Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r Fwrdeistref Sirol yn paratoi ar gyfer nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop – 8 Mai!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae’r Fwrdeistref Sirol yn paratoi ar gyfer nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop – 8 Mai!
Pobl a lleDigwyddiadau

Mae’r Fwrdeistref Sirol yn paratoi ar gyfer nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop – 8 Mai!

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 29, 2025 4:33 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Armed Forces
RHANNU

Mae wyth deg mlynedd wedi mynd heibio ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop ym 1945, ac fe’ch gwahoddir i fod yn rhan o’r coffáu a’r nodi yng nghanol dinas Wrecsam.

Bydd 8 Mai, 2025, yn dechrau gyda gwasanaeth yn Eglwys Plwyf San Silyn am 12.30pm. Mae’r gwasanaeth hwn ar agor i’r cyhoedd, felly dewch draw i gymryd rhan yn y gwasanaeth awyr agored hwn dan arweiniad Corfflu Drymiau Gwirfoddol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Am 1.15pm, bydd Corfflu Drymiau Gwirfoddol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn arwain yr orymdaith o Eglwys Plwyf Sant Silyn i’r senotaff ym Modhyfryd. Yn yr orymdaith hon, byddwch yn gallu gweld baneri’r cymdeithasau milwrol yn Wrecsam.

Gallwch ddarganfod mwy am lwybr yr orymdaith yn yr erthygl hon.

Beth arall sy’n digwydd yn Wrecsam?

Nid canol y ddinas yn unig fydd yn nodi’r achlysur… mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws y fwrdeistref sirol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n parhau i gadw llygad ar ein tudalen Facebook am fanylion.

Dyma rai i ddechrau ar gyfer eich dyddiadur…

Cefn Mawr

Bydd Cyngor Cymuned Cefn yn cynnal digwyddiad yn Neuadd George Edwards ar 8 Mai, a fydd yn cynnwys 50 i 60 o drigolion yn mwynhau te prynhawn, corau o Ysgol Cefn Mawr ac Ysgol Acrefair. Bydd Amgueddfa Cefn Mawr yn bresennol gyda llawer o bethau cofiadwy o’r cyfnod hwnnw. Byddwn hefyd yn chwifio baner Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn ein senotaff.

Owrtyn

Ar 8 Mai, am 11am, bydd torch yn cael ei gosod a theyrnged yn cael ei thalu wrth Gofeb Ryfel Owrtyn, ac yna bydd gwasanaeth byr yn Eglwys y Santes Fair, Owrtyn dan arweiniad y Tad Jeremy Dussek.

Ar 9 Mai, am 7.30pm, bydd Cyngerdd Band Mawr yn Eglwys y Santes Fair yn cynnwys cerddoriaeth o’r 1940au ymlaen, gan Wrexham Big Band.

Mae tocynnau ar gael am £10 yr un o The Corner Shop Owrtyn. 

Is-y-coed

Byddant yn nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn Neuadd y Pentref. Gwahoddir pob preswylydd am luniaeth o’r Neuadd Bentref gyda swper o bysgod a sglodion ar gael. Bydd y ffagl yn cael ei chynnau gyda’r nos ar dir wrth ymyl Neuadd y Pentref a bydd Clychau’r Eglwys yn cael eu canu i nodi’r achlysur. Bydd plant ysgol lleol hefyd yn cymryd rhan wrth ganu ‘I vow to thee my country’.  

Cysylltwch â’r cynghorau cymuned sy’n trefnu i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau cymunedol.

Rhannu
Erthygl flaenorol Dim newid i gasgliadau biniau dros wyl y banc Dim newidiadau i gasgliadau biniau ar ddydd Llun Gŵyl y Banc (5 Mai)
Erthygl nesaf Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â’r Hwb Cymraeg yn ystod Focus Wales! Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â’r Hwb Cymraeg yn ystod Focus Wales!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Hydref 8, 2026
All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The Longest Yarn in Wrexham
DigwyddiadauFideoPobl a lle

Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth

Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Pobl a lle

Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig

Hydref 2, 2026
Poppy field
Digwyddiadau

Wrecsam yn Cofio

Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English