Mae’r hydref wedi cyrraedd – mae’r dail yn newid lliw, mae trefn ar eich diwrnodau, ac mae’n amser perffaith i ailosod ein harferion. Dyna pam mae Cyngor Wrecsam yn ymuno â Cymru’n Ailgylchu i annog ein hymwelwyr i feddwl cyn iddyn nhw daflu – p’un a ydych chi ar ein safle neu allan yn unrhyw le yng Nghymru.
Mae Cymru eisoes yn gwneud yn wych fel yr ailgylchwr ail orau yn y byd – mymryn y tu ôl i Awstria – ond dydyn ni ddim am aros yn fanno. Gyda’ch help, gallwn ni danio ein hunain i rif un.
A diolch i’r gyfraith ailgylchu yn y gweithle newydd (Ebrill 2024), mae’n haws nag erioed ailgylchu pan fyddwch chi oddi cartref. Fe welwch chi finiau ailgylchu pan fyddwch chi allan yn ymweld â lleoliadau dan do sy’n eiddo i’r Cyngor. Felly cyn i chi daflu unrhyw beth i’r bin, cymerwch eiliad i edrych ar yr arwyddion a’i roi yn y lle iawn. Mae’n arfer cyflym sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.
Pa finiau y gallwch chi eu defnyddio i ailgylchu ar y safle:
- Poteli plastig, caniau diodydd a chartonau
- Gwydr
- Bwyd
- Papur/cardbord
- Gwastraff cyffredinol
Pam mae’n bwysig – mae pob eitem yn cyfrif
Bob tro rydych chi’n ailgylchu, rydych chi nid yn unig yn cadw sbwriel allan o’r bin – ond rydych chi’n arbed ynni, adnoddau, ac yn dod â ni gam yn nes at y brig.
Oeddech chi’n gwybod?
- Mae ailgylchu metel a gwydr yn defnyddio 95% yn llai o ynni na’i wneud o ddeunyddiau crai – a gellir ei ailgylchu yn ddiddiwedd heb golli ansawdd. Peidiwch â gadael i’r ffoil, y caniau diodydd neu’r poteli fynd yn wastraff!
- Gall un can wedi’i ailgylchu yn unig arbed digon o ynni i bweru teledu am 2 awr.
Gadewch i ni danio Cymru i rif 1
Gwastraff bwyd yw un o’r ffyrdd mwyaf y gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth. Drwy ddefnyddio’r bwyd rydych chi’n ei brynu – ac ailgylchu’r hyn na ellir ei fwyta – byddwch yn helpu i leihau gwastraff.
Beth am roi eich sgiliau ar brawf?
Wynebwch yr Her Bwyd Doeth gyda Cymru’n Ailgylchu, dysgu ryseitiau syml i arbed amser ac arian, a chael cyfle i ennill gwobr flasus o Gymru.
Felly, p’un a ydych chi’n mwynhau diwrnod allan ar ein safle, yn mynd i ddigwyddiad, neu yn y swyddfa – cofiwch, meddyliwch cyn i chi daflu. Gyda’n gilydd, gallwn ni sicrhau mai Cymru yw ailgylchwr gorau’r byd. Amdani!