Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod pedair Coedwig Fechan newydd bellach wedi’u cwblhau ym Mharc Borras, Ysgol Bro Alun, Gardd Gymunedol Rhos ac Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro.
Beth yw Coedwigoedd Bychain?
Mae Coedwigoedd Bychain yn goetiroedd bach tua maint cwrt tenis. Mae cymysgedd o goed a llwyni brodorol yn cael eu plannu ynddynt, yn dilyn dull a ddatblygwyd gan Earthwatch Europe.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr aelod arweiniol dros newid yn yr hinsawdd: “Er eu bod yn fach, mae Coedwigoedd Bychain yn fuddiol iawn – yn helpu i ddal carbon, lleihau’r risg o lifogydd, cefnogi bywyd gwyllt a chreu mannau dysgu a lles awyr agored newydd.”
Gweithio gyda CBC Woodswork
Crëwyd y coetiroedd bach ond pwysig hyn mewn partneriaeth â CBC Woodswork, a fu’n hanfodol i sicrhau llwyddiant y prosiect. Helpodd eu harbenigedd mewn ecoleg, rheoli prosiectau ac ymgysylltu â’r gymuned i sicrhau bod pob Coedwig Fechan yn cael ei chynllunio a’i phlannu’n ofalus, gyda chyfranogiad mawr gan ysgolion, trigolion a gwirfoddolwyr.
Dywedodd Christina Walker, Cadeirydd CBC Woodswork: “Fel Cwmni Buddiannau Cymunedol sydd â ffocws ar fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a diogelu bioamrywiaeth, ac ar ddefnyddio mannau gwyrdd er lles meddyliol a chorfforol, mae prosiect y Coedwigoedd Bychain yn cyd-fynd yn wych â’n nodau a’n hamcanion.
Roedd yn gyfle i weithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol yn Wrecsam, a darparu sesiynau addysgol ac adnoddau’n ymwneud â’r effaith gadarnhaol mae’r Coedwigoedd Bychain yn ei chael ar newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth mewn ardaloedd trefol a dinesig.”
Beth fydd y Coedwigoedd Bychain yn ei gynnig i Wrecsam?
Mwy o fywyd gwyllt
Mae’r plannu cyfoethog, haenog yn denu adar, pryfed ac anifeiliaid eraill, gan helpu natur i ffynnu hyd yn oed mewn ardaloedd adeiledig.
Gweithredu ar newid hinsawdd
Mae coed brodorol sy’n tyfu’n gyflym yn helpu i amsugno carbon ac yn cefnogi ymdrechion Wrecsam i leihau allyriadau.
Cymdogaethau llai poeth
Mae’r cysgod a’r lleithder a ddaw o’r coed yn helpu i ostwng tymheredd lleol, yn enwedig yn ystod tywydd poeth.
Gwell draenio
Mae Coedwigoedd Bychain yn gwella’r pridd fel y gall dŵr glaw gael ei amsugno’n haws, gan helpu i leihau dŵr wyneb a’r risg o lifogydd.
Mannau cymunedol a dysgu
Mae’r ardaloedd hyn yn creu lleoedd newydd lle gall disgyblion, preswylwyr a gwirfoddolwyr fwynhau natur, dysgu yn yr awyr agored a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol.
Bydd byrddau gwybodaeth yn cael eu hychwanegu ar bob safle cyn bo hir. Bydd y rhain yn esbonio sut mae Coedwigoedd Bychain yn gweithio, pa fywyd gwyllt y gall pobl edrych amdano, a sut gall pobl leol gymryd rhan mewn gwyddoniaeth gan ddinasyddion a gweithgareddau eraill.
Gwaith sy’n mynd rhagddo
Mae’r pedair Coedwig Fechan newydd hyn bellach yn rhan o rwydwaith cynyddol Wrecsam o fannau gwyrdd. Wrth iddynt ddatblygu, byddant yn parhau i gynnig buddion amgylcheddol a chymdeithasol go iawn.
Mae un o safleoedd y Coedwigoedd Bychain, Gardd Gymunedol Rhos, hefyd wedi ennill Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam am Wella Tirwedd neu Amgylcheddol yn ddiweddar.
Yng Nghyngor Wrecsam, byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion, grwpiau cymunedol a BCB Woodswork i fonitro eu cynnydd ac archwilio mwy o brosiectau natur ledled y fwrdeistref sirol.
Os ydych chi’n ysgol neu’n grŵp cymunedol sydd â diddordeb mewn gweithio gyda ni ar ein prosiect cymunedau carbon isel, cysylltwch â ni drwy e-bostio decarbonisation@wrexham.gov.uk.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Darganfyddwch fwy am y llwybrau cerdded a beicio gwell sy’n dod i Wrecsam (sesiynau galw heibio Rhagfyr)

