Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Labordy STEM yn darparu ffyrdd difyr o ddysgu i blant Wrecsam (29.02.24)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Labordy STEM yn darparu ffyrdd difyr o ddysgu i blant Wrecsam (29.02.24)
Busnes ac addysg

Labordy STEM yn darparu ffyrdd difyr o ddysgu i blant Wrecsam (29.02.24)

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 12, 2024 9:52 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Children from Aalexandra Primary School using the facilities in the STM rooms at Ysgol Clywedog
RHANNU

Plant a staff o Ysgol Gynradd Alexandra oedd y diweddaraf i gael cyfle i fwynhau’r cyfleusterau yn y labordy Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yn Ysgol Clywedog!

Cynnwys
  • “Mae popeth yma eisoes, yn barod i’w ddefnyddio”
  • Cyfleuster y gall pob ysgol gynradd ac uwchradd yn Wrecsam ei ddefnyddio”
  • “Sesiynau hyfforddiant i athrawon Wrecsam”
  • Pa adnoddau sydd ar gael yn labordy STEM Wrecsam?
  • Sut gall fy ysgol gymryd rhan?

Adeiladwyd labordy STEM, sy’n rhoi mynediad i ysgolion at amrywiaeth o offer, dyfeisiau a mannau prosiect ‘Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg’, fel rhan o raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Wrecsam yn ystafelloedd yr Awdurdod Lleol yn Ysgol Clywedog.

Bu disgyblion o flynyddoedd 3, 4, 5 a 6 Ysgol Alexandra yn ymweld ddydd Iau, 29 Chwefror a chawsant amser gwych yn dysgu yn yr ystafelloedd STEM, gan brofi amrywiaeth o wahanol dasgau a gweithgareddau addysgol.

Darparwyd y sesiynau gan ein partner STEM newydd CreativeHUT, a bu’r plant yn symud ar draws yr ystafelloedd trwy gydol y diwrnod fel bod pawb yn cael gwneud y mwyaf o’r profiad llawn.

Mewn un ystafell, roedd y plant yn symud robotiaid Sphero BOLT trwy ddefnyddio codio trwy eu iPads i ddatrys gwahanol heriau a osodwyd.

Labordy STEM yn darparu ffyrdd difyr o ddysgu i blant Wrecsam (29.02.24)
Labordy STEM yn darparu ffyrdd difyr o ddysgu i blant Wrecsam (29.02.24)
Labordy STEM yn darparu ffyrdd difyr o ddysgu i blant Wrecsam (29.02.24)

Yn yr ystafelloedd eraill, roedd y plant yn dysgu trwy ddefnyddio LEGO® Education. I ddechrau, buon nhw’n defnyddio LEGO® i adeiladu robotiaid gyrru gyda synwyryddion a dysgu sut i’w rhaglennu i deithio pellter penodol yn ogystal â defnyddio’r synwyryddion i stopio’r robotiaid.

STEM lab
Labordy STEM yn darparu ffyrdd difyr o ddysgu i blant Wrecsam (29.02.24)

Yn yr ystafell nesaf, roedd y tasgau’n seiliedig ar wyddoniaeth, adeiladu a chodio. Eto, bu’r plant yn adeiladu a chodio cerbydau LEGO® a defnyddio grymoedd gwthio a thynnu i’w symud o gwmpas. Roedd y gweithgareddau hyn yn addysgu codio a pheirianneg iddynt gyda’i gilydd.

“Mae popeth yma eisoes, yn barod i’w ddefnyddio”

Dywedodd Amy Pope, Arweinydd Digidol Ysgol Gynradd Alexandra: “Gall offer digidol fod yn ddrud i’n hysgol, felly mae’n wych ymweld â rhywle lle mae popeth yno eisoes, yn barod i’w ddefnyddio. Mae dysgu digidol mor bwysig, felly mae rhoi cyfleoedd i’r plant i brofi’r math gwahanol hwn o ddysgu yn wych.”

Cyfleuster y gall pob ysgol gynradd ac uwchradd yn Wrecsam ei ddefnyddio”

Dywedodd Neil Taylor o CreativeHUT: “Fel cwmni, ein nod yw cefnogi dysgu STEM a chynnig cyfleoedd difyr, creadigol ac ymgysylltiol i ddisgyblion. Ar ddiwrnodau fel heddiw, gallwch weld yr effaith gadarnhaol mae’n ei chael ar ddysgu plant yn uniongyrchol, sydd bob amser yn wych. Mae’r cyfleuster hwn yn wych a gall pob ysgol gynradd ac uwchradd ei ddefnyddio. Mae’n help mawr i athrawon ddarparu’r cwricwlwm ac mae’n helpu disgyblion i ddatblygu llawer o sgiliau pwysig sy’n eu paratoi nhw ar gyfer y dyfodol.”

“Sesiynau hyfforddiant i athrawon Wrecsam”

Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae’n wych gweld bod disgyblion a staff Ysgol Alexandra wedi mwynhau eu hymweliad. Mae ystafelloedd ac adnoddau STEM yn gwbl agored ac ar gael i ysgolion eu harchebu ac rydym yn eu hannog i fanteisio ar y cyfle. Byddwn yn trefnu nifer o sesiynau hyfforddiant STEM am ddim i athrawon a staff cefnogi Wrecsam bob blwyddyn gyda CreativeHUT hefyd.”

Pa adnoddau sydd ar gael yn labordy STEM Wrecsam?

Mae ystafelloedd labordy STEM uwchben ardal derbynfa Ysgol Clywedog ond maen nhw’n gwbl ar wahân i weithrediad yr ysgol ac mae’r cyfleusterau canlynol ar gael:

  • Dwy ystafell ddosbarth sy’n canolbwyntio ar STEM, gyda phob un yn gallu cefnogi grŵp o 16 o ddisgyblion (mae un ystafell ddosbarth wedi’i gosod i gefnogi adnoddau LEGO® Education, ac mae un ystafell ddosbarth wedi’i gosod fel ystafell brosiect fwy hyblyg)
  • Un ystafell TGCh a chyfrifiaduron gydag 16 gorsaf waith
  • Un ystafell gynadledda/gyfarfod sy’n gallu cefnogi grwpiau o hyd at 16 o bobl

Mae’r adnoddau / offer canlynol ar gael yn y lab ar hyn o bryd hefyd:

  • Un set dosbarth (10 uned) o LEGO® Education SPIKE™ Prime
  • Un set dosbarth (10 uned) o LEGO® Education WeDo 2.0
  • Un set dosbarth (12 uned) o Sphero BOLT™
  • Un set dosbarth (10 uned) o becynnau cychwynnol Crumble a phump bygi Crumble gyda synwyryddion
  • 15 bwrdd BBC Microbit
  • Dau argraffwr 3D

Sut gall fy ysgol gymryd rhan?

Nid oes cost i ysgolion Wrecsam ddefnyddio’r cyfleusterau hyn pan fyddwch chi’n rhedeg sesiynau eich hunain. 

Mae ysgolion yn gallu archebu’r ystafelloedd a rhedeg eu sesiynau eu hunain naill ai’n uniongyrchol neu trwy’r grwpiau Clwstwr Digidol yn Wrecsam lle mae arbenigedd yn y clwstwr.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at schoolsictprocurement@wrexham.gov.uk

Ymgyrch yn galw am gydnabyddiaeth a chefnogaeth ar gyfer miloedd o ofalwyr ifanc llawn ysbrydoliaeth yng ngogledd a chanolbarth Cymru – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

TAGGED:educationSchoolschoolsSTEMysgol
Rhannu
Erthygl flaenorol Open Mic Night Noson Meic Agored Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Art Explorers Archwilwyr Celf! Tait Oriel i’r Teulu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg

Datblygu arloesi ffresni bwyd

Hydref 20, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English