Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diwrnod Ymwybyddiaeth Duchenne y Byd 2023
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Diwrnod Ymwybyddiaeth Duchenne y Byd 2023
Arall

Diwrnod Ymwybyddiaeth Duchenne y Byd 2023

Diweddarwyd diwethaf: Medi 7, 2023 11:12 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Wo
RHANNU

Erthygl gwestai gan Duchenne UK

Cynnwys
  • Chwalu rhwystrau DMD
  • Rhannu sut mae rhwystrau wedi’u chwalu

Mae’n Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Duchenne y Byd ar 7 Medi.

Mae nychdod cyhyrol Duchenne (Duchenne muscular dystrophy – DMD) yn glefyd genetig sydd fel arfer yn cael ei ddiagnosio yn ystod plentyndod, rhwng tair a chwech oed. Mae DMD bron bob tro’n effeithio ar fechgyn, ac mae tua 2,500 o bobl yn y DU yn byw gyda DMD.

Mae’n achosi i’r cyhyrau wanhau a nychu. Maes o law, mae’n effeithio ar holl gyhyrau’r corff, yn cynnwys y galon a’r ysgyfaint. Nid oes triniaeth i wella DMD yn gyfan gwbl ar hyn o bryd, ond mae triniaethau a therapïau sy’n gallu arafu DMD a gwella ansawdd bywyd pobl.

Chwalu rhwystrau DMD

Thema Diwrnod Ymwybyddiaeth Duchenne y Byd eleni yw chwalu rhwystrau DMD.

Mae sawl ffordd mae rhwystrau’n dechrau cael eu chwalu ar gyfer DMD, o gael gofal hyd at addysg.

Mae Duchenne UK yn elusen sy’n gweithio i chwalu’r rhwystrau yma. Cafodd ei sefydlu yn 2012 gan Emily Reuben ac Alex Johnson ar ôl i’w dau fab gael diagnosis o DMD.

Mewn 11 mlynedd, mae Duchenne UK wedi codi dros £20 miliwn ac wedi defnyddio’r arian hwn i:

  • Ariannu treialon clinigol ar feddyginiaethau sy’n edrych yn addawol i drin DMD.
  • Sefydlu DMD Care UK, rhaglen ofal ar draws y DU i gleifion sy’n dioddef o DMD er mwyn eu hatal rhag marw’n rhy ifanc o ganlyniad i beidio â chael y gofal cywir. Mae’r rhaglen yn sefydlu’r arfer orau ar draws yr holl ddisgyblaethau sydd ynghlwm â gofal DMD, ac mae’n gweithio i sicrhau bod pob gweithiwr meddygol a rhiant yn gwybod yn union pa driniaeth mae plant ac oedolion sydd â DMD ei hangen.
  • Creu canolbwynt ymchwil meddygol ar DMD gyda safleoedd ysbytai ar draws y DU, sydd wedi arwain at fwy dreialon ar gyfer triniaethau DMD nag erioed o’r blaen.
  • Datblygu technolegau arloesol, y ‘SMART Suit’ a’r ‘Dream Chair’, i gefnogi annibyniaeth pobl sydd â DMD.

Rhannu sut mae rhwystrau wedi’u chwalu

Ond mae rhai llefydd lle mae rhwystrau DMD yn dal yno.

Mae’r gymuned DMD yn tynnu sylw at y mater pwysig yma ac yn rhannu eu profiad un ai o sut maent wedi wynebu neu wedi chwalu rhwystrau DMD ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Duchenne y Byd eleni.

Gallwch ddarllen eu profiadau drwy ddilyn Duchenne UK ar Facebook, Twitter, LinkedIn ac Instagram.

Rhannu
Erthygl flaenorol Tour of Britain - galeri o luniau Tour of Britain – galeri o luniau
Erthygl nesaf Gwybodaeth Y wybodaeth ddiweddaraf 25.10.23 – RAAC

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English