Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynnal digwyddiad i ddathlu lansio porth Lles Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cynnal digwyddiad i ddathlu lansio porth Lles Wrecsam
Y cyngorBusnes ac addysg

Cynnal digwyddiad i ddathlu lansio porth Lles Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 8, 2023 11:06 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Cynnal digwyddiad i ddathlu lansio porth Lles Wrecsam
RHANNU

Cynhaliwyd digwyddiad ar 19 Hydref yn yr Hwb Lles yn Adeiladau’r Goron yn Wrecsam i nodi lansiad y Strategaeth Atal a Chymorth Cynnar a’r Porth Lles newydd, ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Mae’r Strategaeth Atal a Chymorth Cynnar yn ddogfen aml-asiantaeth, sy’n uno’r asiantaethau allweddol yn Wrecsam sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd ac yn cynorthwyo’r asiantaethau hyn i ganolbwyntio ar yr un blaenoriaethau; iechyd meddwl a chorfforol, iaith a lleferydd, perthnasoedd teuluol, tlodi ac ymgysylltu gydag addysg.  Mae’r strategaeth yn helpu asiantaethau i ganolbwyntio ar gamau i gynorthwyo i wella pethau ar gyfer y dyfodol. 

Mae’r Porth Lles yn rhoi mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd a phawb sy’n gweithio gyda nhw, ac mae’r mynediad yn gyflym a hawdd, ac mewn un lle.  Mae hyn yn cynnwys dolenni cyswllt at wybodaeth am:

  • Plant ag anableddau ac anghenion ychwanegol
  • Cymorth i deuluoedd
  • Cefnogi pobl ifanc
  • Incwm, budd-daliadau a dyled
  • Tai a thenantiaethau
  • Datblygiad plentyn
  • Lles meddyliol
  • Perthnasoedd cadarnhaol
  • Diogelu plant

Mae adran ddefnyddiol lle gall pobl wneud cais am gymorth ar-lein a rhifau cyswllt ar gyfer unrhyw un sy’n cael trafferth defnyddio’r porth.

Lansiwyd y porth ar ôl ymgynghoriadau helaeth gyda gweithwyr proffesiynol a theuluoedd a gyflwynodd bryderon o ran anawsterau canfod y wybodaeth gywir.  O ganlyniad, bydd yr holl wybodaeth yn awr yn hygyrch mewn un lle yn hytrach na’i ganfod drwy amrywiaeth o ddarparwyr gwybodaeth a gwefannau.

Bydd cefnogaeth ar gael drwy’r Porth gan nifer o sefydliadau partner sy’n gweithio yn Wrecsam i gefnogi plant a theuluoedd gyda’r holl faterion uchod.  

Mae’r porth yn weithredol ar hyn o bryd i gefnogi teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan anabledd ac wrth i’r prosiect ddatblygu bydd y Porth yn ehangu i gynnwys cefnogaeth gyda magu plant, cymorth tai a thenantiaeth, cefnogaeth addysg a’r holl feysydd eraill sydd eu hangen ar gyfer teuluoedd i roi’r dechrau gorau i blant mewn bywyd.           

Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, a agorodd y digwyddiad:

“Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn.  Mae cyfoeth o gyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ar gael mewn un lle sy’n gwneud y broses o ddod o hyd i’r cyngor cywir yn haws a llawer cynt, ac yn cael effaith bositif ar ddefnyddwyr y gwasanaethau hyn.”

Daeth dros 60 o bobl i’r digwyddiad.  Cafwyd croeso gan y maer, y Cynghorydd Andy Williams a llefarwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, Dynamic a gwahanol adrannau’r Cyngor gan bwysleisio pa mor bwysig yw gwasanaethau atal da ar gyfer teuluoedd yn Wrecsam a pha mor allweddol yw’r cydweithio rhwng yr asiantaethau.  

Siaradodd Rebecca, rhiant, a pherson ifanc, David, am eu profiadau o wynebu heriau yn eu bywydau eu hunain a sut y gwnaeth derbyn cefnogaeth gan wasanaethau atal wneud gwahaniaeth er mwyn iddynt wella pethau yn eu bywydau. 

Os hoffech gael mynediad at Borth Lles Wrecsam ewch i https://www.wrecsam.gov.uk/y-porth-lles neu ewch yn uniongyrchol i’r ffurflen gais ar htttps://myaccount.wrexham.gov.uk/en/service/Social_Care_IAG_Form

Os hoffech i rywun ddod i’ch gwasanaeth i drafod y Porth Lles, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ar fis@wrexham.gov.uk

Rhannu
Erthygl flaenorol Christmas Troi’r Goleuadau Nadolig Ymlaen a Diwrnod Hwyliog Nadoligaidd ar 18 Tachwedd
Erthygl nesaf Arddangosfa Tirnodau yng Nghwrt Blaen yr Amgueddfa Arddangosfa Tirnodau yng Nghwrt Blaen yr Amgueddfa

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English