Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam i ddathlu Hanes Pobl Dduon Cymru 365 gyda digwyddiad AM DDIM
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor
Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Wrecsam i ddathlu Hanes Pobl Dduon Cymru 365 gyda digwyddiad AM DDIM
Pobl a lle

Wrecsam i ddathlu Hanes Pobl Dduon Cymru 365 gyda digwyddiad AM DDIM

Diweddarwyd diwethaf: 2023/10/11 at 1:28 PM
Rhannu
Darllen 2 funud
Wrecsam i ddathlu Hanes Pobl Dduon Cymru 365 gyda digwyddiad AM DDIM
RHANNU

Tŷ Pawb fydd y lleoliad ar gyfer digwyddiad rhad ac am ddim i ddathlu Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yn ddiweddarach y mis hwn.

Bydd y digwyddiad amlddiwylliannol ac amlieithog – o’r enw ‘Dathlu a Dyrchafu’ – yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 21 Hydref, 10am-5pm a bydd yn cynnwys bwyd o bob rhan o’r byd, gweithgareddau i’r teulu, perfformiadau byw a dangosiadau ffilm.

O 10am-12pm bydd gweithgareddau celfyddydol amlddiwylliannol ac amlieithog am ddim i blant.

Mae’r arlwy yn cynnwys llu o berfformwyr dawnus o Wrecsam a thu hwnt, gan gynnwys cerddoriaeth Sbaeneg a Gwlad Pwyl ac Arabeg, dawnsio gwerin Tsieineaidd, Affricanaidd ac Indiaidd, a DJ’s.

Bydd stondin hefyd yn gwerthu eitemau a wnaed gan grŵp crefftau Portiwgaleg Wrecsam, Bom Dia Cymru

Dywedodd trefnydd y digwyddiad, Iolanda Banu Viegas: “Mae’n anrhydedd mawr cael trefnu Hanes Pobl Dduon Cymru 365 ar ran Race Council Cymru am y 10 mlynedd diwethaf, ac yn falch o’i weld yn tyfu bob blwyddyn. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n partneriaid, noddwyr ac am gefnogaeth holl gymunedau amrywiol Gogledd Cymru. Bydd eleni yn fwy ac yn well ac rydym i gyd yn gyffrous iawn i’ch croesawu chi a’ch teulu ar 21 Hydref yn Tŷ Pawb!”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol gyda chyfrifoldeb am Tŷ Pawb y Cynghorydd Hugh Jones, “Mae’r digwyddiad hwn yn argoeli i ddangos Wrecsam ar ei orau, yn ddathliad gwych o’n cymunedau amlddiwylliannol gyda rhestr o berfformwyr lleol dawnus a bwyd rhyngwladol blasus. Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim i bob oed a bydd croeso cynnes i bawb felly byddwn yn annog pawb i ddod i fwynhau’r diwrnod a dathlu Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yn ein dinas.”

I gael rhagor o wybodaeth a rhestr lawn o berfformwyr ewch i wefan Tŷ Pawb

Mae’r digwyddiad wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cydlyniant Cymunedol Gogledd-ddwyrain Cymru, Hyb Amlddiwylliannol Gogledd Cymru, Cwmni Buddiannau Cymunedol CIC, Cyngor Hil Cymru, Hanes Pobl Dduon Cymru a Gwrth-hiliaeth Cymru Llywodraeth Cymru.

Rhannu
Erthygl flaenorol Diwrnod agored cymunedol Ysgol yr Hafod Diwrnod agored cymunedol Ysgol yr Hafod
Erthygl nesaf Mae meithrinfa Manfords’ Little Lambs wedi derbyn Gwobr Genedlaethol Cynllun Cyn-ysgol Iach Mae meithrinfa Manfords’ Little Lambs wedi derbyn Gwobr Genedlaethol Cynllun Cyn-ysgol Iach

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle Awst 13, 2025
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 13, 2025
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor Awst 13, 2025
Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall Awst 12, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Pobl a lle

Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol

Awst 13, 2025
Cycling
DigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n hyderus yn beicio?

Awst 13, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English