Wedi blino ar gael pethau diddiwedd drwy’r post? Wel, gyda dim ond ychydig o gliciau, gallwch chi newid i weld eich bil treth gyngor ar-lein yn lle hynny!
Yn syml, system e-filio’r dreth gyngor yw ein gwasanaeth diogel, di-bapur lle rydych chi’n cael eich bil treth gyngor blynyddol ar-lein, yn hytrach na’i anfon allan yn y post.
Manteision system e-filio’r dreth gyngor yw ei fod yn gyflymach, yn fwy cyfleus ac yn llawer gwell i’r amgylchedd. Gyda system e-filio’r dreth gyngor, rydych chi’n gallu gweld eich biliau ar unwaith a’u storio’n hawdd.
Yn barod i newid? Gallwch chi newid eich dewisiadau e-filio gyda ni ar-lein. Os oes mwy nag un unigolyn yn talu’r bil ar gyfer eich cartref, gwnewch yn siŵr eich bod chi i gyd yn cofrestru ar gyfer ein system e-filio.
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam
Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2026/27 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Ebrill!

