Erthygl Wadd – Y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch (OPSS)
Ar 4 Mawrth 2025, lansiodd Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch y DU ymgyrch diogelwch fêps newydd.
Mae’r ymgyrch yn ceisio codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o’r peryglon cudd sy’n gysylltiedig â gwefru fêps yn amhriodol, batris wedi’u difrodi, a thaflu fêps i’r bin, wrth annog arferion syml ac ymarferol sy’n eu cadw nhw’n ddiogel ac yn cefnogi ailgylchu cyfrifol.
Mae prif gyngor yr ymgyrch yn cynnwys:
- Storiwch eich fêp sydd wedi’i ddefnyddio yn ddiogel nes y byddwch chi’n ei ailgylchu
- Tynnwch y batri allan ohono os yn bosibl
- Peidiwch â’i daflu i’r bin gwastraff cyffredinol neu fin ailgylchu yn y cartref
- Gofynnwch i siopau sy’n gwerthu fêps a ydyn nhw’n eu derbyn
- Rhowch y fêp mewn bin ailgylchu ar gyfer fêps yn unig mewn siop fêps, archfarchnad, neu fan ailgylchu
- Datgysylltwch eich fêp unwaith y bydd y batri’n llawn
Nod yr ymgyrch yw gwella diogelwch defnyddwyr trwy helpu i leihau’r risg o danau batri, anafiadau a niwed amgylcheddol sy’n cael eu hachosi gan ddefnyddio a gwaredu fêps yn anniogel. I gael gwybodaeth am eich man rhoi neu ailgylchu agosaf, ewch i’r wefan hon.

