Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Osgoi Twyll Rhamant ar Ddiwrnod Sant Ffolant
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Osgoi Twyll Rhamant ar Ddiwrnod Sant Ffolant
Y cyngor

Osgoi Twyll Rhamant ar Ddiwrnod Sant Ffolant

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 4:28 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Romance fraud and scams
RHANNU

Wrth i Ddiwrnod Sant Ffolant agosáu bydd twyllwyr ar-lein yn ceisio twyllo’r rhai sy’n edrych am ramant i gael eu harian neu fanylion personol.

Mae mwy a mwy o bobl yn cwrdd â phobl ar-lein, ar rwydweithiau cymdeithasol, trwy chwarae gemau ar-lein, llwyfannau chwilio am gariad, unrhyw le ble gall pobl sgwrsio ar-lein – ac felly mae mwy a mwy o bobl yn datblygu perthnasau gyda phobl nad ydynt erioed wedi eu cyfarfod wyneb yn wyneb.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Mae chwilio am gariad ar-lein, er enghraifft, bellach yn un o’r ffyrdd mwyaf cyffredin i gwrdd â phartner rhamantaidd. Tra bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn rhai onest, yn anffodus mae rhai yn ceisio cymryd mantais o unigolion sy’n edrych am gariad.

Yn anffodus, mae twyllwyr wedi gweld sut y gallant gymryd maintais o hyn a nawr yn defnyddio proffiliau ffug, yn ffugio straeon, dylanwadu a chymell – oll gyda’r bwriad o greu cyswllt â rhywun diniwed ar y rhyngrwyd, gyda’r nod yn y pen draw i ddarbwyllo’r unigolyn diniwed i anfon arian atynt. Twyll rhamant yw hyn.

Ar gyfartaledd mae unigolyn yn colli £10,000 dros gyfnod y twyll. Yn 2021 roedd dros £99 miliwn wedi’i golli i dwyll rhamant.

Gall twyll rhamant ddigwydd i unrhyw un. Pob rhyw, oed, cyfeiriadedd rhywiol. Mae pobl o bob cefndir diwylliannol ac ethnig yn ddioddefwyr, dynion hoyw yn cael eu targedu’n anghymesur gyda 12.4% o’r holl ddioddefwyr yn 2021.

Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Mae Twyll Rhamant yn broblem trwy’r flwyddyn ac mae wedi costio llawer iawn o arian i rai pobl. Gyda Diwrnod Sant Ffolant ar y gorwel mae’n amserol roi rhybudd arall i sicrhau nad oes unrhyw un yn dioddef.

“Byddwch yn wyliadwrus o weithgaredd amheus ac edrychwch am yr arwyddion isod os ydych yn ansicr. Peidiwch byth â rhoi arian neu fanylion personol dim ots pa mor berswadiol ydynt.”

Arwyddion o Dwyll Cariad:

  • Cyn i chi wir ddod i’w hadnabod, maent yn datgan eu cariad yn gyflym.
  • Maent yn gwneud esgusodion pam ma allant sgwrsio dros fideo neu gwrdd wyneb yn wyneb.
  • Maent yn ceisio symud eich sgyrsiau yn gyflym oddi ar y llwyfan ble fu i chi gyfarfod.
  • Pan fyddant yn gofyn am gymorth ariannol, bydd ar gyfer argyfwng critigol o ran amser, a bydd y rheswm yn mynd at eich calon.
  • Efallai y byddant yn mynd yn amddiffynnol os ydych yn gwrthod helpu.
  • Efallai y byddant yn dweud wrthych am gadw eich perthynas yn breifat ac i beidio â thrafod unrhyw beth gyda’ch ffrindiau a theulu.

Darllenwch fwy am hyn ar wefan CrimeStoppers.

Os ydych wedi dioddef Twyll Rhamant cysylltwch â Crimestoppers ar y ffôn neu ar-lein – ffoniwch am ddim ar 0800 555 111 neu ddefnyddio eu ffurflen ar-lein yma ar ein gwefan 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cylch Chwarae a Chlwb Llywodraethwyr Gresffordd yn derbyn Gwobr Genedlaethol Cylch Chwarae a Chlwb Llywodraethwyr Gresffordd yn derbyn Gwobr Genedlaethol
Erthygl nesaf Super hero costumes Angen rhoddion ar gyfer Dyddiau Cyfnewid Gwisgoedd Ffansi

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026
Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Crematorium
Y cyngor

Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English