Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen ‘Gwreiddiau a’r Cyfan’ – Mae Wythnos Cysylltiadau Coetir yn dychwelyd 14-20 Mehefin gyda gweithgareddau am ddim!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > ‘Gwreiddiau a’r Cyfan’ – Mae Wythnos Cysylltiadau Coetir yn dychwelyd 14-20 Mehefin gyda gweithgareddau am ddim!
Datgarboneiddio WrecsamDigwyddiadauPobl a lle

‘Gwreiddiau a’r Cyfan’ – Mae Wythnos Cysylltiadau Coetir yn dychwelyd 14-20 Mehefin gyda gweithgareddau am ddim!

Diweddarwyd diwethaf: Mai 30, 2025 5:06 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Gwaelod boncyff coeden wedi'i orchuddio â mwsogl, wedi'i amgylchynu gan goetir
RHANNU

Ym mis Mehefin, mae Partneriaeth Coedwig Wrecsam yn gwahodd pobl o bob oed i gymryd rhan yn Wythnos Cysylltiadau Coetir 2025.

Cynnwys
  • Diwrnod lansio yng nghanol y ddinas
    • Dewch draw am weithgareddau am ddim
  • Gweddill yr wythnos
  • Llofnodi’r addewid
  • Rhagor o wybodaeth

Yn dychwelyd am y drydedd flwyddyn, bydd rhaglen fywiog o ddigwyddiadau i ymuno â hi – i ddathlu hud coetiroedd o’n cwmpas, wedi’i hariannu gan Gronfa Goed Frys Coed Cadw.

Yn rhedeg o ddydd Sadwrn 14 hyd at ddydd Gwener 20 Mehefin, thema eleni yw ‘Gwreiddiau a’r Cyfan’, sy’n dathlu pob rhan o goeden – o’r rhwydweithiau tanddaearol o wreiddiau i ganopi copaon coed. Byddwn yn edrych ar sut mae coed yn gweithio, yn ogystal â sut rydyn ni’n elwa arnynt fel bodau dynol!

Diwrnod lansio yng nghanol y ddinas

Mae’r wythnos yn dechrau gyda digwyddiad lansio llawn hwyl, ‘Coed yn Meddiannu’r Ddinas’ ddydd Sadwrn 14 Mehefin, ar lawnt Llwyn Isaf (y Cae Llyfrgell) yng nghanol dinas Wrecsam.

Byddwch chi’n gallu cwrdd â’r arbenigwyr o sefydliadau cefnogi (megis Coed Cadw, Llais y Goedwig, Xplore, Tŷ Pawb ac Ystafell Ddosbarth Coetir), a darganfod pam rydyn ni’n caru coed cymaint.

Dewch draw am weithgareddau am ddim

Gall teuluoedd, cariadon natur a meddyliau chwilfrydig fwynhau rhaglen gyfoethog o weithgareddau am ddim ar Lwyn Isaf rhwng 1 a 4pm gan gynnwys:

  • Coginio ar dân coed
  • Llwybr stori rhyngweithiol
  • Arbrofion gwyddoniaeth ymarferol
  • Gweithdai gwehyddu helyg a chrefft coed
  • Teithiau tywys natur
  • Gweithgareddau celf coetir creadigol
  • Profiadau synhwyraidd fel y synau y mae coed yn eu gwneud ac arogleuon y goedwig

Mae pob gweithgaredd wedi’i gynllunio i gysylltu pobl â byd rhyfeddol coed – gan ddatgelu sut maen nhw’n tyfu, cyfathrebu a chefnogi ecosystemau.

“Mae Gwreiddiau a’r Cyfan yn ymwneud â chloddio’n ddwfn – yn llythrennol ac yn ffigurol – i archwilio pob rhan o’r hyn sy’n gwneud coed mor hanfodol i’n byd,” meddai Jacinta Challinor, Cadeirydd Partneriaeth Coedwig Wrecsam. “P’un a yw’n darganfod arogl coedwig pinwydd neu glywed y dirgryniadau mewn coeden, rydyn ni eisiau i bobl gysylltu â choetiroedd mewn ffyrdd hollol newydd.”

Gweddill yr wythnos

Bydd y dathliad yn parhau drwy gydol yr wythnos gyda digwyddiadau cymunedol ledled y rhanbarth.

P’un a ydych eisoes yn frwdfrydig am goed neu’n chwilio am ffordd hwyliog ac ystyrlon o ymgysylltu â natur, mae gan Wythnos Cysylltiadau Coetir rywbeth at ddant pawb.

Llofnodi’r addewid

Os na allwch ymuno ag unrhyw un o’r digwyddiadau yn ystod yr wythnos, mae mwy nag un ffordd o ddangos eich cefnogaeth tuag at goed a choetiroedd yn Wrecsam.

Drwy gofrestru i’r Addewid Coetir gallwch ymuno â’n rhestr bostio, lle gallwch ddarganfod sut i gymryd rhan mewn gwarchod coetir presennol, neu blannu coed newydd, yn Wrecsam.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o ddiweddariadau, dilynwch: Partneriaeth Coedwig Wrecsam ar Facebook.


Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Gwaith i ddiogelu mannau gwyrdd Wrecsam yn cael ei gydnabod yn Ngarddwest y Palas

Rhannu
Erthygl flaenorol Safonau Masnach yn cau Siop Gyfleustra yng Nghanol y Ddinas am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon Safonau Masnach yn cau Siop Gyfleustra yng Nghanol y Ddinas am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon
Erthygl nesaf Llongyfarchiadau Lili Mai Jones, Elen Mai Nefydd, Mark Lewis Jones ac Glesni Llwyd Carter a fu'n cael ei dderbyn i'r orsedd yn Eisteddfod Wrecsam eleni. Llongyfarchiadau Lili Mai Jones, Elen Mai Nefydd, Mark Lewis Jones ac Glesni Llwyd Carter a fu’n cael ei dderbyn i’r orsedd yn Eisteddfod Wrecsam eleni.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English