Sgroliwch i lawr am fanylion yr amseroedd parcio a theithio ar gyfer dydd Sadwrn, ond daliwch ati i ddarllen i gael gwybod pam mae angen eich help arnom…
Rhannwch y neges
Mae angen eich help arnom i ledaenu’r gair bod Cyngor Wrecsam wedi ymestyn y treial parcio a theithio ar gyfer y tymor pêl-droed hwn. Mae tua 40 o geir yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd, sy’n gadael digon o le i fwy o bobl barcio’n hawdd ac yn ddiogel.
Mae tagfeydd yng nghanol y ddinas yn ogystal â pharcio anghyfreithlon a pheryglus wedi dod yn broblem fawr ar ddiwrnod gêm, yn enwedig i’r rhai sy’n byw ger y cae ras a’r rhai sy’n ceisio cael mynediad i ganol y ddinas i siopa.
Nod y gwasanaeth parcio a theithio yw atal y ddau beth hyn – mae traffig yn cael ei symud allan o ganol y ddinas ac mae eich car wedi’i barcio’n ddiogel ac yn gyfleus (cofiwch fod swyddogion gorfodi parcio o gwmpas ar ddiwrnod gêm!).
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd: “Mae wedi bod yn wych gweld nifer cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam yn tyfu, ond mae wedi golygu mwy o alw am barcio ar ddiwrnod gêm. Mae disgwyl i hyn gynyddu eto unwaith y bydd yr eisteddle newydd wedi cael ei adeiladu. Rydym wedi gweithio gydag Arriva North West & Wales i weithredu a gwella’r gwasanaeth bws gwennol pwrpasol sy’n gweithio ar y cyd â’r parcio ar ddiwrnod gêm sydd ar gael ar ein safle yn Ffordd Rhuthun.
“Ar hyn o bryd, mae digon o leoedd o hyd ar bob diwrnod gêm a dim ond £1 yw’r bws i gael tocyn dychwelyd i Ffordd yr Wyddgrug.”
Wrecsam v Charlton
Wrecsam v Charlton | Dydd Sadwrn, Tachwedd 8 | Cic gyntaf 3pm
Cyn y gêm
Parcio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU
Bydd bysus yn rhedeg bob 20 munud gan ddechrau am 1pm; bws olaf 2.20pm.
Ar ôl y gêm
Bydd bysus yn rhedeg bob 20 munud gan ddechrau am 5pm o Ffordd yr Wyddgrug; bws olaf 6.20pm.
Sylwer, yn flaenorol, roedd y bysus cyntaf ar ôl y gêm yn mynd o Dunelm Mill, ond mae gwelliannau i’r gwasanaeth yn golygu bod pob bws ar ôl y gêm bellach yn mynd o Ffordd yr Wyddgrug.
Dim ond £1 am daith ddwyffordd i oedolion (50c i blant)
Maes parcio’n cau am 7pm.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.


