Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dros £74,000 wedi’i wobrwyo i fonitro ansawdd aer yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dros £74,000 wedi’i wobrwyo i fonitro ansawdd aer yn Wrecsam
Y cyngorPobl a lle

Dros £74,000 wedi’i wobrwyo i fonitro ansawdd aer yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 30, 2024 3:28 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Air Quality
RHANNU

Yn ddiweddar rydym wedi derbyn grant o £74,281 gan Gronfa Gymorth i Reoli Ansawdd Aer Lleol, Llywodraeth Cymru er mwyn monitro ansawdd aer yn Wrecsam mewn modd arloesol a chynaliadwy.

Nod y prosiect yw sefydlu rhwydwaith o 10 monitor a fydd yn edrych ar Ddeunydd Gronynnol, Sylffwr Deuocsid a Nitrogen Deuocsid ynghyd â Sŵn Amgylcheddol a fydd yn cefnogi ein gwaith parhaus i ddefnyddio technolegau i wella ansawdd aer a/neu leihau amlygiad at ronynnau.

Yn flaenorol mae offer monitro drud wedi cael ei ddefnyddio i fonitro ansawdd aer yn fanwl, ond dim ond un lleoliad monitro sydd gennym, sydd yr un maint â chynhwysydd storio ar gyfer llongau. Mae dewisiadau eraill yr ydym yn eu defnyddio yn cynnwys tiwbiau tryledu aer rhatach, ond nid ydynt yn rhoi data digon manwl a gellir ond eu defnyddio i ddadansoddi tueddiadau ar lefelau llygryddion mewn amgylcheddau trefol. Mae’r monitorau newydd yn gallu cael eu gosod yn hawdd, gyda chyflenwad pŵer bach iawn tebyg i olau stryd, ac yn rhoi gwybodaeth gywir mewn amser real bob awr.

Bydd y prosiect yn gweithio gyda’r Cynllun Trefi Clyfar, a fydd yn arwain at ddata ansawdd aer amser real ar gael i’r cyhoedd, a fydd yna’n gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am deithio llesol, llwybrau teithio ac ati. Bydd gwybodaeth o’r fath hefyd yn ddefnyddiol i Adrannau’r Cyngor o ran mentrau iechyd y cyhoedd, addysg testunau cwricwlwm a chynllunwyr, fel dull atal er mwyn mynd i’r afael â materion yn y dyfodol neu ddiogelu ein mannau gwyrdd agored ymhellach.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, “Yn ganolog i nifer o bolisïau Llywodraeth Cymru a’r Cyngor, mae iechyd pobl, un ai trwy economi ffyniannus sy’n galluogi ansawdd bywyd gwell neu trwy amgylchedd sy’n hyrwyddo lles ac iechyd corfforol a meddyliol. Gobeithir y bydd darparu data ansawdd aer mewn amser real ar ein gwefan yn galluogi’r cyhoedd i wneud penderfyniadau gwybodus o ran eu gweithgareddau, ac y bydd yn gweithredu fel offeryn addysgol a’n helpu ni i wneud penderfyniadau gwybodus o ran ein gweithgareddau.”

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar ansawdd aer ar www.airquality.gov.wales neu ar wefan y Cyngor ar Ansawdd Aer | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae * LoRaWAN yn acronym ar gyfer dull o drosglwyddo symiau bychain o ddata dros donfeddi radio o rwydwaith o synwyryddion o bell i ganolbwynt casglu. Mae mantais o fod â phŵer isel, pellter hir, capasiti uchel (o ran y nifer o synwyryddion y gall y canolbwynt dderbyn data ohonynt) a throsglwyddiad data diogel.

Mae’r Cyngor yn buddsoddi mewn rhwydwaith o byrth LoRaWAN i sefydlu rhwydwaith ardal eang pŵer isel ar draws y ddinas a’r ystâd ddiwydiannol.

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Partneriaeth newydd wedi’i chytuno ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol RITA Project Team highly commended by Cydnabod y defnydd o ddyfeisiau RITA i gefnogi’r rheiny sy’n byw gyda dementia
Erthygl nesaf ‘Amgueddfa Dau Hanner’ newydd Wrecsam i dderbyn cyllid mawr gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ‘Amgueddfa Dau Hanner’ newydd Wrecsam i dderbyn cyllid mawr gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English