Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Paratowch ar gyfer Wrexfest yn Tŷ Pawb!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Paratowch ar gyfer Wrexfest yn Tŷ Pawb!
Pobl a lle

Paratowch ar gyfer Wrexfest yn Tŷ Pawb!

Diweddarwyd diwethaf: August 20, 2024 1:22 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Paratowch ar gyfer Wrexfest yn Tŷ Pawb!
RHANNU

Bydd Tŷ Pawb yn cynnal carnifal dau ddiwrnod AM DDIM o gerddoriaeth fyw, perfformiadau, gweithdai a gweithgareddau i bob oed dros benwythnos Gŵyl y Banc mis Awst!

Cynnwys
  • Blwyddyn orau erioed ar gyfer digwyddiadau cymunedol
  • Beth sydd ymlaen yn Tŷ Pawb
    • Dydd Gwener
    • Dydd Sadwrn

Mae’r digwyddiadau’n rhan o WREXFEST eleni – gŵyl drefol amlddiwylliannol sy’n pontio’r cenedlaethau a gynhelir mewn sawl lleoliad ar draws canol y ddinas sy’n cynnwys dros 100 o berfformwyr o bob rhan o’r byd yn ogystal â gweithgareddau a gweithdai am ddim i blant.

Blwyddyn orau erioed ar gyfer digwyddiadau cymunedol

Dywedodd trefnydd yr ŵyl, Brendan Griffiths: “Mae Tŷ Pawb yn lleoliad anhygoel ac yn ganolbwynt cymunedol hanfodol ac mae digwyddiad fel WREXFEST yn dangos ei bwysigrwydd yn ein cymuned.

“Mae gennym ni bum artist rhyngwladol enfawr ar y brig: Dub Pistols, Alabama 3, DJ Format, Band Pres Bollywood, Akram Abdulfattah ac fe wnaethom y penderfyniad i wneud dau o’r digwyddiadau matinee rhad ac am ddim hynny yn Tŷ Pawb i anfon y neges bod WREXFEST ar gyfer pawb mewn gwirionedd. .

“Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan leoliadau eraill wedi bod yn anhygoel; mae pawb o The Rockin’ Chair i Farchnadoedd Wrecsam wedi ymuno; rydym wedi cael y flwyddyn orau erioed ar gyfer digwyddiadau cymunedol ac mae Wrecsam yn prysur ennill ei lle fel gwir ddinas diwylliant flaenllaw”.

“Diolch yn fawr i Gyngor Celfyddydau Cymru, Tŷ Cerdd, Race Council Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU am gefnogi’r digwyddiad hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol â chyfrifoldeb dros Tŷ Pawb: “Bydd WREXFEST eleni yn gyfle gwych i weld Wrecsam a Tŷ Pawb ar eu gorau. Cymunedau yn dod at ei gilydd ar gyfer dathliad o gerddoriaeth a pherfformiad o bob rhan o’r byd a fydd yn diddanu pob oed. Rwy’n siŵr, fel gyda blynyddoedd blaenorol, y bydd yr awyrgylch yn Nhŷ Pawb y penwythnos hwn yn rhywbeth arbennig iawn.

“Yn ogystal â’r ŵyl, bydd yr oriel, y marchnadoedd a’r cwrt bwyd ar agor fel arfer, gan ei wneud yn ddiwrnod allan gwych i bawb, i gyd o dan yr un to.”

Beth sydd ymlaen yn Tŷ Pawb

Dyma’ch canllaw llawn ar gyfer digwyddiadau AM DDIM yn ystod y dydd yn Tŷ Pawb (dydd Gwener a dydd Sadwrn).

Sylwer: Nid oes angen archebu lle ar gyfer y digwyddiadau a restrir isod, fodd bynnag bydd digwyddiadau WREXFEST eraill sy’n cael eu cynnal ar draws canol y ddinas y penwythnos hwn (gan gynnwys perfformiadau nos yn Tŷ Pawb) angen band arddwrn/tocyn yr ŵyl i gael mynediad. Ewch i wefan WREXFEST am fanylion llawn.

Dydd Gwener

12pm – 6pm Cerddoriaeth fyw
Andy Hickie
Sue Denim
Bollywood Brass Band

2pm-3pm
Gweithdy Dawns Bollywood Brass Band
AM DDIM! Croeso i bob oed.

3pm-4pm
Gweithdy Drymio Bollywood Brass Band
AM DDIM! Croeso i bob oed

Dydd Sadwrn

12pm-6pm
Gweithgareddau Celf a Chrefft i’r Teulu Galw Heibio AM DDIM gyda Cyswllt Crefftau Wrecsam / Craft Connect Wrecsam

12pm-6pm
Cerddoriaeth fyw:
Rebecca-Royal International
One Kabria
Barry Welsh
Terry Allen
Achille Jones
Emma Wharton
Patchwork Man
Andy Bellis Music
Panedeni (Gofod Perfformio)
Igloo hearts
Akram Abdulfattah Official (Gofod Perfformio)

Beth sy ‘mlaen yn Tŷ Pawb

TAGGED:family activitiesFestivallive musicmusicperformancesummerwrecsamwrexfestwrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Stryt Las Apêl i edrych ar ôl yr elyrch ym Mharc Stryt Las
Erthygl nesaf fêps Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar fêps mewn ffordd gyfrifol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Air Covers
Air Covers o Wrecsam yn cryfhau twf byd-eang gyda chymorth y Parth Buddsoddi
Busnes ac addysg
November 11, 2026
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Y cyngor Digwyddiadau
November 10, 2026
Chirk Aqueduct
Dathlu pen-blwydd Traphont Ddŵr y Waun yn 225 oed mewn modd ysblennydd yng Nghastell y Waun
Pobl a lle Digwyddiadau
November 10, 2026
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Y cyngor
November 10, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Pobl a lle

Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026

November 5, 2026
Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam
Pobl a lleDigwyddiadau

Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam

November 6, 2026
Wrecswyl Logo
Pobl a lleDigwyddiadau

Gwyl ddiwylliannol Gymreig newydd, WRECSWYL, yn dod i Wrecsam ddydd Sadwrn yma!

November 6, 2026
Library
Y cyngorPobl a lle

Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn

November 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English