Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y cyngor yn cadw ei statws o fod yn gyngor sy’n deall dementia
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Wrexham museum
Cyfnod newydd i Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Y cyngor yn cadw ei statws o fod yn gyngor sy’n deall dementia
Pobl a lle

Y cyngor yn cadw ei statws o fod yn gyngor sy’n deall dementia

Diweddarwyd diwethaf: 2022/05/17 at 1:33 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Dementia Logo
RHANNU

Wythnos Gweithredu Dros Ddementia – Mai 16-22

Dan arweiniad y Gymdeithas Alzheimer’s, bydd y cyhoedd yn dod at ei gilydd yn ystod Wythnos Gweithredu Dros Ddementia i wella bywydau pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.

Cynnwys
Wythnos Gweithredu Dros Ddementia – Mai 16-22 Parhau i wneud cynnydd

Mae Cyngor Wrecsam wedi llwyddo i gynnal y statws ‘gweithio tuag at fod yn awdurdod sy’n deall dementia’ am y drydedd flwyddyn yn olynol, fel y mae’r Gymdeithas Alzheimer’s wedi’i gadarnhau.

Yn ogystal â chymorth parhaus gan yr adran gofal cymdeithasol i oedolion, mae yna Hyrwyddwyr Cyfeillion Dementia yn yr awdurdod hefyd sy’n darparu sesiynau ymwybyddiaeth i aelodau eraill o staff i weithio tuag at wneud Wrecsam yn awdurdod sy’n deall dementia.

Mae’r pandemig wedi effeithio’n fawr ar ofalwyr teulu a gofalwyr proffesiynol ac yn ôl adroddiad, rhwng mis Mawrth a Mehefin 2020, roedd gan chwarter o’r bobl yn y DU a gollodd eu bywydau i Covid-19 ddementia.

Yn ystod y cyfnodau heriol hyn bu i’r cyngor roi cymaint o gefnogaeth â phosibl i’r unigolion hynny a effeithiwyd gan ddementia a’u teuluoedd.

Parhau i wneud cynnydd

Gan gynnal y statws am y drydedd flwyddyn, mae’r cyngor yn parhau i gadw safonau yn uchel ac yn parhau i wella bywydau’r rheiny sy’n byw â dementia.

Ar ôl clywed y newyddion am y cyrhaeddiad hwn, dywedodd Alwyn Jones, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, “Mae’n wych clywed bod Cyngor Wrecsam wedi cadw ei statws o weithio tuag at fod yn awdurdod sy’n deall dementia.

“Mae llawer o’n staff yn gweithio’n ddiflino i roi cefnogaeth i’r rhai sy’n byw â dementia a’u teuluoedd, ac mae derbyn y wobr hon yn adlewyrchu hynny.

“Mae ymchwil cenedlaethol wedi dangos bod y pandemig Covid-19 wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl y rhai sydd wedi’u heffeithio gan ddementia.  Bu i’w teimladau o unigedd gynyddu a gwelwyd dirywiad yn eu lles corfforol a’u galluoedd gwybyddol.

“Felly roedd yn bwysicach nag erioed ein bod yn cynnal ein safonau uchel o gymorth a gwneud yn siŵr bod cefnogaeth bob amser ar gael i’r rheiny yn ein cymuned sydd â dementia a’u teuluoedd.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Recruiting Rydym yn Cyflogi – Noson Recriwtio Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phlant
Erthygl nesaf Knife Angel Yr Angel Cyllyll i ddod i Wrecsam!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrexham museum
Cyfnod newydd i Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 16, 2026
Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle Mawrth 13, 2026
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall Mawrth 12, 2026
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall Mawrth 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrexham museum
Pobl a lleY cyngor

Cyfnod newydd i Amgueddfa Wrecsam

Mawrth 16, 2026
Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Pobl a lle

Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol

Mawrth 13, 2026
Wrexham v Swansea
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?

Mawrth 11, 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle

Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026

Mawrth 11, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English