Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen ‘Dewis beth fyddwch yn ei ddefnyddio’ yn ystod Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd – Bydd Wych. Ailgylcha
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > ‘Dewis beth fyddwch yn ei ddefnyddio’ yn ystod Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd – Bydd Wych. Ailgylcha
Y cyngorDatgarboneiddio WrecsamPobl a lle

‘Dewis beth fyddwch yn ei ddefnyddio’ yn ystod Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd – Bydd Wych. Ailgylcha

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 15, 2024 10:13 am
Rhannu
Darllen 7 funud
‘Dewis beth fyddwch yn ei ddefnyddio’ yn ystod Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd - Bydd Wych. Ailgylcha
RHANNU

Mae #WythnosGweithreduarWastraffBwyd yn rhedeg o 18-24 Mawrth yn ystod yr ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha, a’r thema eleni yw ‘dewis beth fyddwch yn ei ddefnyddio’, sy’n annog pawb i brynu eu ffrwythau a’i llysiau yn rhydd.

Mae llawer o fanteision gwych i brynu ffrwythau a llysiau rhydd! Mae prynu’n rhydd yn gostwng gwastraff – mae ymchwil WRAP wedi dangos pe byddai’r holl afalau, bananas a thatws yn cael eu gwerthu yn rhydd yn y DU, gallem arbed 60,000 tunnell o wastraff bwyd trwy alluogi pobl i brynu’n agosach at eu hanghenion.

Rydym wedi gweld jîns gwast uchel, ffrinj llenni, a nifer o bethau eraill yn dychwelyd, nawr beth am helpu ffrwythau a llysiau rhydd i ddychwelyd – y ffordd wreiddiol a gorau o brynu ein cynnyrch.

Felly, os ydych yn siopa am swper heno, dewch o hyd i’r tatws trwy’u crwyn cywir ar gyfer eich teulu. Paratoi crymbl afal? Dewiswch yr union nifer o afalau rydych eu hangen. Siopwch fel hyn a byddwch yn arbed bwyd a phlastig rhag mynd i wastraff.

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym yn cefnogi ymgyrch Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd ac rydym yn gofyn i’n trigolion feddwl am y newidiadau bach y gallant eu gwneud a fydd yn helpu i ostwng eu gwastraff bwyd. Mae gwneud y mwyaf o’r bwyd rydych yn ei brynu yn gwneud gwahaniaeth mawr, a gall helpu i arbed eich arian yn ogystal ag amddiffyn yr amgylchedd.”

10 awgrym defnyddiol!

Ar gyfer Wythnos Gweithredu ar Wastraffu Bwyd mae Love Food Hate Waste wedi llunio rhestr o 10 peth y gallwch chi ei wneud i atal gwastraff bwyd rhag bwydo newid hinsawdd:

1. Dyddiadau difyr! Mae’r dyddiad defnyddio neu’r ‘use by date’ yn ymwneud â diogelwch – ddylech chi ddim bwyta’r bwyd ar ôl y dyddiad yma (hyd yn oed os ydi o’n edrych neu’n arogli’n iawn). Mae’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu ‘best before’ yn ymwneud ag ansawdd – er na fydd y bwyd ar ei orau, mi fydd yn dal yn ddiogel i chi ei fwyta am beth amser i ddod.

2. Defnyddio pob tamaid. Ydych chi’n taflu crystiau a choesau brocoli i’r bin? Mae dros ddwy ran o dair o’r bwydydd rydym ni’n eu gwastraffu yn hollol fwytadwy, felly mae defnyddio pob rhan fwytadwy o’ch bwyd yn hanfodol. Beth am beidio â phlicio’r tatws pan fyddwch chi’n gwneud tatws stwnsh – mi fyddwch chi’n arbed amser hefyd!

3. Oerwch yr oergell. Mae cyfartaledd tymheredd oergelloedd y Deyrnas Unedig bron yn 7°C, ond mae bwydydd yn para’n hirach os ydych chi’n eu cadw nhw dan 5°C.

4. Prydau perffaith. Dwylo i fyny pwy sy’n gwneud gormod o reis neu basta? Mae’n hawdd iawn gwneud, ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i wneud yn siŵr nad ydych chi’n coginio gormod. Er enghraifft, mae mwg o reis sych yn ddigon i bedwar oedolyn.

5. Silff-lun. Os nad ydych chi’n rhy hoff o ‘sgwennu rhestrau siopa beth am dynnu llun o’ch oergell/silffoedd bwyd yn lle? Bydd hyn yn eich stopio chi rhag prynu pethau sydd gennych chi’n barod.

6. Synnwyr cyffredin. Bydd y rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau yn para’n hirach yn yr oergell. Yr eithriadau allweddol ydi bananas a phinafal (cadwch y rhain ar y cownter), a nionod a thatws (cadwch y rhain mewn lle oer, tywyll a sych – fel cwpwrdd)!

7. Rhewi cyn y dyddiad defnyddio. Fe allwch chi rewi unrhyw fwyd gyda dyddiad defnyddio, gan gynnwys cig, hyd at y dyddiad hwnnw. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn os ydi’ch cynlluniau’n newid ar fyr rybudd – cyn i chi archebu tecawê ar frys cofiwch edrych yn yr oergell am unrhyw beth y medrwch chi ei rewi ar gyfer diwrnod arall.

8. Yr hambwrdd ciwbiau rhew – arwr y rhewgell. Gormod o lefrith, dim digon o amser? Tywalltwch y llefrith sydd gennych chi dros ben i mewn i’ch hambwrdd ciwbiau rhew a’i roi yn y rhewgell. Fe allwch chi ddefnyddio hambwrdd ciwbiau rhew i rewi perlysiau ffres hefyd. Torrwch nhw a rhowch nhw yn yr hambwrdd, gan ychwanegu ychydig o olew – bydd gennych chi wedyn ddognau hawdd i’w hychwanegu i’r badell pan fyddwch chi’n coginio nesaf.

9. Bara blasus. Mae bara yn rhewi’n dda. Rhowch eich torth dafellog yn y rhewgell a phan fydd arnoch chi angen bara fe allwch chi estyn tafell a’i thostio’n sydd o’r rhewgell. Awgrym bach arall: tapiwch eich torth ar y cownter cyn i chi ei rhewi fel nad ydi’r tafellau yn glynu at ei gilydd.

10. Gwrthrychau Rhewedig Anhysbys. Cyn i chi roi bwyd dros ben yn y rhewgell cofiwch labelu’r bag/cynhwysydd fel eich bod chi’n gwybod beth sydd ynddo a phryd y rhoddoch chi o yn y rhewgell.

Mae gwefan Love Food Hate Waste yn llawn ryseitiau blasus a hyd yn oed mwy o awgrymiadau ar gyfer manteisio i’r eithaf ar eich bwyd.

Gallwch hefyd ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha neu #BeMightyRecycle – beth am rannu eich tips arbed bwyd?

Bydd Wych. Ailgylcha. – Dewch inni gael Cymru i rif 1! – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchufood wastegwastraff bwydrecycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Pianydd ifanc rhyfeddol i berfformio cyngerdd rhad ac am ddim yn Tŷ Pawb Pianydd ifanc rhyfeddol i berfformio cyngerdd rhad ac am ddim yn Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Market Datgelu cyfrinachau hanesyddol marchnad Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English