Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sesiynau cymorth costau byw yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd drwy’r gaeaf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Sesiynau cymorth costau byw yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd drwy’r gaeaf
Busnes ac addysgPobl a lle

Sesiynau cymorth costau byw yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd drwy’r gaeaf

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 13, 2022 3:10 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Sesiynau cymorth costau byw yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd drwy’r gaeaf
RHANNU

Hoffem atgoffa ein trigolion bod llyfrgelloedd yn Wrecsam yn parhau i gynnal sesiynau galw heibio sy’n cynnig cymorth costau byw, gydag amryw o sefydliadau wrth law i gynnig cyngor am arbed ynni a gostwng eich biliau.

Mae llyfrgelloedd yn Wrecsam wedi bod yn cynnal y sesiynau hyn ers dechrau mis Hydref, ond mae yna ddigon o ddyddiadau’n dal i ddod, sef:

  • Dydd Gwener, 16 Rhagfyr 2022 – Llyfrgell Rhos, 11am – 3pm
  • Dydd Gwener, 6 Ionawr 2023 – Llyfrgell Gwersyllt, 2pm – 5pm
  • Dydd Gwener, 20 Ionawr 2023 – Llyfrgell Rhiwabon, 2pm – 5pm
  • Dydd Gwener, 3 Chwefror 2023 – Llyfrgell Llai, 2pm – 5pm
  • Dydd Gwener, 17 Chwefror 2023 – Llyfrgell Wrecsam, 10am – 2pm

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd y Grŵp Costau Byw Trawsbleidiol: “Does dim angen i chi wneud apwyntiad, dim ond galw heibio yn ystod yr amseroedd penodol ar y dyddiau hyn i gael sgwrs wyneb yn wyneb â’r gwahanol sefydliadau, all roi cyngor i chi. Gall gwneud yn siŵr eich bod yn hawlio popeth sy’n ddyledus i chi wneud gwahaniaeth mawr, felly mae hwn yn gyfle da i gasglu gwybodaeth a allai eich helpu i ostwng eich biliau dros y gaeaf.”

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Lleoedd Cynnes Wrecsam

Gyda’r argyfwng costau byw yn achosi poen meddwl mawr i lawer o drigolion o ran gwresogi eu cartrefi yn ystod y misoedd oerach, rydym ni wedi dechrau sefydlu ‘lleoedd cynnes’ cymunedol yn Wrecsam – lleoedd sydd eisoes wedi’u gwresogi sy’n estyn croeso i bobl ddod i mewn i gadw’n gynnes.

Rydym ni’n dechrau gyda’n llyfrgelloedd ein hunain, lle mae modd i unrhyw un ddod i mewn i gadw’n gynnes a chyfforddus.

Mae’r cyngor yn dymuno darparu rhwydwaith o leoedd cynnes i gefnogi unrhyw un sy’n ei chael yn anodd gyda chostau byw. Rydym yn awyddus i weithio gydag unrhyw grŵp neu sefydliad cymunedol a fyddai’n gallu darparu lleoedd cynnes yn eu cymuned.

Os ydych yn grŵp neu’n sefydliad sy’n gallu darparu lle cynnes e-bostiwch warmplaces@wrexham.gov.uk

Yn eich e-bost, dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Enw’r sefydliad
  • Cyfeiriad
  • E-bost
  • Rhif ffôn/symudol
  • Unigolyn cyswllt

(Sylwer y disgwylir i’r cynnig sylfaenol o le cynnes fod AM DDIM i bawb).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Lleoedd Cynnes Wrecsam.

Gallwch ddod o hyd i leoedd cynnes eraill yn eich cymuned ar wefan warm welcome.

Neu os oes gan eich sefydliad le cynnes, rydym yn argymell eich bod yn cofrestru ar wefan warm welcome  i’w gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i chi.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gostau Byw – Canolfannau Clyd a mentrau eraill

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Walking Osgowch ddirwy yng nghanol y ddinas
Erthygl nesaf Unimaq Unimaq – cwmni o Wrecsam ac arweinydd byd-eang

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Busnes ac addysg

Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau

Hydref 13, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English