Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gymru, achub dy groen! Ond gallwn wneud yn well fyth, yn enwedig wrth daclo gwastraff bwyd – Bydd Wych. Ailgylcha.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Gymru, achub dy groen! Ond gallwn wneud yn well fyth, yn enwedig wrth daclo gwastraff bwyd – Bydd Wych. Ailgylcha.
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Gymru, achub dy groen! Ond gallwn wneud yn well fyth, yn enwedig wrth daclo gwastraff bwyd – Bydd Wych. Ailgylcha.

Diweddarwyd diwethaf: 2024/10/14 at 10:12 AM
Rhannu
Darllen 6 funud
Achub dy groen
RHANNU

Er bod y rhan fwyaf ohonom yn gwybod na ddylai bwyd fyth fynd i’r bin sbwriel, y realiti yw bod chwarter cynnwys biniau gwastraff cyffredinol ein cartrefi yn wastraff bwyd. Mae hynny’n ddigon i lenwi 3,300 o fysiau deulawr bob blwyddyn. Yn syfrdanol, gellid bod wedi bwyta mwy nag 80% o’r bwyd hwn, gan gostio £89 y mis i’r aelwyd gyffredin o 4 person. Wff!

Cynnwys
Gwnewch addewid i achub eich bwyd o’r bin sbwriel ac ENNILLGallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwchYdych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?

Rydyn ni’n cefnogi ymgyrch gwych Cymru yn Ailgylchu i gyrraedd Rhif 1 yn y byd am ailgylchu, ac mae angen eich help CHI arnom i gyrraedd yno!

Dilynwch y tips syml hyn i ddarganfod beth allwch ei wneud, yna gwnewch yr addewid i ennill gwobrau (darllenwch fwy i ddarganfod sut). Fe wnewch chi hefyd arbed amser ac arian i chi’ch hun. Rydych chi ar eich ennill bob ffordd!

  • Byddwch yn greadigol gyda’r bwyd sydd dros ben gennych

Weithiau, gall bywyd fod yn brysur, ac mae’n rhaid inni wneud ein gorau gyda’r bwyd sydd ar gael i osgoi ei wastraffu. Beth am ei weld fel her hwyliog! Defnyddiwch y tameidiau olaf yn eich oergell i roi hwb sydyn a chreadigol i’ch prydau bwyd.

Gyda thymor pwmpenni yn ei anterth, beth am droi’r darnau bwytadwy hynny’n ffriterau, cyri, neu hyd yn oed smwddi, yn hytrach na gadael iddyn nhw fynd yn wastraff? Mae’r un peth yn wir am y llysiau angof hynny, cig rhost ddoe, neu ffrwythau aeddfed – mae tostis, omledi, a phwdinau iogwrt ymysg y syniadau blasus i’w defnyddio! Mae dod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio bwyd cyn iddo sbwylio’n foddhaus, yn flasus, ac yn garedig i’ch waled a’r blaned.

  • Os na ellir ei fwyta fe, ailgylcha fe

Peidiwch anghofio’r darnau anfwytadwy hynny – fel crwyn bananas, plisg wyau, a gwaddodion coffi – dylid eu hailgylchu bob amser. O fagiau te, esgyrn, crwyn banana neu hyd yn oed fwyd wedi llwydo sydd heibio’i ddyddiad – dim ots pa mor ych a fi – dylai’r cwbl fynd i’r bin bwyd.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Bydd pob aelwyd yn gwastraffu rhywfaint o fwyd – fel crwyn llysiau ac esgyrn, ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y pethau yma’n cael eu hailgylchu. 

“Yn Wrecsam, rydym yn darparu cadis a bagiau bwyd am ddim i’w gwneud yn hawdd i bawb ailgylchu eu gwastraff bwyd. Mae’n dda bod rhai pobl yn manteisio ar y gwasanaeth hwn ac ailgylchu, ond mae digonedd o le i wella o hyd, ac mae angen i ni wneud yn well.

“Byddwn ni’n rhannu awgrymiadau a chyngor am sut i ddefnyddio eich bwyd dros ben dros yr wythnosau nesaf felly cadwch olwg am hyn, gallai helpu i arbed arian i chi a’ch teulu.”

Gwnewch addewid i achub eich bwyd o’r bin sbwriel ac ENNILL

Gwnewch addewid i helpu Cymru gyrraedd Rhif 1, a gallech ennill gwyliau bythgofiadwy i chwech o bobl yn Bluestone Resort neu fynediad am ddim i atyniadau pennaf Cymru, fel Folly Farm, Zip World Tower, Plantasia, Royal Mint Experience, y Sw Fynydd Gymreig, neu Cadw!

Ewch draw i Cymru yn Ailgylchu i gymryd rhan.

P’un ai gartref, neu allan o amgylch y lle ydych chi, mae’n amser bod yn ddoeth gyda gwastraff bwyd.

Gallwch hefyd ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha neu #BeMightyRecycle – beth am rannu eich tips arbed bwyd?

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch

Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.

Darllenwch fwy…

Ydych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?

Pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn y rhybuddion, fe fyddwch chi’n cael e-bost i’ch atgoffa cyn eich casgliad nesaf, ond mae hefyd yn ffordd dda i ni gysylltu â chi am unrhyw amhariadau allai effeithio ar y gwasanaeth. Os hoffech chi e-byst i’ch atgoffa am eich bin, cliciwch yma a dilynwch y ddolen i gofrestru.

Cymerwch ran yn Her Fawr y Ceblau ar Ddiwrnod Rhyngwladol E-Wastraff (14 Hydref) – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED: ailgylchu, food waste, gwastraff bwyd, recycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Busnesau Wrecsam yn dod at ei gilydd i rannu arbenigedd, syniadau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol… Busnesau Wrecsam yn dod at ei gilydd i rannu arbenigedd, syniadau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol…
Erthygl nesaf Galwad am ddatgan diddordeb i greu Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 Galwad am ddatgan diddordeb i greu Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Awst 22, 2025
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle Awst 21, 2025
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion

Awst 22, 2025
Ruthin Road
Pobl a lle

Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio

Awst 21, 2025
Home-Start Baby Bank project
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol

Awst 19, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
DigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam

Awst 14, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English