Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sgyrsiau Carbon a Hinsawdd Wrecsam – dweud eich dweud!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Sgyrsiau Carbon a Hinsawdd Wrecsam – dweud eich dweud!
ArallPobl a lle

Sgyrsiau Carbon a Hinsawdd Wrecsam – dweud eich dweud!

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 18, 2023 3:23 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Climate Conversations Wrexham
RHANNU

Yn 2019 cafwyd datganiad o argyfwng hinsawdd ac ecolegol gan Gyngor Wrecsam, ac rydym wedi datblygu cynllun i arwain ein gweithredoedd i leihau allyriadau carbon.

Cynnwys
  • Beth yw Sgwrs Carbon a Hinsawdd?
    • Am beth mae’r sgyrsiau?
    • Pryd ac ym mhle mae’r sgyrsiau?

Rydym yn awyddus i bobl sy’n byw a gweithio yn Wrecsam fod yn rhan o’r siwrnai honno, ac felly mae’n bleser gennym wahodd pawb i sgwrs gyntaf Sgyrsiau Carbon a Hinsawdd Wrecsam ar 2 Awst 2023, 4.30-5.30pm (mae’r holl fanylion isod).

Beth yw Sgwrs Carbon a Hinsawdd?

Mae’r Sgwrs Carbon a Hinsawdd yn fan lle gall pawb:

  • Gymryd rhan mewn trafodaethau agored ynglŷn â newid hinsawdd ac archwilio datrysiadau posibl gyda’i gilydd.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth ynglŷn â’r effeithiau posibl ar ein cymunedau lleol.
  • Gweithio a gweithredu ar y cyd i greu newid.
  • Cyfarfod mewn amgylchedd cefnogol ar gyfer dysgu, rhannu a chynyddu gallu mewn perthynas â phynciau yn ymwneud â newid hinsawdd.
  • Dadlau dros weithredoedd positif ledled Wrecsam.
  • Cael rhwydd hynt i rannu syniadau neu ddysgu gan eraill.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr yr Hinsawdd: “Nid problem at y dyfodol yw newid hinsawdd, mae hi’n broblem argyfyngus sydd angen sylw rŵan. Gyda hyn mewn golwg, ceisiwch ymuno â’r Sgyrsiau Carbon a Hinsawdd, ac annog ffrindiau, perthnasau a chydweithwyr i ddweud eu dweud hefyd. Rydym bob amser wedi pwysleisio y bydd mynd i’r afael â’r broblem yn golygu gweithio fel tîm, ac rydym eisiau dod â chymaint ag sy’n bosibl o bobl sy’n byw neu’n gweithio yn Wrecsam, ac sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth, at ei gilydd.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae’r fan lle mae croeso i safbwyntiau a syniadau pawb, ac yn rhywle i rannu gwybodaeth, syniadau arloesol ac arferion gorau o ran sut i leihau ein hallyriadau carbon ac effeithiau newid hinsawdd. Mae’r sgyrsiau’n agored i bawb, a bydd pawb yn dangos parch tuag safbwyntiau pobl eraill. Dewch â meddwl agored a diddordeb brwd mewn gweithio ar y cyd i fynd i’r afael â newid hinsawdd.”

Am beth mae’r sgyrsiau?

I’n harwain ni, rydym yn gofyn i bobl awgrymu thema wahanol bob tro, ond ar gyfer y cyfarfod cyntaf byddem yn hoffi canolbwyntio ar deithio a chludiant lleol. Felly paratowch eich syniadau, safbwyntiau ac awgrymiadau ynglŷn â sut allwn leihau’r allyriadau carbon a grëwn wrth deithio o gwmpas ar siwrneiau pob dydd, lleol, byrrach.

Pryd ac ym mhle mae’r sgyrsiau?

Cynhelir y sgyrsiau dros y we bob 3 mis ar ddydd Mercher cyntaf y mis, gan ddechrau ar 2 Awst 2023 am 4.30-5.30pm – fodd bynnag, gellwch ymuno unrhyw bryd yn ystod yr awr honno.

Ymunwch â ni i rannu eich syniadau, datblygu cysylltiadau ystyrlon, a gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer ein cymunedau. I gymryd rhan, e-bostiwch decarbonisation@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 729616, a byddwn yn anfon dolen i’r cyfarfod i chi a’ch ychwanegu at y rhestr bostio.

Os na ellwch fod yn bresennol, gadewch i ni wybod a byddwn yn sicrhau eich bod yn cael nodiadau’r cyfarfod a bod eich sylwadau’n cael eu cynnwys.

Byddwch yn rhan o’r newid cadarnhaol y gallwn ei greu gyda’n gilydd!

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wales in Bloom Rydym yn aros yn eiddgar am ganlyniadau Cymru yn ei Blodau 2023
Erthygl nesaf "Ni allaf gredu beth rydym wedi llwyddo i’w gyflawni mewn blwyddyn" “Ni allaf gredu beth rydym wedi llwyddo i’w gyflawni mewn blwyddyn”

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English