Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodi pum cymuned carbon isel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Nodi pum cymuned carbon isel
Pobl a lleBusnes ac addysg

Nodi pum cymuned carbon isel

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 8, 2023 1:52 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Climate change
RHANNU

Rydym wedi nodi pum ardal yn Wrecsam ar gyfer cyflwyno nifer o fesurau lleihau carbon ac fe anogir trigolion lleol i gymryd rhan ynddynt, fel rhan o’n cynlluniau i gefnogi natur a lleihau allyriadau carbon ar draws y fwrdeistref sirol.

Cynnwys
  • “Mentrau cymdeithasol y gall pobl gymryd rhan ynddynt”
  • “Datblygu cymunedau cryf”
    • Digwyddiadau ymgysylltu – cymerwch ran

Dyma’r pum ‘cymuned carbon isel’ a nodwyd: Offa, Cefn Mawr, Rhos, Rhosddu a Pharc Caia. Bydd pob un ohonynt yn derbyn hyd at £10,000 ar gyfer datblygu mentrau i annog newid mewn ymddygiad a lleihau allyriadau yn eu hardal leol.

Wedi gweld twll yn y ffordd? Gadewch i ni wybod.

Mae pob un o’r pum cymuned bellach yn sefydlu grwpiau llywio gyda’i gilydd a fydd yn gweithio i benderfynu a gweithredu’r mesurau mwyaf effeithiol y bydd trigolion yn dymuno chwarae eu rhan ynddynt er mwyn lliniaru newid hinsawdd.

“Mentrau cymdeithasol y gall pobl gymryd rhan ynddynt”

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Rydym yn falch o fod wedi cefnogi’r pum cymuned a byddwn yn cydweithio’n agos â nhw dros y misoedd nesaf i’w helpu i gyflwyno mesurau a fydd yn cefnogi natur ac yn lleihau allyriadau carbon. Gellir cynnig swm sylweddol o arian ar gyfer y prosiect hwn, fel bod gan y cymunedau’r arian sydd ei angen ar gyfer cyflwyno mentrau hynod gadarnhaol, y gall unigolion gymryd rhan ynddynt.”

“Datblygu cymunedau cryf”

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Er mwyn cefnogi’r pum cymuned ymhellach, byddwn yn cyflwyno cyfleoedd newydd iddynt ar gyfer hyfforddiant, yn ogystal â datblygu sgiliau. Bydd y prosiect hwn yn annog newid mewn ymddygiad yn y cymunedau a all fod yn un hirdymor yn erbyn effeithiau niweidiol newid hinsawdd ac allyriadau carbon. Gobeithiwn y bydd y gwaith hwn wir o gymorth i ddatblygu cymunedau cryf, sydd wedi ymrwymo i warchod a diogelu eu hamgylchedd lleol.”

Digwyddiadau ymgysylltu – cymerwch ran

Mae angen eich help arnom nawr i wireddu’r cynlluniau hyn!

Cynhaliwyd sesiwn ymgysylltu â’r gymuned Cefn Mawr yng Nghapel Ebenezer ar 20 Mai, ac rydym bellach yn chwilio am unigolion a all ein helpu ni i ddatblygu’r cynlluniau hyn ymhellach ar gyfer y gymuned hon. Os hoffech gymryd rhan, anfonwch e-bost at decarbonisation@wrexham.gov.uk

Bydd rhagor o sesiynau’n cael eu cynnal yn fuan yn y pum cymuned, lle bydd aelodau o’n tîm hinsawdd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, a bydd modd i chi drafod sut y gallwch gymryd rhan gyda’r prosiect.

Cynhelir y sesiwn nesaf yn niwrnod hwyl i’r teulu, Rhosddu, ym Mharc Rhosddu, ddydd Sadwrn 10 Mehefin (rhwng 12.00pm a 6.00pm). Gall trigolion rannu eu syniadau â’n tîm a gallwch hefyd roi gwybod i ni os ydych chi’n dymuno cymryd mwy o ran yn y prosiect.

Bydd cymuned Offa yn cynnal ei sesiwn ymgysylltu gyntaf ddydd Sadwrn, 1 (rhwng 10.00am a 2.00pm) Gorffennaf yng Nghanolfan Gymunedol Parciau, a bydd ein tîm a budd-ddeiliaid lleol eraill ar gael i wrando ar farn a syniadau trigolion ynghylch mesurau’r hinsawdd.

Bydd y Rhos hefyd yn cael sesiwn ddydd Sadwrn, 1 Gorffennaf rhwng 10.00am a 2.00pm a gynhelir yng Nghanolfan Gymunedol Rhos.

Mae yna hefyd Ddiwrnod Amgylcheddol yn cael ei gynnal ym Mhartneriaeth Parc Caia ar Ffordd y Tywysog Siarl rhwng 10.30am a 4.00pm ddydd Sadwrn, 1 Gorffennaf. Bydd ein tîm yn brysur yn Offa, ond bydd digonedd o weithgareddau gwych i drigolion, gan gynnwys caffi atgyweirio.

Bydd Parc Caia yn cael ei sesiwn gyntaf ddydd Mawrth, 11 Gorffennaf rhwng 3.45pm a 5.45pm yn Ysgol Hafod y Wern ar Ffordd Deva.

Gall unigolion gymryd rhan mewn sawl ffordd, a’n helpu ni i ddatblygu syniadau ar gyfer gweithredu! Os ydych chi’n dymuno cymryd rhan neu ddysgu mwy, cysylltwch â ni trwy anfon e-bost at decarbonisation@wrexham.gov.uk

Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

Rhannu
Erthygl flaenorol Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Erthygl nesaf Digital Screens Cynnig Sgriniau Digidol i helpu busnesau gyda hysbysebu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English