Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol dros Addysg, “Ar ran Cyngor Wrecsam, hoffwn ddweud llongyfarchiadau wrth ein holl ddysgwyr TGAU sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw. Mae eich gwaith caled a’ch penderfyniad yn glodwiw.
P’un a yw eich canlyniadau wedi cyrraedd eich nodau ai peidio, cofiwch mai dim ond un cam yn eich taith yw hwn. Dymunwn bob llwyddiant i chi yn eich camau nesaf – boed yn addysg bellach, prentisiaethau, neu waith.