Canolfan Gymunedol Froncysyllte
Ffordd yr Adwy
LL20 7RH
Dydd Llun, 20 Hydref
1pm i 3pm
Yn gynharach y mis hwn, lansiwyd ymgynghoriad ar ddyfodol tair ysgol gynradd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Rhoddodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ei gymeradwyaeth i ymgynghori ar ddyfodol Ffederasiwn Ysgolion Dyffryn Dyfrdwy, sy’n cynnwys ysgolion cynradd yn Froncysyllte, Garth a Pentre.
Mae gofyn i aelodau’r cyhoedd – gan gynnwys rhieni a gofalwyr – rannu eu barn ar gynigion i gau’r ysgol yn Froncysyllte, tra bydd yr ysgolion yn Garth a Pentre yn cael eu cadw.
Sesiwn galw heibio
Bydd sesiwn galw heibio hefyd yng Nghanolfan Gymunedol Froncysyllte (Ffordd yr Adwy, Froncysyllte, LL20 7RH) ddydd Llun, Hydref 20 o 1pm tan 3pm.
Mae’r sesiwn ar agor i unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am y cynigion a rhannu eu barn yn bersonol.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Am y pum mlynedd diwethaf, mae nifer y disgyblion ym mhob un o’r tair ysgol wedi bod ymhell o fod yn llawn.
“Gyda niferoedd disgyblion mor isel a chymaint o leoedd gwag, mae’n gwneud synnwyr adolygu strwythur Ffederasiwn Dyffryn Dyfrdwy ac ystyried a yw’n gynaliadwy cadw Froncysyllte Ysgol Gynradd.
“Fel cyngor, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod ysgolion yn hyfyw yn hirdymor, ond rydym hefyd yn sensitif i anghenion a dewisiadau rhieni a gofalwyr – felly rydym yn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn fel y gallwn gael eu barn cyn penderfynu sut i symud ymlaen.”
Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 7 Tachwedd.