Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen B5605 Newbridge Road – Symud i benodi contractwr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Arall
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Pobl a lle
Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Fideo Pobl a lle
Be Mighty Recycle Top Banana
Bydd wych, ailgylcha – arbed arian, gwastraffu llai!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Parking sign
Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > B5605 Newbridge Road – Symud i benodi contractwr
Y cyngor

B5605 Newbridge Road – Symud i benodi contractwr

Diweddarwyd diwethaf: 2023/05/26 at 3:25 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Newbridge
RHANNU

Cymerwyd cam ymlaen gyda’r gwaith o drwsio B5605 Newbridge Road gyda’r newyddion ein bod yn gwahodd contractwyr i gynnig gwneud y gwaith ar eTender Wales.

Rydym ni’n chwilio am gwmni sydd â phrofiad yn y maes yma o waith, a gwnaed y penderfyniad i hysbysebu drwy Fframwaith Contractwr Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA). Fe ddylai’r llwybr yma sicrhau cydymffurfiaeth â chanlyniad cytunedig o fewn Dogfennaeth Rheoliadau Ariannol.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Bydd gan gontractwyr 6 wythnos i gyflwyno eu cynnig ac ar ôl 3 wythnos fe fydd yna gyfle i swyddogion y Cyngor ateb unrhyw gwestiynau sydd wedi codi.

Ar ôl chwe wythnos bydd y tendrau’n cael eu gwerthuso yn unol â’n prosesau Caffael a bydd unrhyw faterion yn cael eu datrys cyn i’r cynigydd a ffafrir gael ei ddewis.

Mae cymhlethdod y cynllun yma’n golygu bod angen dyluniad a manylion adeiladu, a gwaith cynllunio a chaffael cysylltiedig unigryw ac rydym ni’n falch bod y gefnogaeth hon yn cael ei darparu gan Beirianwyr Ymgynghorol (Atkins) ac maent yn canolbwyntio ar risg cytundebol.  Mae cynnydd bellach wedi cael ei wneud ac rydym wedi cyrraedd y cam pan allwn ni wahodd cynigion, drwy’r Fframwaith y soniwyd amdano ynghynt, er mwyn i’r cam mawr nesaf barhau gyda hyder. Mae’r diwydrwydd hyd yn hyn wedi talu ar ei ganfed gan fanteisio ar y cyfle ar gyfer cyfnod pontio esmwyth i’r cam adeiladu a fydd yn dilyn.

Bydd mantais ychwanegol tymhorau’r gwanwyn a’r haf i ddelio â chyfnodau mwyaf cymhleth y gwaith atgyweirio yn darparu ei fanteision ei hun a chanlyniadau da y mae preswylwyr Wrecsam yn ei haeddu.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Yr Amgylchedd: “Rydw i’n falch fod y gwaith ar y prosiect pwysig yma wedi cyrraedd y cam yma.

“Mae cau’r ffordd wedi cael effaith sylweddol ar gymunedau lleol a’r gwasanaethau brys sydd yn gorfod gyrru milltiroedd allan o’r ffordd, yn aml yn ddyddiol.

Yr amserlen o ddigwyddiadau hyd yn hyn:

Ionawr 2021 – Tarodd storm enfawr o’r enw Christoph gan achosi methiant difrifol yn y llethr gan orfodi i’r ffordd orfod cael ei chau.

Mawrth 2021 – Yn dilyn canlyniadau ymchwiliadau tir cychwynnol, fe gomisiynwyd adroddiad pellach i drefnu asesiad o gyflwr y tir.

Ebrill 2021 – Cynhaliwyd rhagor o arolygon manwl a gafodd eu prosesu gan ffurfio rhan o’r adroddiad dewisiadau atgyweirio cychwynnol.  Ymhellach, mae rhagor o waith ymchwilio’r tir wedi’i dargedu wedi digwydd, mae data wedi cael ei gasglu ac yn parhau i gael ei gasglu i asesu amodau dŵr arwyneb a monitro unrhyw symudiad yn ddwfn dan ddaear.

Mai 2021 – Cawsom £175,000 gan Lywodraeth Cymru i ad-dalu ein costau hyd yn hyn, ac i ariannu rhagor o astudiaethau paratoadol.  Defnyddiwyd y cyllid yma hefyd i lunio adroddiadau dewisiadau ac amcangyfrif o gostau ar gyfer sefydlogi a thrwsio’r llethr.

Chwefror 2022 – Cawsom ein gwahodd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynnig ar gyfer cyllid grant a gyflwynwyd ym mis Mawrth, wedi’i gefnogi gan y wybodaeth oedd wedi’i gasglu erbyn yr adeg hynny, ac roeddem yn falch o gael y cyllid y gwnaethom gais amdano yn llawn ym mis Ebrill 2022.

Parhaodd y gwaith wrth lunio’r dogfennau manyleb ac agosáu at benodi Peirianwyr Ymgynghorol.  Cafodd hyn ei hysbysebu, drwy Fframwaith a nodwyd ym mis Hydref 2022, ac fe benodwyd y Peirianwyr Ymgynghorol llwyddiannus ym mis Tachwedd 2022.

Tachwedd/Rhagfyr 2022 – Yn y cyfnod cyn y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd cafodd tîm yr Ymgynghorwyr ei ffurfio a buont yn paratoi’r dogfennau angenrheidiol i gyflwyno gwahoddiadau er mwyn i Gontractwyr Dylunio ac Adeiladu gynnig ar gyfer y cynllun a fydd yn golygu trwsio ardal y tirlithriad ac ailadeiladu’r cerbytffordd, ac mae’r Cyngor yn falch o gadarnhau bod y dogfennau hyn wedi cael eu rhannu ar eTender Wales.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ty Pawb in Wrexham Cyfle i fod yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Achieving carbon zero event in Wrexham Digwyddiad Cyflawni Di-garbon – Dros 50 o fusnesau yn mynychu’r cyfarfod cyntaf

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Arall Mawrth 6, 2026
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Pobl a lle Mawrth 6, 2026
Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Fideo Pobl a lle Mawrth 6, 2026
Be Mighty Recycle Top Banana
Bydd wych, ailgylcha – arbed arian, gwastraffu llai!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Mawrth 6, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English