Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hwb o £200,000 i wasanaethau bws yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Hwb o £200,000 i wasanaethau bws yn Wrecsam
Y cyngorArallDatgarboneiddio Wrecsam

Hwb o £200,000 i wasanaethau bws yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 16, 2023 12:43 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
B
RHANNU

Bydd cymunedau lleol yn elwa o well gwasanaethau bws min nos diolch i fuddsoddiad o £200,000 gan Gyngor Wrecsam.

Cafodd y cyllid ei gymeradwyo gan Fwrdd Gweithredol y Cyngor ym mis Gorffennaf i helpu i roi hwb i gludiant cyhoeddus i breswylwyr lleol, ac ysbarduno’r farchnad bysiau lleol sydd wedi bod yn dioddef ers pandemig Covid-19.

Yn dilyn ymarfer caffael, mae Arriva Bus Wales wedi ennill y contract i ddarparu gwasanaethau ychwanegol.
Fe fydd y cwmni yn darparu gwasanaethau ychwanegol min nos ac ar ddydd Sul ar rai o’r llwybrau presennol yn ardal Wrecsam, ac fe fydd y newidiadau yn weithredol tuag at ddiwedd mis Tachwedd.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol gyda chyfrifoldeb dros Gludiant Strategol: “Mae’n bleser gen i gyhoeddi gwasanaethau bws gwell min nos yn Wrecsam. Mae hyn yn newyddion da i bobl leol ac i’r economi leol.

“Cefnogodd y Cyngor £200,000 ychwanegol o fuddsoddiad i wasanaethau bws yng nghyllideb eleni, gan gefnogi cludiant cyhoeddus a’n cynllun datgarboneiddio.

“Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi cludiant cyhoeddus ac mae ein cyhoeddiad yn mynd yn groes i’r tueddiad yng Nghymru lle rydym ni’n gweld gostyngiad mewn gwasanaethau.

“Fe wnaethom brofi’r farchnad drwy ein gweithdrefn gaffael ac rydw i wrth fy modd bod Arriva wedi ennill y contract ar gyfer gwasanaethau bws ychwanegol.

“Fe fydd y gwasanaethau min nos newydd yn cael eu cyflwyno ar 26 Tachwedd – neu’n gynt os caiff ei gymeradwyo gan y comisiynydd traffig – ac rydym ni’n gweithio gydag Arriva i’w hyrwyddo ymlaen llaw fel bod pawb yn ymwybodol ac yn gallu gwneud dewisiadau teithio gwahanol.

“Mae’r ardaloedd rydym ni’n canolbwyntio arnynt yn cefnogi llwybrau presennol lle nad oes gennym wasanaethau min nos nac ar benwythnosau, ac rydym ni’n gobeithio y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i nifer o bobl a chymunedau lleol.”

I gael mwy o wybodaeth am wasanaethau bws lleol, ewch i wefan Cyngor Wrecsam neu Arriva Bus Wales.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham facts! 52 o bethau nad oeddech yn eu gwybod am Wrecsam
Erthygl nesaf Dathliad o’r Gymraeg yn Wrecsam i nodi lansiad gwefan Addysg Gymraeg newydd Dathliad o’r Gymraeg yn Wrecsam i nodi lansiad gwefan Addysg Gymraeg newydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English