Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd buddsoddiad gwerth sawl miliwn yn troi Hen Lyfrgell Wrecsam mewn i bwerdy diwydiannau creadigol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Bydd buddsoddiad gwerth sawl miliwn yn troi Hen Lyfrgell Wrecsam mewn i bwerdy diwydiannau creadigol
Y cyngorBusnes ac addysg

Bydd buddsoddiad gwerth sawl miliwn yn troi Hen Lyfrgell Wrecsam mewn i bwerdy diwydiannau creadigol

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 19, 2024 8:59 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Creative Industries
Delwedd: Trwy garedigrwydd Wrexham.com
RHANNU

Bydd adeilad rhestredig Gradd II yn troi yn ganolbwynt i ddiwydiannau creadigol Wrecsam yn sgil buddsoddiad gwerth £2.9 miliwn o dan raglen adfywio Llywodraeth Cymru, sef Trawsnewid Trefi.

Cynnwys
  • “I fod yn ganolbwynt ar gyfer diwydiannau lleol, creadigol”
  • Bydd canolbwynt creadigol yng ngogledd ddwyrain Cymru yn cefnogi twf yn y dyfodol a meithrin talent yn y sector

Mae’r Hen Lyfrgell yn Sgwâr y Frenhines wedi bod ar gau i’r cyhoedd ers blynyddoedd, ond bellach fe fydd yn cael bywyd newydd ar ôl i Gyngor Wrecsam wneud cais llwyddiannus am gyllid i’w drawsnewid mewn i ‘ganolbwynt creadigol amlbwrpas’.

Fe fydd y ganolfan yn cefnogi entrepreneuriaeth ar draws y diwydiannau creadigol, ac fe fydd yn ganolbwynt i grwpiau, unigolion a busnesau lleol.

Fe fydd gan yr adeilad sy’n berchen i’r Cyngor, ‘dri llawr o greadigrwydd’, yn cynnwys:

  • Gofod gweithio’n hyblyg a chydweithio i entrepreneuriaid
  • Gofod swyddfa
  • Stiwdios recordio
  • Cyfleusterau cynhyrchu teledu
  • Gweithdai – yn cynnwys ‘labordai’ modern gyda thorwyr laser a pheiriannau argraffu 3D
  • Gofod arddangos

Mae disgwyl i’r prosiect gostio ychydig dros £4 miliwn, ac fe fydd y cyllid yn cael ei ddarparu trwy ‘Gronfa Trawsnewid Trefi’ Llywodraeth Cymru a ffynonellau eraill o gyllid grant yn cynnwys Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

“I fod yn ganolbwynt ar gyfer diwydiannau lleol, creadigol”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adferiad Cyngor Wrecsam, “Mae hyn yn newyddion ffantastig ac fe fydd yn trawsnewid tirnod rhestredig Graddfa II arbennig yng nghanol y ddinas i mewn i ganolbwynt cyffrous, gan sicrhau ei fod yn addas at y dyfodol gan ailsefydlu ei hun i fod yn ganolbwynt ar gyfer diwydiannau lleol, creadigol.

Fe wyddom ni gyd bod canol dinasoedd angen esblygu er mwyn aros yn berthnasol mewn byd lle mae siopa, hamdden ac arferion dyddiol wedi newid, ac mae dod o hyd i ddibenion newydd ar gyfer adeiladau fel yr hen lyfrgell yn hollbwysig.

Fe hoffwn i ddiolch i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r prosiect hwn gan fod Cyngor Wrecsam wedi bod yn llwyddiannus unwaith eto yn cael cyllid grant ar gyfer prosiect cyffrous arall.

Mae yna bendant rhyw wefr yn ymwneud â Wrecsam ar hyn o bryd ac mae hi’n amser gwych i fuddsoddi a manteisio ar broffil Wrecsam sydd yn tyfu’n fyd-eang”.

Yr Hen Lyfrgell yw’r adeilad diweddaraf yn Wrecsam i fanteisio ar gyllid Trawsnewid Trefi, gan fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi dyrannu miliynau o bunnoedd tuag at brosiectau eraill – yn cynnwys ailwampio Marchnadoedd Cyffredinol a Chigyddion ac Amgueddfa Wrecsam.

Bydd canolbwynt creadigol yng ngogledd ddwyrain Cymru yn cefnogi twf yn y dyfodol a meithrin talent yn y sector

Meddai Ysgrifennydd Cabinet Tai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, Julie James: “Mae troi eiddo gwag yn ddefnyddiol eto yn ganolog i’n rhaglen adfywio gwerth £125m, sef Trawsnewid Trefi. 

“Rydw i’n falch gweld bod grant cyfalaf o £2.9 miliwn wedi cael ei ddyfarnu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gan gefnogi’r gwaith o drawsnewid adeilad mor amlwg yng nghanol y ddinas i mewn i ganolbwynt diwydiannau creadigol.

“Rydw i’n edrych ymlaen at weld sut y bydd canolbwynt creadigol yng ngogledd ddwyrain Cymru yn cefnogi twf yn y dyfodol a meithrin talent yn y sector yma a helpu i sicrhau gwytnwch canol dinas Wrecsam”. Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau yn nes ymlaen yn yr hydref, ac mae disgwyl iddo agor ddiwedd yr haf/dechrau hydref 2025.

Mae disgwyl i’r prosiect gostio ychydig dros £4 miliwn, ac fe fydd y cyllid yn cael ei ddarparu trwy ‘Gronfa Trawsnewid Trefi’ Llywodraeth Cymru a ffynonellau eraill o gyllid grant yn cynnwys Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Dros 30 o Fyfyrwyr Coleg Cambria yn dathlu dod yn Llysgenhadon Twristiaeth Wrecsam!

Rhannu
Erthygl flaenorol Empathy Cwmwl Tystion III / Empathy
Erthygl nesaf proxy vote Ydych chi eisiau pleidlais drwy ddirprwy? Gallwch wneud cais hyd at 24 Ebrill

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English