Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lansio prosiect Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Wrecsam yw’r Enw
Pobl a lle
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Pobl a lle Y cyngor
Train carriage
Cyngor Wrecsam yn cefnogi cais newydd am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Lundain Euston
Arall
save the date
Mae Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd am ei drydedd flwyddyn…Rhagfyr 4 🎄
Digwyddiadau Pobl a lle
telecare scam
Sgàm Teleofal
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Lansio prosiect Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb!
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Lansio prosiect Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb!

Diweddarwyd diwethaf: 2025/04/25 at 4:21 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Cynrychiolwyr o sefydliadau sy’n cefnogi yn lansio prosiect Benthyca a Thrwsio Wrecsam
RHANNU

Mae’r Maer Beryl Blackmore, ynghyd â Chynghorwyr eraill, a Swyddogion y Cyngor, a Chadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol Groundwork Gogledd Cymru and Refurbs wedi lansio’r prosiect newydd ‘Benthyca a Thrwsio’ yn swyddogol; cyn croesawu ymwelwyr o ddydd Iau, 1 Mai.

Cynnwys
Beth yw ‘Llyfrgell Pethau’?Mathau o eitemauOes gennych chi eitemau y gallech eu rhoi?Casglu / gollwngMwy na llyfrgell fenthyca yn unigY diweddaraf

Gyda chymorth trwy gyllid Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae Cyngor Wrecsam yn gweithio gyda Benthyg Cymru, Caffi Trwsio Cymru, Lend Engine, Refurbs a Groundwork Gogledd Cymru i ddarparu’r prosiect.

Beth yw ‘Llyfrgell Pethau’?

Mae’r prosiect yn seiliedig ar y cysyniad ‘Llyfrgell Pethau’, sy’n golygu y gallwch fenthyca eitemau defnyddiol am gost fach (o’i gymharu â’r hyn y byddech chi’n ei dalu i brynu’r eitem yn newydd eich hun).

Mae yna lawer o offer / cyfarpar y mae pobl yn eu gweld yn ddefnyddiol bob hyn a hyn – ond nid yw talu’r gost lawn i’w prynu eich hun yn gwneud synnwyr os yw’n mynd i fod yn segur y rhan fwyaf o’r amser!

Mathau o eitemau

Bydd amrywiaeth o eitemau ar gael, gan gynnwys:

  • Offer gwaith y cartref ac offer garddio
  • Offer glanhau
  • Offer gwersylla
  • Gemau parti

Gallwch edrych ar eitemau’r catalog yn lendandmend.org.uk

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Amgylcheddol: “Bydd y prosiect yn fenter wych i’r gymuned; gan ganiatáu i breswylwyr rentu eitemau am gost isel tra hefyd yn cyfrannu at economi fwy cynaliadwy”.

Oes gennych chi eitemau y gallech eu rhoi?

Os oes gennych unrhyw eitemau nad oes eu hangen arnoch mwyach, cysylltwch â ni drwy e-bostio info@lendandmend.org.uk i weld a ellid eu hychwanegu at y casgliad.

Gallai hyn fod yn offer neu gyfarpar sy’n ddefnyddiol o amgylch y tŷ neu’r ardd, ar gyfer heicio, neu’n wych ar gyfer adloniant.

Casglu / gollwng

Mae dau locer mawr (yn debyg i loceri casglu parseli) sy’n gallu dal eitemau o wahanol feintiau, un yn yr uned Benthyca a Thrwsio ei hun ac un yn y coridor ger yr uned.

Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n gallu gollwng eitemau rydych chi wedi gorffen gyda nhw unrhyw bryd yn ystod oriau agor prif adeilad Tŷ Pawb os yw’r uned ar gau.

Bydd yr uned yn cael ei gosod i agor:

  • Dydd Mawrth – Dydd Gwener, 11.30am – 2.30pm
  • Dydd Sadwrn: 10.30am – 3.30pm
  • Ar gau ar ddydd Sul a dydd Llun
Lansio prosiect Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb!
Locer storio eitemau Benthyca a Thrwsio Wrecsam.
Lansio prosiect Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb!
Swyddfa’r prosiect a’r Maer Beryl Blackmore yn edrych ar y catalog eitemau yn uned Benthyca a Thrwsio Wrecsam.
Lansio prosiect Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb!
Swyddog y prosiect, y Maer Beryl Blackmore a Chymar y Maer, Mrs. Dorothy Lloyd o flaen locer storio eitemau Benthyca a Thrwsio yn Wrecsam.
Lansio prosiect Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb!
Locer storio eitemau Benthyca a Thrwsio Wrecsam.
Lansio prosiect Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb!
Cynrychiolwyr o sefydliadau sy’n cefnogi yn lansio prosiect Benthyca a Thrwsio Wrecsam.

Mwy na llyfrgell fenthyca yn unig

Yn ogystal ag eitemau i’w benthyca, nod y prosiect yw darparu sesiynau trwsio a gweithdai ymarferol bob mis – i helpu i ddangos i bobl sut i drwsio neu uwchgylchu eitemau presennol.

Mae hyn yn helpu’r ‘economi gylchol’ lle mae eitemau’n cael eu cadw mewn defnydd am gyfnod hwy, sy’n golygu bod llai o adnoddau’n cael eu defnyddio i greu eitemau newydd pan mae eitem yn gallu cael ei thrwsio yn lle hynny.

Dywedodd Karen Balmer, Prif Swyddog Gweithredol Groundwork Gogledd Cymru “Mae gennym obeithion mawr y bydd y cyfleuster newydd hwn yn dda i bobl, yr economi a’r amgylchedd.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein hymwelwyr cyntaf ar 1 Mai”.

Y diweddaraf

Gallwch gadw llygad am ddiweddariadau prosiect ar Dudalen Facebook Benthyca a Trwsio (neu cysylltwch â ni drwy info@lendandmend.org.uk).


Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Menter gymunedol newydd Benthyca a Thrwsio yn dod i Tŷ Pawb, Wrecsam, yn fuan

TAGGED: Benthyca a Thrwsio, Lend and Mend
Rhannu
Erthygl flaenorol Isogenus Nubecula-fedrwch helpu i ddod o hyd i'r anifail prinnaf yn Wrecsam? Isogenus Nubecula-fedrwch helpu i ddod o hyd i’r anifail prinnaf yn Wrecsam?
Erthygl nesaf League One table 2024/25 season - Wrexham AFC win promotion Llongyfarchiadau mawr i Glwb Peldroed Wrecsam!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Wrecsam yw’r Enw
Pobl a lle Rhagfyr 3, 2025
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Pobl a lle Y cyngor Rhagfyr 3, 2025
Train carriage
Cyngor Wrecsam yn cefnogi cais newydd am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Lundain Euston
Arall Rhagfyr 2, 2025
save the date
Mae Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd am ei drydedd flwyddyn…Rhagfyr 4 🎄
Digwyddiadau Pobl a lle Rhagfyr 2, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Pobl a lle

Wrecsam yw’r Enw

Rhagfyr 3, 2025
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Pobl a lleY cyngor

Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor

Rhagfyr 3, 2025
save the date
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd am ei drydedd flwyddyn…Rhagfyr 4 🎄

Rhagfyr 2, 2025
Daw ‘Gwlad Hudol y Nadolig’ i Tŷ Pawb ddydd Sadwrn yma!
Pobl a lle

Daw ‘Gwlad Hudol y Nadolig’ i Tŷ Pawb ddydd Sadwrn yma!

Rhagfyr 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English