Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwaith beirniadu i sêr chwaraeon Wrecsam yng Ngemau’r Gymanwlad
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Gwaith beirniadu i sêr chwaraeon Wrecsam yng Ngemau’r Gymanwlad
Busnes ac addysgPobl a lle

Gwaith beirniadu i sêr chwaraeon Wrecsam yng Ngemau’r Gymanwlad

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 12, 2018 10:01 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Gwaith beirniadu i sêr chwaraeon Wrecsam yng Ngemau'r Gymanwlad
RHANNU

Llun: Y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol gyda chyfrifoldedb dros Hamdden, a hyfforddwr Clwb Gymnasteg Olympus Paul Edwards.

Cynnwys
  • “Braint ac anrhydedd cael cynrychioli Cymru”
  • “Ffodus o gael hyfforddwyr o safon mor uchel yn ein hardal”

Fel y gwelsom ni drwy lwyddiant athletwyr Cymru – yn gynnwys pherfformiad tîm hoci merched Cymru – mae gan Gymru dîm o’r safon uchaf yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar Arfordir Aur Awstralia.

Ond nid athletwyr o Gymru’n unig sy’n cael llwyddiant rhyngwladol yn y gemau eleni.

Diolch i ddau o enwogion chwaraeon o Wrecsam, bydd cynrychiolaeth o Gymru ymysg y rhai sy’n beirniadu hefyd.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

Mae Paul Edwards, Prif Hyfforddwr a Chyfarwyddwr Clwb Gymnasteg Olympus, Llai, yn un o ddau feirniad o Gymru fydd yng Ngemau’r Gymanwlad eleni.

Bydd yn barnu cystadleuaeth Freiniol Artistig y Dynion, ac yn Brif Feirniad ar gyfer cystadleuaeth Llawr a Llofnaid y Dynion.

Bydd Jan Davies, sydd hefyd o Wrecsam, yn barnu’r gystadleuaeth Freiniol gyda Paul.

“Braint ac anrhydedd cael cynrychioli Cymru”

Dywedodd Paul: “Mae’n fraint ac anrhydedd cael cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, yn enwedig ar ôl cael fy enwebu gan Gymnasteg Cymru a Gymnasteg Prydain, ac mae fy swydd fel Prif Feirniad ar gystadleuaeth Llawr a Llofnaid y Dynion wedi’i chymeradwyo gan y Ffederasiwn Gymnasteg Rhyngwladol.

“Rwy’n gobeithio y bydd nifer o’r beirniaid iau yn fy ngweld i yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2018 ac y galla’ i eu hysbrydoli i fod yn fy sefyllfa i yn y dyfodol.”

“Ffodus o gael hyfforddwyr o safon mor uchel yn ein hardal”

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Fe wnes i gyfarfod Paul a’r tîm yng Ngwobrau Chwaraeon diweddar Wrecsam ac roeddwn i’n awyddus iawn i fanteisio ar y cyfle i ymweld â’r clwb yn Llai.

“Mae eu brwdfrydedd dros y gamp a thros helpu pobl ifanc i gyrraedd eu nod yn lleol yn arbennig. Rydyn ni wir yn ffodus o gael hyfforddwyr o safon mor uchel yn ein hardal.

“Rydw i’n dymuno pob hwyl i Paul a Jan yn Awstralia – mae’n anhygoel bod y ddau feirniad o Gymru ar gyfer cystadleuaeth Freiniol Artistig y Dynion yn dod o Wrecsam.”

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi wedi cael eich tocyn? Ydych chi wedi cael eich tocyn?
Erthygl nesaf Bwlio – paid â dioddef mewn tawelwch Bwlio – paid â dioddef mewn tawelwch

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor
Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch
Arall Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 24, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Pobl a lle

Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam

Awst 19, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English