Mae ymgynghoriadau ar leihau’r niferoedd derbyn cyhoeddedig (NDCau) mewn dwy ysgol gynradd yn Wrecsam bellach wedi’u lansio.
Rydym yn ceisio barn partïon â diddordeb ynglŷn â’r cynnig i leihau’r NDCau yn Ysgol Gynradd Gymunedol Penygelli ac Ysgol Maes y Mynydd.
Ar gyfer pob ysgol, mae dogfen ymgynghori sy’n nodi’r wybodaeth y bydd angen i ymgyngoreion ei hystyried er mwyn cymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori, yn ogystal â dogfennau ategol eraill.
Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ddydd Mawrth, Rhagfyr 2, 2025, a bydd yn dod i ben ddydd Llun, Chwefror 2, 2026.
Gallwch ddarllen yr holl ddogfennau perthnasol, a chymryd rhan, yma:
Ymgynghoriad ar y cynnig i leihau’r nifer derbyn cyhoeddedig yn Ysgol Gynradd Gymunedol Penygelli
Ymgynghoriad ar y cynnig i leihau’r nifer derbyn cyhoeddedig yn Ysgol Maes y Mynydd
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr aelod arweiniol dros addysg, “Hoffem i bawb sydd â diddordeb yn y cynigion hyn gwblhau’r ymgynghoriadau. Mae’n bwysig bod yr holl safbwyntiau yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniad.
“Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiynau a rhannu eich barn â ni gan ddefnyddio’r cyfeiriadau e-bost isod.”

