Ddydd Mercher, 10 Medi, gorchmynnodd llys ynadon Wrecsam i ddwy siop gyfleustra arall yn Wrecsam gau am werthu tybaco anghyfreithlon a fêps anghyfreithlon.
Gorchmynnodd y llys i Wrexham Mini Market yn 44-46 Stryt y Bont a Wrexham Corner Market yn 1 Ffordd Melin y Brenin gau am 3 mis. Gwnaed atafaeliadau a phryniannau prawf o gynhyrchion anghyfreithlon ar y ddwy safle, gan gynnwys ymafael yn 12,000 o sigaréts a 5,500g o dybaco rhydd o Farchnad Cornel Wrecsam.
Roedd y ddwy safle wedi derbyn cyngor a rhybudd yn flaenorol, a chafodd y ddwy ohonynt eu cynrychioli yn y llys gan fargyfreithiwr na heriodd y dystiolaeth a gyflwynwyd, ond a ddadleuodd dros gyfnod cau byrrach a gostyngiad yn y costau a hawliwyd. Ystyriodd yr ynadon y cais, ond gwnaethant orfodi’r cyfnod cau llawn o 3 mis a dyfarnu’r costau llawn o £2842.56 i’r cyngor.
Dim ond y diweddaraf yw’r ddau yma mewn cyfres orchmynion cau a roddwyd dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i werthu tybaco a fêps anghyfreithlon, mater sy’n effeithio nid yn unig ar Wrecsam ond ar drefi a dinasoedd ledled y DU.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr aelod arweiniol dros ddiogelu’r cyhoedd: “Mae’n frawychus gweld y nifer fawr o siopau fêps sydd wedi codi o amgylch y ddinas a darganfod cynnyrch anghyfreithlon mewn cynifer o safleoedd. Byddwn yn parhau i weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a Chyllid a Thollau i roi pwysau ar y masnachu anghyfreithlon hwn am ei fod yn bygwth iechyd plant ac oedolion ac yn dod â throseddu i’n cymuned. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n pryderu, yn enwedig am iechyd plant, ac sydd ag unrhyw wybodaeth am gyflenwi’r cynnyrch anghyfreithlon hyn i roi gwybod amdano. Byddwn hefyd yn annog landlordiaid ac asiantaethau i sicrhau y bydd eu darpar denantiaid yn gweithredu’n gyfreithlon a ddim yn gwerthu cynnyrch anghyfreithlon. Os bydd tystiolaeth bod landlordiaid neu asiantaethau wedi chwarae rhan, bydd y cyngor yn ymchwilio ac yn erlyn.
“Mae dros 5000 o bobl yng Nghymru yn marw bob blwyddyn o glefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu, ac mae’n lladd 1 o bob 2 ddefnyddiwr hirdymor. Er bod cyfraddau ysmygu’n gostwng yn gyffredinol, ysmygu o hyd yw’r achos unigol mwyaf o farwolaeth gynamserol ledled y byd, ledled y DU ac yng Nghymru. Mae mynediad hawdd at dybaco rhad yn cynyddu’r siawns o ddenu plant i gaethiwed gydol oes i’r cynnyrch hynod gaethiwus hwn. Fel arfer, mae fêps anghyfreithlon yn cynnwys llawer mwy o nicotin na’r lefelau a ganiateir ac yn peri risg debyg o gaethiwed gydol oes. Oherwydd hyn, law yn llaw â’n partneriaid, byddwn yn ceisio tarfu cymaint â phosibl ar y fasnach hon.”
Mae fêps tafladwy yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd gyda miliynau’n cael eu taflu bob blwyddyn yng Nghymru. Mae pob fêp sy’n cael ei daflu yn cynnwys plastig, cydrannau electronig, batri a hylif gweddilliol. Nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hailgylchu, ac mae’r gwahanol rannau yn llygru pridd a dŵr. Mae’r rhai sy’n llwyddo i gyrraedd y system wastraff wedi achosi tanau mewn cyfleusterau ailgylchu gwastraff oherwydd y batri sydd ym mhob eitem. Am y rhesymau hyn, ers dechrau mis Mehefin, mae wedi bod yn anghyfreithlon gwerthu fêps untro neu dafladwy unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
Gall unrhyw un rannu gwybodaeth yn ddienw ar-lein neu drwy ffonio 029 2049 0621.