Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dau brosiect yn Wrecsam yn denu ymwelwyr arbennig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dau brosiect yn Wrecsam yn denu ymwelwyr arbennig
Y cyngorPobl a lle

Dau brosiect yn Wrecsam yn denu ymwelwyr arbennig

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 7, 2023 9:24 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Dau brosiect yn Wrecsam yn denu ymwelwyr arbennig
RHANNU

Yr wythnos ddiwethaf, croesawyd grŵp o swyddogion Llywodraeth Cymru i Adeiladau’r Goron yn Wrecsam fel rhan o’u hymweliad â Gogledd Cymru.

Daethant i Wrecsam i gwrdd â staff sy’n gweithio ar ddau brosiect a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Mae’r gronfa hon yn dod â nifer o ffrydiau ariannu presennol at ei gilydd ac yn canolbwyntio ar ofal yn y gymuned, iechyd emosiynol a lles, cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ddiogel, plant sydd wedi cael profiad o ofal, gwasanaethau gartref o’r ysbyty, a datrysiadau sy’n seiliedig ar lety.

Y ddau brosiect yw’r gwasanaeth atal integredig a chatalyddion cymunedol:

Mae Gwasanaeth Atal Integredig yn rhoi cefnogaeth i bobl sy’n dymuno aros neu ddychwelyd i’w cartref eu hunain, ond y gall fod angen cefnogaeth fyrdymor arnynt i wneud hynny yn yr hirdymor. Gall Gwasanaeth Atal Integredig greu cynllun wedi’i deilwra i helpu pobl i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt.

Menter gymdeithasol yw Catalyddion Cymunedol, a ariennir ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Bwrdd Iechyd. Mae’n cefnogi pobl i sefydlu fel ‘micro-fentrau’ – busnesau bach yn amrywio o unig fasnachwyr i fusnesau sy’n cyflogi wyth o bobl – sy’n cynnig gwasanaethau gofal a chefnogaeth hyblyg a phersonol i bobl hŷn, pobl sy’n byw ag anableddau, pobl y mae eu hiechyd meddwl yn wael a gofalwyr. Bwriad y gwasanaethau a gynigir yw ehangu’r cynnig gofal presennol gan yr awdurdod lleol, darparwyr annibynnol a’r trydydd sector.

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion:  “Mae yna angen i ddatblygu dulliau newydd ac arloesol o ddarparu gofal a chefnogaeth i fodloni anghenion gofal cynyddol y boblogaeth sy’n byw gartref, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig lle mae’r galw am wasanaethau’n uchel. Mae’r farchnad gofal cymdeithasol yn wynebu heriau sylweddol o ran recriwtio sy’n arwain at gyfnod hir o aros i unigolion sydd angen gofal gartref. Mae Catalyddion Cymunedol wedi eu comisiynu i helpu i greu marchnadoedd cymunedol gwydn, yn ogystal â chynnig y gallu i unigolion i gynnal lles a chael mynediad at eu cymuned a’u cyfoedion; gan leihau’r galw ar wasanaethau gofal cartref a phreswyl Wrecsam.”

Croesawodd yr Uwch Bennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Alison Reeve a Phennaeth Gwasanaeth Dros Dro Pobl Hŷn a Chomisiynu, ein gwesteion, gan ddweud:  “Roedd yn bleser rhannu’r gwaith yr ydym yn ei arwain yn Wrecsam gyda Llywodraeth Cymru, a dangos ein bod yn ymroddedig i wella gwasanaethau a chefnogi ein dinasyddion i aros yn annibynnol gartref cyhyd â phosibl. 

“Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, rydym hefyd bob amser yn chwilio am staff brwdfrydig a phrofiadol. Os ydych chi’n brofiadol ym maes gofal cymdeithasol ac yn teimlo y byddech chi’n berffaith ar gyfer ein tîm arloesol sy’n ehangu, edrychwch ar dudalennau recriwtio’r cyngor i weld beth sydd ar gael.”

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth

Rhannu
Erthygl flaenorol Food Waste Recycling Caddy Awgrymiadau i’ch helpu i gadw eich cadi bwyd yn ffres yn yr haf
Erthygl nesaf Bus Services Mae disgwyl i Gyngor Wrecsam fuddsoddi £200,000 mewn gwasanaethau bws lleol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English