Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wythnos Ailgylchu 2022 – yr atebion i’ch holl gwestiynau am ailgylchu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Wythnos Ailgylchu 2022 – yr atebion i’ch holl gwestiynau am ailgylchu
Pobl a lleY cyngor

Wythnos Ailgylchu 2022 – yr atebion i’ch holl gwestiynau am ailgylchu

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 14, 2022 9:50 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Wythnos Ailgylchu 2022 - yr atebion i’ch holl gwestiynau am ailgylchu
RHANNU

Cynhelir Wythnos Ailgylchu 2022 rhwng 17 a 23 Hydref, a’i nod yw ateb eich cwestiynau am ailgylchu er mwyn i ni oll allu ailgylchu’n well gyda’n gilydd. Drwy wneud hynny, gallwn helpu Cymru yn ein hymdrech barhaus i fod yn ailgylchwyr gorau’r byd (ni yw’r trydydd ar hyn o bryd).

Cynnwys
  • “Rhowch yr holl wybodaeth y maen nhw ei hangen i bobl”
    • Peidiwch â ‘gobaith-gylchu’
    • #Wrecsgylchu20
    • Y wybodaeth ddiweddaraf

Yr Wythnos Ailgylchu yw’r ymgyrch ailgylchu flynyddol genedlaethol fwyaf, a chaiff ei chyflwyno yng Nghymru gan Cymru yn Ailgylchu.

“Rhowch yr holl wybodaeth y maen nhw ei hangen i bobl”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym wrth ein boddau unwaith eto i fod yn cefnogi’r Wythnos Ailgylchu. Eleni, mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar un o’r rhwystrau mwyaf i bobl o ran ailgylchu, sef y dryswch ynglŷn â’r eitemau y gellir ac na ellir eu hailgylchu. Mae’n bwysig rhoi’r holl wybodaeth y maen nhw ei hangen i bobl er mwyn iddyn nhw allu ailgylchu’n gywir ac yn hyderus. Byddwn yn rhannu gwybodaeth am ailgylchu drwy gydol yr wythnos, ac mae Cymru yn Ailgylchu hefyd wedi creu gwefan, sef WythnosAilgylchu.org.uk, y gall pobl ei defnyddio i gael atebion i’w cwestiynau am ailgylchu.”

Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd

Peidiwch â ‘gobaith-gylchu’

‘Gobaith-gylchu’ yw’r weithred o roi rhywbeth yn y bin ailgylchu gyda’r gobaith y caiff ei ailgylchu, hyd yn oed os nad oes llawer o dystiolaeth i gadarnhau’r dyb hon. Yn anochel, mae hyn yn arwain at halogi, felly mae’n bwysig iawn nad ydych chi’n gwneud hyn.

Oes yna un eitem nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud gyda hi? Ewch draw i WythnosAilgylchu.org.uk i gael yr ateb i’ch cwestiwn 🙂

#Wrecsgylchu20

Byddwn yn cydweithio â sawl Eco-gyngor mewn ysgolion yn Wrecsam dros y misoedd nesaf wrth i ni barhau i ddathlu 20 mlynedd o wasanaeth ailgylchu ymyl palmant yn Wrecsam.

Rydym yn gosod ugain o heriau i ddathlu #Wrecsgylchu20! Os ydych chi’n athro neu’n athrawes ac mae gan eich ysgol chi ddiddordeb mewn ymuno â’r her hon, dydi hi ddim yn rhy hwyr i chi wneud hynny. Gallwch gofrestru eich diddordeb drwy anfon neges e-bost i Wrexcycle20@wrexham.gov.uk

Bydd yr heriau’n ymwneud â themâu sy’n cynnwys plastigau untro, ailgylchu, compostio ac eco-lapio.

Y wybodaeth ddiweddaraf

Byddwn yn rhannu awgrymiadau ailgylchu ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr wythnos, a gallwch ddilyn yr hashnod #WythnosAilgylchu i gymryd rhan.

Gallwch ddod o hyd i ni ar Facebook, Twitter ac Instagram.

Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.yourvoicewrexham.com/arolwg/1663 “] Cymerwch ran yn ein harolwg
[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Datblygiad newydd yn Wrecsam i greu cartrefi byw â chefnogaeth ‘arbenigol’ i rieni sengl a’u plant Datblygiad newydd yn Wrecsam i greu cartrefi byw â chefnogaeth ‘arbenigol’ i rieni sengl a’u plant
Erthygl nesaf mabwysiadu genedlaethol Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu: Allech chi ddarparu cartref am byth cariadus?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English