Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyrsiau beicio rhad ac am ddim ar y gweill – archebwch eich lle!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Cyrsiau beicio rhad ac am ddim ar y gweill – archebwch eich lle!
Pobl a lleBusnes ac addysgDatgarboneiddio Wrecsam

Cyrsiau beicio rhad ac am ddim ar y gweill – archebwch eich lle!

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 6, 2024 11:47 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Cycling
RHANNU

Byddwn yn cynnig rhywfaint o gyrsiau beicio rhad ac am ddim cyn bo hir, er mwyn helpu oedolion a theuluoedd i fagu hyder wrth feicio ar ffyrdd ein dinas – fyddai gennych chi ddiddordeb mewn cyrsiau o’r fath?

Cynnwys
  • Beth fydd ei angen arnaf i gymryd rhan?
  • Sut mae’n gweithio?
  • Sut ydw i’n archebu lle?

Darperir y cyrsiau hyn gan Seiclo Clwyd Cyf, sy’n darparu cyrsiau hyfforddi beicio mewn ysgolion cynradd ar draws y sir. Mae’r hyfforddwyr yn hyfforddwyr beicio sydd wedi cymhwyso i safonau cenedlaethol, ac maent hefyd yn swyddogion cymorth cyntaf hyfforddedig sy’n meddu ar dystysgrifau uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ariennir y cyrsiau hyn gan Grant Refeniw Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru.

Beth fydd ei angen arnaf i gymryd rhan?

Yn gyntaf, bydd arnoch angen beic sy’n addas ar gyfer y ffordd, ac fe argymhellir yn gryf eich bod yn gwisgo helmed feicio. Dylech wisgo dillad addas ar gyfer y tywydd, megis dillad glaw a menig.

Cofiwch hefyd ddod â dŵr a rhywfaint o fwyd/ byrbrydau gyda chi, er mwyn sicrhau eich bod yn gallu canolbwyntio’n dda.

Sut mae’n gweithio?

Bydd y cyrsiau yn dechrau gan ganolbwyntio ar sgiliau syml trin beic mewn amgylchedd heb draffig, gan symud ymlaen at strydoedd tawel ac yna llwybrau mwy prysur.

Dim ond lle i 6 beiciwr sydd ar bob cwrs, ac fe’u cynhelir am 9:30am a 1:30pm ar y dyddiadau canlynol: 

Chwefror – Dydd Llun 12, Dydd Mawrth 13, Dydd Mercher 14, Dydd Iau 15 a Dydd Gwener 16

Mawrth –  Dydd Llun 25, Dydd Mawrth 26, Dydd Mercher 27 a Dydd Iau 28

Bydd man cychwyn y cwrs yn dibynnu ar ba ddiwrnod y caiff ei gynnal (gweler isod):

Dydd Llun – Parc Acton

Dydd Mawrth – Stansty

Dydd Mercher – Rhosddu

Dydd Iau – Gwersyllt

Dydd Gwener – Hightown

Sut ydw i’n archebu lle?

I gael rhagor o fanylion neu i archebu eich lle, gallwch anfon e-bost at admin@seicloclwyd.com 

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol gyda chyfrifoldeb am Ddiogelwch ar y Ffyrdd: “Bydd y cyrsiau hyfforddi rhad ac am ddim yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar oedolion a theuluoedd i gadw’n ddiogel wrth feicio o amgylch Wrecsam. Fe argymhellir eich bod yn archebu eich lle yn gynnar, rhag i chi gael eich siomi.”

Gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg bellach ar gael yn Wrecsam – Newyddion Cyngor Wrecsam

Mae Castanwydden Bêr Wrecsam wedi cyrraedd cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn. Ewch i fwrw eich pleidlais yn awr i sicrhau ei bod yn cael cydnabyddiaeth eang y mae’n ei haeddu

TAGGED:beicioCycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Ruabon Station Mynediad ar gyfer Defnyddwyr Gorsaf Drenau Rhiwabon yn parhau’n flaenoriaeth
Erthygl nesaf Carnival Gŵyl Geiriau Wrecsam 2024 – Gŵyl Lenyddol Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Meet the Supertrees event
Pobl a lleDatgarboneiddio WrecsamDigwyddiadau

Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)

Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English