Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhwng Ebrill 2023 – Mawrth 2024 roedd 1285 o ddigwyddiadau o dipio anghyfreithlon wedi’u cofnodi yn Wrecsam…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rhwng Ebrill 2023 – Mawrth 2024 roedd 1285 o ddigwyddiadau o dipio anghyfreithlon wedi’u cofnodi yn Wrecsam…
Y cyngorArall

Rhwng Ebrill 2023 – Mawrth 2024 roedd 1285 o ddigwyddiadau o dipio anghyfreithlon wedi’u cofnodi yn Wrecsam…

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 13, 2024 2:09 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Fly Tipping
RHANNU

Gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon yw tipio anghyfreithlon. Gall amrywio o fod yn fag bin unigol i fod yn filoedd o dunelli o wastraff. Gall fod yn beryglus, mae’n llygru’r tir a’r dyfrffyrdd ac yn costio swm sylweddol o arian i awdurdodau lleol ei glirio.

Rhwng Ebrill 2023 – Mawrth 2024 roedd 1285 o ddigwyddiadau o dipio anghyfreithlon wedi’u cofnodi yn Wrecsam yn unig.

Mae tipio yn anghyfreithlon a dylai preswylwyr sicrhau eu bod yn defnyddio cwmni gydag enw da er mwyn gwaredu unrhyw eitemau swmpus, neu wasanaeth casglu gwastraff swmpus y Cyngor.

Os oes gennych lawer iawn o sbwriel i’w waredu, sicrhewch eich bod yn defnyddio cwmni gydag enw da i wneud hyn ar eich rhan. Fel deiliad aelwyd mae gennych ddyletswydd i wirio bod y person yr ydych yn ei ddefnyddio â’r drwydded iawn i wneud hynny. Ni all y cwmni sy’n gweithredu ar eich rhan waredu’r eitemau yn eich canolfannau ailgylchu cartref ond rhaid iddynt eu gwaredu mewn cyfleuster wedi ei drwyddedu’n breifat.

Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus Cyngor Wrecsam…

Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth casglu gwastraff swmpus Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae gwastraff swmpus yn cyfeirio at eitemau sy’n rhy fawr i’w cludo gyda’r casgliad sbwriel arferol. Gall hyn gynnwys eitemau fel dodrefn, nwyddau gwyn a chyfarpar garddio. Gellir casglu hyd at wyth o eitemau am isafswm o £57.50. Bydd gan unrhyw eitem ychwanegol dros wyth eitem ffi ychwanegol o £10 fesul eitem.

Fel arfer gwneir casgliadau swmpus ar eich diwrnod casglu nesaf cyn belled â bod hysbysiad o 2 ddiwrnod gwaith wedi cael ei roi.

Byddwn yn casglu:

• Dodrefn (e.e. byrddau, cadeiriau, gwelyau, matresi, cypyrddau, desgiau, silffoedd llyfrau, cypyrddau dillad)
• Nwyddau gwyn (e.e. oergelloedd, rhewgelloedd, popty, peiriannau sychu dillad, microdon)
• Offer yr ardd (e.e. peiriannau torri gwair bach, offer gardd, byrddau a chadeiriau gardd, barbeciw, beiciau)
• Carped (darnau bychain o garped ac isgarped (toriadau o ddim mwy na maint un ystafell yn unig)
• Offer trydan ac electroneg (e.e. cyfrifiaduron, teledu)


Yr ydym yn cynnig casgliad ymyl palmant o wastraff gardd/organig yn y bin gwyrdd yn unig, nid ydym yn cynnig unrhyw wasanaeth casglu arall ar gyfer gwastraff gwyrdd, pridd na rwbel.
Bydd casgliadau swmpus fel arfer yn cael eu gwneud ar eich diwrnod casglu nesaf, os ydych wedi rhoi rhybudd o 2 ddiwrnod gwaith. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y casgliadau swmpus yma

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae tipio yn anghyfreithlon a dylai preswylwyr sicrhau eu bod yn defnyddio cwmni gydag enw da er myn gwaredu unrhyw eitemau swmpus, neu wasanaeth casglu gwastraff swmpus y Cyngor.” “Mae clirio sbwriel tipio anghyfreithlon yn gostus, yn cymryd amser ac yn tynnu adnoddau i ffwrdd o’r llefydd sydd eu hangen fwyaf.

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Sylwch fod holl ganolfannau ailgylchu wedi cau ar ddiwrnod Nadolig, ond maent ar agor fel arall.

Gallwch ddod o hyd i’ch canolfan ailgylchu agosaf a’r oriau agor isod:

Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam LL13 9UT

  • 8am – 8pm drwy gydol y flwyddyn

Y Lodge, Brymbo, Wrecsam LL11 5NR

  • 9am – 4pm

Banc Wynnstay, Plas Madoc, Wrecsam LL14 3ES

  • 9am – 4pm

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol e-feiciau, e-sgwteri a'r gyfraith. Beth sydd angen i chi ei wybod e-feiciau, e-sgwteri a’r gyfraith. Beth sydd angen i chi ei wybod
Erthygl nesaf Oriau agor Galw Wrecsam a'r Ganolfan Gyswllt dros y Nadolig Oriau agor Galw Wrecsam a’r Ganolfan Gyswllt dros y Nadolig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English