Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Carnifal Geiriau Wrecsam 2022 – Gŵyl Lenyddol Ei Hun yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Carnifal Geiriau Wrecsam 2022 – Gŵyl Lenyddol Ei Hun yn Wrecsam
Y cyngor

Carnifal Geiriau Wrecsam 2022 – Gŵyl Lenyddol Ei Hun yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 18, 2022 9:15 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Carnival of Words
RHANNU

Mae rhaglen llawn adloniant wedi’i threfnu ar gyfer un o brif wyliau llenyddol Cymru. Mae Carnifal Geiriau Wrecsam nawr yn ei 8fed blwyddyn ac mae’n rhan o’r calendr llenyddol yng Nghymru a’r gororau yn denu ystod eang o awduron adnabyddus. Mae’r trefnwyr yn falch iawn y bydd cynulleidfaoedd byw yn ôl ar gyfer yr ŵyl eleni a gynhelir rhwng 22-30 Ebrill.

Ymhlith y nifer o awduron fydd yn ymddangos yng Ngharnifal 2022 fydd gwerthwr gorau y Sunday Times Milly Johnson, un o’r 10 Uchaf o’r awduron ffuglen benywaidd gorau yn y DU a’r poblogaidd Gervase Phinn, sy’n cael ei adnabod orau am ei atgofion twym-galon fel arolygydd ysgol yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Hefyd yn ymddangos eleni fydd yr awdur trosedd cyfareddol Mark Billingham, Simon McGleeve â’i lyfr The Snowdonia Killings yn hynod boblogaidd a Kate Ellis fydd yn gwneud ymddangosiad arbennig yn y digwyddiad dirgelwch llofruddiaeth poblogaidd.

Ni fydd cefnogwyr hanes yn dymuno methu Barbara Erskine, brenhines y genre rhwng y gorffennol a’r presennol a chawr ffuglen hanesyddol Patricia Bracewell sy’n hedfan o’r UDA yn arbennig ar gyfer y Carnifal.  Bydd yr awdur lleol Peter Evans yn rhannu ei siwrnai i fyny’r afon Dyfrdwy tra bydd Chris Clode yn rhannu ei angerdd am chwareli llechi Gogledd Cymru, nawr yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Bydd Matthew Hall, wnaeth greu ac ysgrifennu’r gyfres deledu boblogaidd Keeping faith aKavanagh Q Cyn siarad am ei fywyd trosedd a chyn weinidog y llywodraeth Alan Johnson yn dychwelyd i’r Carnifal eleni i drafod ei lyfrau newydd The late Train to Gipsy Hillsef ei nofel gyffrous gyntaf. Hefyd yn ymddangos yn y Carnifal fydd Sarah Hilary, enillodd ei nofel gyntaf wobr Nofel Gyffrous y Flwyddyn Theakston, a’r awdur stori fer sydd wedi ennill gwobrau, Carys Davies.

Bydd yna ddigwyddiadau cyfrwng Cymraeg gyda Iestyn Tyne ac Elan Grug Muse a Bethan Gwanas, yr awdur dros 40 o lyfrau yn y Gymraeg, fydd yn sgwrsio am ei llyfr diweddaraf a gyd-ysgrifennwyd gyda’r ci!

Mae Deliverance yn disgrifio’r ymchwiliadau bob dydd i ysbrydion swnllyd, ysbrydion a ffenomena goruwchnaturiol a gynhaliwyd gan y Parch. Dr Jason Bray, Ficer Eglwys San Silyn, y gweinidog gwaredigaeth Anglicanaidd cyntaf i ysgrifennu am ei brofiadau.

Bydd awduron lleol a darpar awduron yn gallu mynychu digwyddiad am ddim i gyfarfod awduron lleol eraill, beirdd, blogwyr, newyddiadurwyr a chyfansoddwyr caneuon a chymryd rhan yn y sesiynau panel. Mae Viva Voce yn ddigwyddiad meic agored i feirdd lleol rannu eu gwaith a chael eu diddanu gan eu cyfoedion. Bydd yna ddarllenathon gan garwyr llyfrau lleol y nofel glasurol gan George Eliot Middlemarch.

Estynnir gwahoddiad cynnes i deuluoedd i ddigwyddiad am ddim yn Yellow & Blue yn Sgwâr Henblas ble bydd storïwyr plant, Jacqui Bloor, Fiona Collins, Jude Lennon, Krishnapyia Ramamoorthy a Sarah Parkinson yn cynnal “Stori i’r Teulu Cyfan’ ddydd Sadwrn 24 Ebrill.

Mae Dylan Hughes, Cyfarwyddwr yr Ŵyl wedi dweud “mae’r Carnifal yn ôl eleni gyda rhaglen gyffrous ac amrywiol o ddigwyddiadau ac rydym yn falch iawn i allu gwahodd cynulleidfaoedd byw yn ôl i weld awduron a beirdd yn bersonol.”

Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau yn www.wrexhamcarnivalofwords.com.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol bleidleisio’n Etholiadau Lleol – Sicrhewch eich bod wedi’ch cofrestru i bleidleisio
Erthygl nesaf Erddig Sticeri Atal Troseddu wedi’u darparu yn Erddig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English