Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Compost Rhyngwladol yn dechrau ar 5 Mai!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor
Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Compost Rhyngwladol yn dechrau ar 5 Mai!
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Compost Rhyngwladol yn dechrau ar 5 Mai!

Diweddarwyd diwethaf: 2024/05/03 at 10:38 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Compost
RHANNU

Wythnos Ymwybyddiaeth Compost Rhyngwladol (ICAW) yw menter addysgol fwyaf y diwydiant compost, ac eleni, mae’n cael ei chynnal o ddydd Sul, 5 Mai, nes dydd Sadwrn, 11 Mai.

Cynnwys
Creu deunydd gwella pridd – a’i gasglu yn rhad ac am ddim! Nid yw’n rhy hwyr i ymuno â’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd

Drwy gydol yr wythnos, cynhelir digwyddiadau ar draws y byd, gyda gwahanol weithgareddau’n digwydd sy’n annog ac yn dathlu pob math o gompostio, o’r iard gefn i raddfa fawr.

Fel rhan o’r Wythnos hon, bydd ein timau strategaeth gwastraff a mannau agored ym Mharc Acton ar ar ddydd Iau Mai 9fed (11am-2pm), lle fydd ganddynt stondin ger y gastanwydden bêr, sef enillydd coeden y flwyddyn y DU 2023.

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym yn falch o ychwanegu ein cefnogaeth i Wythnos Ymwybyddiaeth Compost Rhyngwladol, a bydd ein swyddogion gerllaw i sgwrsio am gompostio, rhannu hadau a rhoi gwybodaeth ar ailgylchu. Bydd bagiau y gellir eu compostio i’r bin bwyd ar gael hefyd, felly galwch heibio os ydych chi’n gallu.”

Creu deunydd gwella pridd – a’i gasglu yn rhad ac am ddim!

Oeddech chi’n gwybod y defnyddir eich gwastraff bwyd a gardd yn Wrecsam i greu deunydd gwella pridd, sydd ar gael i’n preswylwyr i’w gasglu o’r tair canolfan ailgylchu trwy gydol y flwyddyn?

Felly os nad ydych eisoes yn ailgylchu eich gwastraff bwyd, pam na wnewch chi ddechrau ailgylchu eich sbarion a’i droi yn rhywbeth defnyddiol? Ac yna, pan fyddwch angen gwneud rhywfaint o arddio, gallwch ddod i gasglu rhywfaint o ddeunydd gwella pridd yn rhad ac am ddim.  Mae’n swnio fel syniad da, tydi?

Nid yw’n rhy hwyr i ymuno â’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd

Eleni, ymestynnwyd y gwasanaeth casglu gwastraff gardd nes mis Chwefror 2025, ac os nad ydych wedi ymuno eto, nid yw’n rhy hwyr i danysgrifio.

Mae’r gwasanaeth yn costio £35 fesul bin gwyrdd y flwyddyn ac yn rhedeg o’r dyddiad y byddwch yn cofrestru tan 28 Chwefror, 2025, felly mae’n well cofrestru cyn gynted â phosib i gael y gwerth gorau.

Os byddwch yn cofrestru rŵan, byddwch yn cael 10 mis o gasgliadau, a phe baech yn ei adael am fis arall cyn cofrestru, byddwch yn talu’r un pris i gael 9 mis o gasgliadau. Felly cofrestrwch rŵan i gael mwy o gasgliadau am eich arian.

Am ragor o wybodaeth ar ailgylchu yn Wrecsam, edrychwch ar ein ‘tudalen ‘biniau ac ailgylchu’.

Sicrhewch eich bod yn gwaredu eich fêps yn gyfrifol – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED: ailgychu, amgylchedd
Rhannu
Erthygl flaenorol Energy saving Gweithdai a gwybodaeth ar arbed ynni yn dod yn fuan
Erthygl nesaf CANNOEDD YN GORYMDEITHIO YNG NGŴYL CYHOEDDI EISTEDDFOD WRECSAM CANNOEDD YN GORYMDEITHIO YNG NGŴYL CYHOEDDI EISTEDDFOD WRECSAM

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 19, 2026
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Rhos library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos

Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Pobl a lle

Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 19, 2026
Fly Tipping
ArallPobl a lleY cyngor

Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol

Ionawr 19, 2026
Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 17, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English