Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dechreuwch eich gyrfa gyda Chyngor Wrecsam – gwnewch gais am hyfforddeiaeth / prentisiaeth!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dechreuwch eich gyrfa gyda Chyngor Wrecsam – gwnewch gais am hyfforddeiaeth / prentisiaeth!
Y cyngorBusnes ac addysg

Dechreuwch eich gyrfa gyda Chyngor Wrecsam – gwnewch gais am hyfforddeiaeth / prentisiaeth!

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 8, 2024 10:42 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham Council traineeship programme
RHANNU

Mae gennym ni leoliadau prentisiaeth newydd gwych yng Nghyngor Wrecsam ar draws amrywiaeth o wasanaethau.

Cynnwys
  • Cynllun Hyfforddeiaeth Amgylcheddol
  • Prentisiaeth Gorfforaethol
  • Mwy o wybodaeth

Os ydych chi’n gadael addysg llawn amser neu’n gobeithio cymryd eich cam cyntaf yn eich gyrfa, mae’r prentisiaethau hyn yn lle gwych i ddechrau.

Byddwch yn cael profiad gwaith gwerthfawr, yn datblygu llawer o sgiliau bywyd, yn astudio ar gyfer cymwysterau ac yn ennill cyflog.

Mae cael yr agwedd, y gwerthoedd a’r etheg gwaith cywir yn bwysicach i ni na’ch cymwysterau, felly os ydych chi eisiau gweithio’n galed, gosod y sylfaeni ar gyfer gyrfa dda a gwasanaethu pobl Wrecsam, yna gwnewch gais… rydym eisiau clywed gennych chi!

Mae gennym ddau gynllun i ddewis ohonynt…

Cynllun Hyfforddeiaeth Amgylcheddol

Mae hwn yn gynllun dwy flynedd wedi’i leoli yn ein hadran yr Amgylchedd – sy’n cyfuno gweithio yn y swyddfa gyda gwaith ar y safle.

Byddwn yn eich helpu chi i ddysgu sgiliau newydd a magu eich hyder, gan ddarparu cymysgedd o waith yn y swyddfa ac ar y safle ar draws llawer o feysydd, yn cynnwys gwastraff ac ailgylchu, priffyrdd, peirianneg, cludiant, lleihau carbon, gwaith stryd, mannau agored a goleuadau stryd.

Mae hyfforddeiaeth yn swydd go iawn, lle’r ydych yn ennill cyflog o’r diwrnod cyntaf, a bydd mentor yn cael ei neilltuo i chi i ofalu amdanoch a’ch helpu i gael y mwyaf o bob diwrnod.

Os ydych chi’n cymryd eich cam cyntaf yn eich gyrfa, gall hwn fod yn gyfle gwych, ond peidiwch â chymryd ein gair ni’n unig…

Ymunodd Niamh â’r cynllun y llynedd a dyma oedd ganddi hi i’w ddweud:

“Dylai pobl wneud cais gan ei fod yn wahanol. Y peth ystrydebol i’w wneud yw mynd i’r coleg ac yna i’r brifysgol, ond rwy’n meddwl bod cael y profiad a’r cyfle hwn yn dda i bobl nad ydynt yn gwybod beth maent eisiau ei wneud pan maent yn hŷn.

“Ac mae’n brofiad braf – yn gyfle i gael profiad gwaith a datblygu sgiliau bywyd.”

Prentisiaeth Gorfforaethol

Mae ein Prentisiaeth Gorfforaethol yn lleoliad dwy flynedd wedi’i gefnogi gan Goleg Cambria, lle’r ydych chi’n cael y cyfle i roi cynnig ar ystod o swyddi gan weithio gydag unigolion profiadol.

Mae gennym gyfleoedd ar draws nifer o adrannau:

  • Gwasanaethau Addysg ac Ymyrraeth Gynnar
  • Cyllid a TGCh
  • Tai
  • Economi a Chynllunio

Yn ogystal ag ennill cyflog, byddwch yn cael y dewis i astudio tuag at gymhwyster sy’n gysylltiedig â swydd.

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’n gwefan neu ffoniwch ein Canolfan Gwasanaeth AD ar 01978 292070.

Rydym hefyd yn cynnal nifer o sesiynau galw heibio mewn llyfrgelloedd lleol, lle gallwch chi ddysgu mwy am y ddau gynllun. Galwch draw i’n gweld ni!

  • 8 Ebrill – Llyfrgell Wrecsam – 4-6pm
  • 15 Ebrill – Llyfrgell Wrecsam – 4-6pm
  • 22 Ebrill – Llyfrgell Gwersyllt – 4-6pm
  • 25 Ebrill – Llyfrgell Brynteg – 4.30-6.30pm
Rhannu
Erthygl flaenorol Waterworld Ffioedd Meysydd Parcio o 1 Ebrill
Erthygl nesaf windows and doors Rhaglen Gosod Ffenestri a Drysau newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dod yn ei blaen yn dda er gwaethaf heriau cyllidebol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
All Saints School Pupils
Busnes ac addysgPobl a lle

Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!

Hydref 7, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English