Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cymerwch ran yn Her Fawr y Ceblau ar Ddiwrnod Rhyngwladol E-Wastraff (14 Hydref)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Cymerwch ran yn Her Fawr y Ceblau ar Ddiwrnod Rhyngwladol E-Wastraff (14 Hydref)
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Cymerwch ran yn Her Fawr y Ceblau ar Ddiwrnod Rhyngwladol E-Wastraff (14 Hydref)

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 10, 2024 10:51 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Cymerwch ran yn Her Fawr y Ceblau ar Ddiwrnod Rhyngwladol E-Wastraff
RHANNU

Mae Recycle Your Electricals yn galw ar aelwydydd ar draws y DU i ymuno â ‘Her Fawr y Ceblau’ i ailgylchu un filiwn o geblau, a helpu i leihau e-wastraff.

Mae’r fenter yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol E-Wastraff eleni (14 Hydref).

Mae gwaith ymchwil newydd a gomisiynwyd gan Recycle Your Electricals wedi canfod bod dau o bob pump o gartrefi’r DU (39%) yn cadw eu heitemau trydanol bach mewn drôr sy’n cynnwys casgliad cudd o eitemau trydanol dieisiau a thechnoleg wedi torri sydd i’w canfod mewn nifer o aelwydydd.

Dywedodd mwy na chwarter o ymatebwyr sy’n cadw eitemau trydanol dieisiau (28%) eu bod yn teimlo embaras, dicter neu rwystredigaeth oherwydd yr eitemau bach hyn sy’n cael eu storio yn eu cartrefi.

Mae’r gwaith ymchwil hefyd yn dangos bod mwy na thraean o gartrefi’r DU (35%) sy’n cadw eitemau trydanol yn gwneud hynny oherwydd nad ydynt yn gwybod sut i gael gwared arnynt yn iawn.

Mae mwy na thraean o ymatebwyr (37%) yn gwirio am eitemau trydanol dieisiau lai nag unwaith y flwyddyn, a nod yr her yw rhoi ail fywyd i’r deunyddiau gwerthfawr sydd mewn ceblau, fel copr. Gellir ailgylchu copr a’i droi’n eitemau newydd fel tyrbinau gwynt a thechnoleg newydd fel ffonau symudol, gliniaduron, dyfeisiau llechen, oriorau clyfar.

Gyda miliynau o geblau mewn cartrefi yn y DU, mae Recycle Your Electricals wedi cyhoeddi Canllaw Ceblau defnyddiol. Gyda 35 o’r ceblau a ddefnyddir amlaf, mae’r canllaw yn defnyddio lluniau hawdd eu defnyddio i baru ceblau â’u heitemau trydanol gwreiddiol. Os nad yw’r eitemau neu’r ceblau’n gweithio bellach, neu os nad oes eu hangen, rhowch nhw mewn bag a’u hailgylchu!

Ailgylchwch hen eitemau trydanol yn eich canolfan ailgylchu leol

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym yn ychwanegu ein cefnogaeth i Her Fawr y Ceblau, ac rydym yn gwahodd ein preswylwyr i gymryd rhan trwy ailgylchu eu hen eitemau diangen. Mae banciau penodol ar gyfer eitemau trydanol yn y tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam.

“Os oes gennych eitemau trydanol mewn cyflwr da, gallwch eu rhoi i siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos. Gallwch gyfrannu i’r siop ailddefnyddio trwy unrhyw un o’r tair ganolfan ailgylchu. Siaradwch ag un o’r gweithwyr a gallant ddangos i chi lle i adael eich eitemau.”

Edrychwch ar ein gwefan i weld rhestr o bethau y gellir eu hailgylchu yn y canolfannau ailgylchu.

Gallwch wirio adnodd canfod cod post Recycle Your Electricals i ganfod eich man ailgylchu agosaf.

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

Rhannu
Erthygl flaenorol w Yn galw ar ddewiniaid a gwrachod – paratowch i ymuno â hud Harry Potter!
Erthygl nesaf Fr Data symudol AM DDIM i’r rheiny sydd fwyaf ei angen…a ydych chi’n gwybod am rywun y gallwn eu helpu?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English