Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gŵyl Trosedd Clwyd – gŵyl lenyddol newydd!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Digwyddiadau Pobl a lle
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Green garden waste bin
Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf
Y cyngor
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Wrecsam yw’r Enw
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Gŵyl Trosedd Clwyd – gŵyl lenyddol newydd!
DigwyddiadauPobl a lle

Gŵyl Trosedd Clwyd – gŵyl lenyddol newydd!

Diweddarwyd diwethaf: 2025/10/15 at 12:33 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Clwyd Crime
RHANNU

Mae sawl enw mawr wedi eu rhestru ar gyfer gŵyl lenyddol fwyaf newydd gogledd-ddwyrain Cymru. Bydd Trosedd Clwyd yn dechrau ar 5 Tachwedd, 2025 fel rhan o bartneriaeth rhwng Gŵyl Geiriau Wrecsam, The Mold Bookshop, Llyfrgelloedd Gwella a Gwasanaeth Llyfrgelloedd Wrecsam.

Bydd yr Ŵyl Newydd hon sy’n cael ei chynnal yn Yr Wyddgrug a Wrecsam yn wledd i gefnogwyr nofelau trosedd a dirgelwch. Bydd y rhaglen yn cynnwys awduron poplogaidd fel Alan Johnson a Simon McCleave ac yn cynnwys digwyddiadau yng Nghymraeg ac yn Saesneg.

Pwy fydd yn Trosedd Clwyd?

Agorir yr Ŵyl gyda’r awdur llyfrau ffuglen trosedd poblogaidd Vaseem Khan sy’n mynd â ni ar daith gyffrous o gymhlethdodau India wedi Annibyniaeth – gyda’i nofelau Malabar House – i MI6 Prydain gyfoes a champau James Bond a Q. Bydd yn mynd â ni ar siwrne arall trwy ei lyfr cyffro annibynnol The Girl in Cell A, gan ein cyflwyno i dref mwyngloddio Americanaidd clawstroffobig sy’n llawn cyfrinachau tywyll.  Ac mae ei gyfres newydd sy’n cynnwys Q, gan ddechrau gyda Quantum of Menace, yn dod ag un o gymeriadau mwyaf eiconig ffuglen ysbïwyr yn fyw – ond pwy oedd y Q go iawn?

Bydd un o awduron trosedd mwyaf gafaelgar y DU hefyd yn ymddangos. Bydd Simon McCleave, crëwr Snowdonia Killings, yn cyflwno prynhawn trydanol o gyffro, adrodd straeon a chyfrinachau. Ar draws tirweddau garw Gogledd Cymru, mae Simon yn creu dirgelion sy’n cadw’r darllenwyr ar ymyl eu seddi. Yn y digwyddiad arbennig hwn, bydd Simon yn trafod ei nofelau, y grefft o greu tensiwn, a’r hyn sydd ei angen i greu ditectif gwirioneddol fythgofiadwy.

Enillodd Alan Johnson – cyn Ysgrifennydd Addysg, Ysgrifennydd Iechyd ac Ysgrifennydd Cartref yn llywodraeth Llafur hyd at 2010 – lawer o wobrau am bedwar llyfr ei atgofion, This Boy, Please Mister Postman, The Long and Winding Road a In My Life. Yn ddiweddar, mae Alan wedi cyhoeddi cofiant am Harold Wilson, ond mae’n ymddangos yng Ngŵyl Trosedd Clwyd i siarad am ei nofelau ditectif Mangan, The Late Train To Gypsy Hill, One Of Our Ministers Is Missing, a Death on the Thames.

Mae Sonia Edwards yn un o awduron Cymraeg mwyaf poblogaidd Cymru ac mae ei dirgelion cyffrous yn cydblethu â chymeriadau diddorol. Mae hi wedi derbyn Gwobr Tir na n-Og, Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru ym 1996 ac ym 1999 a 2017 enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ynys Môn.

Mae Meleri Wyn James yn awdur sydd wedi ysgrifennu llyfrau i blant ac oedolion ers dros 25 mlynedd. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, Catrin Jones yn Unig, restr fer Nofel 2000 Gwasg Gomer. Roedd yn rhaid ail argraffu’r nofel gan ei bod mor boblogaidd. Roedd ei nofel St@fell i bobl ifanc, hefyd ar restr fer Gwobr Tir na n-Og. Meleri hefyd yw awdures y gyfres boblogaidd Na,Nel! i blant oed cynradd sydd bellach hefyd yn sioe lwyfan. Enillodd Meleri hefyd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 am ei nofel Hallt. Mae ei nofel ddiweddaaraf Dim Ond Un yn gweld teulu yn cwrdd am ddathliad arbennig mewn bwthyn ar ynys hudolus Enlli; mae’n gyfle prin i ddod ynghyd fel teulu i rai, ond i eraill mae’n orchwyl y mae’n rhaid ei diodde’n anfoddog. Yng nghanol y storm daw dieithryn i’r drws, a daw sawl cyfrinach i’r wyneb yn ystod eu cyfnod clawstroffobig ar yr ynys.

Bydd Alis Hawkins a Sarah Ward yn sgwrsio gyda’i gilydd. Mae Alis Hawkins yn un o sylfaenwyr y gydweithfa awduron trosedd Cymru, Crime Cymru, ac yn aelod o Gymdeithas yr Awduron a Chymdeithas Awduron Trosedd. Mae dwy o’i phedair nofel Crwner Dyffryn Teifi wedi cyrraedd rhestr fer gwobr fawreddog CAW Historical Dagger. Mae Sarah Ward yn awdur nofelau trosedd a chyffrous gothig sydd wedi ennill clod mawr. Roedd ei llyfr, A Patient Fury, yn llyfr y mis yn yr Observer ac roedd The Quickening, a ysgrifennwyd fel Rhiannon Ward, yn llyfr y flwyddyn yn y Radio Times. Mae Sarah yn gyn Is-gadeirydd Cymdeithas Awduron Trosedd ac yn Ymddiriedolwr Gŵyl Trosedd Cymru.

Mae Murder on Ynys Môn gan Siôn Tecwyn, a ysgrifennodd y llyfr ar y cyd gyda Meic Parry, yn trafod y dirgelwch tu ôl i lofruddiaeth erchyll pensiynwr ar yr ynys yn 2019. Cafodd Gerald Corrigan ei saethu gyda bwa croes y tu allan i’w gartref anghysbell. Cafodd y llofrudd ei yrru i garchar, ond mae llawer yn amau mai rhywun arall drefnodd yr holl beth.

Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam, a sefydlwyd ym 2015, yn un o brif ŵyl lenyddol Cymru ac yn cynnal digwyddiadau amrywiol yn Llyfrgell Wrecsam ym mis Ebrill bob blwyddyn. Mae Siop Lyfrau Yr Wyddgrug yn cynnal digwyddiadau awdur rheolaidd drwy gydol y flwyddyn ac mae llawer ohonynt yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Yr Wyddgrug, rhan o Lyfrgelloedd Gwella.

Mae tocynnau ar gyfer yr holl digwyddiadau ar gael nawr.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwneud amser cinio yn haws, yn fwy blasus, ac yn wyrddach Gwneud amser cinio yn haws, yn fwy blasus, ac yn wyrddach
Erthygl nesaf Pontcysyllte aqueduct and canal Ffederasiwn Ysgolion Dyffryn Dyfrdwy – sesiwn galw heibio ymgynghoriad

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Digwyddiadau Pobl a lle Rhagfyr 5, 2025
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Rhagfyr 5, 2025
Green garden waste bin
Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf
Y cyngor Rhagfyr 5, 2025
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
Arall Datgarboneiddio Wrecsam Rhagfyr 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
DigwyddiadauPobl a lle

Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!

Rhagfyr 5, 2025
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos

Rhagfyr 5, 2025
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
ArallDatgarboneiddio Wrecsam

Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam

Rhagfyr 4, 2025
Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Pobl a lle

Wrecsam yw’r Enw

Rhagfyr 3, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English