

Mae deall y gwahaniaeth rhwng y dyddiad ‘ar ei orau cyn’ a’r dyddiad ‘defnyddio olaf’ er mwyn sicrhau nad ydych yn taflu bwyd da i ffwrdd yn ddiangen.

Mae’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd. Bydd bwyd yn ddiogel i’w fwyta ar ôl y dyddiad yma, ond mae’n bosibl na fydd bellach ar ei orau.

Mae’r dyddiad defnyddio olaf yn ymwneud â diogelwch: ni ddylai bwyd gael ei fwyta, ei goginio na’i rewi ar ôl y dyddiad hwn gan y gallai fod yn anniogel – hyd yn oed os yw’n edrych ac yn arogli’n iawn.

Mae 80% o ddefnyddwyr wedi taflu bwyd oedd yn agos i’w ddyddiad defnyddio olaf heb sylweddoli y gallant ei rewi a’i gadw at eto. Cofiwch, mae’n ddiogel i rewi bwyd hyd at y dyddiad defnyddio olaf!

Diolch i chi am roi o’ch amser i ddarllen y wybodaeth hon. Gobeithio y bydd yr awgrymiadau hyn yn eich helpu i gael y gorau o’r bwyd yr ydych yn ei brynu.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cold Caller Annog Tennantiad y cyngor I ddweud “na” wrth alwyr digroeso
Erthygl nesaf Mayor Visits Ukraine Donation Convoy Maer yn ymweld ag Ymdrechion Confoi Dyngarol Gwirfoddol

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau Mawrth 3, 2026
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor Mawrth 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English