Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Grant cyllid newydd i brosiect ailddatblygu Amgueddfa Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor
Red Ensign
Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Grant cyllid newydd i brosiect ailddatblygu Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle

Grant cyllid newydd i brosiect ailddatblygu Amgueddfa Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2024/01/31 at 11:52 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Transforming Towns
Bucket hat arrives at Wrexham Museum
RHANNU

Mae’r prosiect i ailddatblygu Amgueddfa Wrecsam yn ‘Amgueddfa Dau Hanner’ wedi derbyn grant gan elusen fawr yn y DU.

Bydd prosiect ‘Yr Amgueddfa Ddwy Hanner’ yn gweld adeilad presennol Amgueddfa Wrecsam yn cael ei ailddatblygu’n amgueddfa newydd sbon i Wrecsam, ochr yn ochr ag Amgueddfa Bêl-droed i Gymru.

Mae grant o £150,000 wedi’i ddyfarnu i gefnogi’r prosiect gan Sefydliad Wolfson (link), elusen annibynnol sy’n canolbwyntio ar ymchwil ac addysg. Ei nod yw cefnogi cymdeithas sifil trwy fuddsoddi mewn prosiectau rhagorol ym meysydd gwyddoniaeth, iechyd, treftadaeth, y dyniaethau a’r celfyddydau.

Ers ei sefydlu ym 1955, mae tua £1 biliwn (£2 biliwn mewn termau real) wedi’i ddyfarnu i fwy na 12,000 o brosiectau ledled y DU, i gyd ar sail adolygiad arbenigol.

Dywedodd Paul Ramsbottom, prif weithredwr Sefydliad Wolfson: “Rydym yn falch iawn o gefnogi ailddatblygu Amgueddfa Wrecsam. Rydym wedi ymrwymo’n gryf i gefnogi treftadaeth ddiwylliannol ledled Cymru, a hon fydd nid yn unig yr amgueddfa gyntaf ar gyfer pêl-droed Cymru, ond bydd hefyd yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddysgu mwy am dreftadaeth Wrecsam a gogledd-ddwyrain Cymru.”

Mwy o gynnydd ar gyfer prosiect amgueddfa

Mae Amgueddfa Wrecsam bellach ar gau i’r cyhoedd er mwyn gallu dechrau ar y gwaith o baratoi’r adeilad ar gyfer ei drawsnewid yn Amgueddfa Dau Hanner newydd.

Bydd yr amgueddfa bêl-droed newydd yn dathlu pêl-droed Cymru, ddoe a heddiw, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau llawr gwlad i’r timau cenedlaethol, yn ogystal ag amlygu llwyddiannau hanesyddol Wrecsam yn y gamp a dathlu treftadaeth bêl-droed gyfoethog y Fwrdeistref Sirol.

Bydd orielau newydd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam, sy’n golygu gwell profiad i ymwelwyr a lleoliad modern o’r radd flaenaf ar gyfer darganfod stori hynod ddiddorol a chyffrous ein rhanbarth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Mae disgwyl i’r amgueddfa newydd agor yn 2026.

Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gydag arian gan Gyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Wolfson. Mae prosiect yr Amgueddfa Dau Hanner wedi derbyn £1.3m gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Bartneriaethau a Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Paul Roberts: “Mae’r dyfarniad cyllid newydd gan Sefydliad Wolfson yn cynrychioli cynnydd mwy rhagorol ar gyfer y prosiect hynod gyffrous hwn.

“Bydd Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru newydd yn atyniad cenedlaethol newydd o bwys, yma yng nghanol y ddinas, gan ddenu ymwelwyr newydd i Wrecsam o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Ein diolch i Sefydliad Wolfson am ddyfarnu’r grant, ac i dîm y prosiect am y gwaith aruthrol y maent wedi’i wneud i ddod â’r prosiect i’r cam hwn.”

Darganfod mwy am brosiect yr Amgueddfa Dwy Hanner

TAGGED: city, Football, Museum, Tourism
Rhannu
Erthygl flaenorol Compliance Notices Yfed dan oed a defnyddio cerdyn adnabod rhywun arall? – Byddech yn synnu pa mor gostus y gallai hynny fod i chi
Erthygl nesaf Time to talk - image shows a man and woman sitting down at a table having a conversation. Gadewch i ni wneud amser i siarad am iechyd meddwl

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall Medi 3, 2025
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall Medi 1, 2025
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor Awst 30, 2025
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 29, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Red Ensign
Pobl a lleY cyngor

Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol

Awst 27, 2025
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
DigwyddiadauPobl a lle

Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!

Awst 26, 2025
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion

Awst 22, 2025
Ruthin Road
Pobl a lle

Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio

Awst 21, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English