Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Safonau Masnach yn cau Siop Gyfleustra yng Nghanol y Ddinas am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Safonau Masnach yn cau Siop Gyfleustra yng Nghanol y Ddinas am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon
Pobl a lleY cyngor

Safonau Masnach yn cau Siop Gyfleustra yng Nghanol y Ddinas am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon

Diweddarwyd diwethaf: Mai 30, 2025 10:46 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Safonau Masnach yn cau Siop Gyfleustra yng Nghanol y Ddinas am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon
RHANNU

Yn dilyn achosion o gau yn ddiweddar yn ardal Wrecsam, mae llys Ynadon Wrecsam wedi rhoi gorchymyn cau pellach ar gyfer eiddo yng Nglan yr Afon yn Wrecsam ar 27 Mai. Clywodd yr ynadon fod Brook Street Mini Market yn wedi cadw a gwerthu tybaco a fêps anghyfreithlon dros gyfnod o amser. Pan ymwelodd Swyddogion Safonau Masnach â’r safle ar 14 Ebrill, gyda chefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru, darganfuwyd cuddle oedd yn cynnwys swm o dybaco a fêps tafladwy anghyfreithlon.  Atafaelwyd y cynnyrch hyn a rhoddwyd cyngor.  Ar 12 Mai, y diwrnod cyn dyddiad gorchymyn cau gwreiddiol y Llys, gwnaed pryniant prawf o dybaco anghyfreithlon o Brook Street Mini Market, sy’n dangos anwybodaeth llwyr tuag at gydymffurfio reoleiddiol.  Cafodd y cais gwreiddiol am orchymyn cau ei ohirio am bythefnos er mwyn galluogi perchennog y busnes i fynychu’r llys, ond cafodd y siop ei chau nes bod y mater yn dychwelyd i’r llys ar 27 Mai.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Ddiogelu’r Cyhoedd, “Mae’r nifer fawr o siopau cyfleustra bach sydd wedi codi o amgylch y ddinas sy’n ymwneud â chyflenwi tybaco a fêps anghyfreithlon yn frawychus.  Byddwn yn parhau i roi pwysau ar y masnachu anghyfreithlon hwn am ei fod yn bygwth iechyd plant ac oedolion ac yn dod â throseddu i’n cymuned.  Byddwn yn annog unrhyw un sy’n pryderu, yn enwedig am iechyd plant ac sydd ag unrhyw wybodaeth am gyflenwi’r cynnyrch anghyfreithlon hyn i roi gwybod amdano. Byddwn hefyd yn annog landlordiaid ac asiantaethau i fod yn ofalus iawn wrth gynnig rhentu neu brydlesu eiddo manwerthu i sicrhau y bydd eu darpar denantiaid yn gweithredu’n gyfreithlon a ddim yn gwerthu cynnyrch anghyfreithlon. Os bydd tystiolaeth bod landlordiaid neu asiantaethau wedi chwarae rhan, bydd y Cyngor yn ymchwilio ac yn erlyn.

“Mae dros 5000 o bobl yng Nghymru yn marw bob blwyddyn o glefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu, ac mae’n lladd 1 o bob 2 ddefnyddiwr hirdymor. Mae mynediad hawdd at dybaco rhad yn cynyddu’r siawns y bydd plant yn datblygu caethiwed gydol oes i’r cynnyrch hynod gaethiwus hwn. Fel arfer, mae fêps anghyfreithlon yn cynnwys llawer mwy o nicotin na’r lefelau a ganiateir ac yn peri risg debyg o gaethiwed gydol oes. Oherwydd hyn byddwn yn ceisio tarfu cymaint â phosibl ar y masnachu hyn drwy bob dull posibl. 

Mae fêps tafladwy yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd gyda miliynau’n cael eu taflu bob blwyddyn yng Nghymru. Mae pob fêp sy’n cael ei daflu yn cynnwys plastig, cydrannau electronig, batri a hylif gweddilliol. Nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hailgylchu ac mae’r gwahanol rannau yn llygru pridd a dŵr. Mae’r rhai sy’n llwyddo i gyrraedd y system wastraff wedi achosi tanau mewn cyfleusterau ailgylchu gwastraff oherwydd y batri sydd gan bob eitem. Am y rhesymau hyn, o ddechrau mis Mehefin, bydd yn anghyfreithlon gwerthu fêps untro neu dafladwy unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae angen i fanwerthwyr fod yn siŵr eu bod wedi clirio unrhyw stoc o fêps tafladwy erbyn diwedd mis Mai.

Gall unrhyw un rannu gwybodaeth yn ddienw ar-lein yn https://noifs-nobutts.co.uk/ neu dros y ffôn ar 029 2049 0621

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwaith i ddiogelu mannau gwyrdd Wrecsam yn cael ei gydnabod yn Ngarddwest y Palas Gwaith i ddiogelu mannau gwyrdd Wrecsam yn cael ei gydnabod yn Ngarddwest y Palas
Erthygl nesaf Gwaelod boncyff coeden wedi'i orchuddio â mwsogl, wedi'i amgylchynu gan goetir ‘Gwreiddiau a’r Cyfan’ – Mae Wythnos Cysylltiadau Coetir yn dychwelyd 14-20 Mehefin gyda gweithgareddau am ddim!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English