Bydd dyddiadau casgliadau gwastraff ac ailgylchu arferol rhai trigolion yn newid dros gyfnod y Pasg, ond mae yna gwpl o ffyrdd hawdd i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau.
Gwirio eich diwrnod casglu
Mae’r dudalen gwirio eich diwrnod casglu yn dangos dyddiadau eich pedwar casgliad nesaf a pha finiau ac ailgylchu y dylech eu rhoi allan. Ni fydd angen i chi fewngofnodi i weld eich diwrnod casglu, a gallwch edrych ar ran ffrindiau, aelodau o’r teulu a chymdogion trwy deipio eu cod post neu eu stryd.
Mae’n ffordd gyflym a hawdd o gadw trefn ar eich casgliadau.
Negeseuon atgoffa am gasgliadau
Ffordd arall o gael y wybodaeth ddiweddaraf yw trwy gofrestru i dderbyn negeseuon atgoffa am gasgliadau gwastraff. Os gwnewch hyn, byddwch yn cael e-bost i’ch atgoffa i roi eich biniau allan y diwrnod cyn i’ch casgliad ddigwydd. Mae hefyd yn ffordd wych o gael gwybod am unrhyw newidiadau a allai effeithio arnoch chi.
Trosolwg sydyn o’r newidiadau
Dyma grynodeb sydyn…
Ni fydd unrhyw gasgliadau ar:
- Dydd Gwener 3 Ebrill (Dydd Gwener y Groglith)
- Dydd Llun 6 Ebrill (Dydd Llun y Pasg)
Sy’n golygu:
- Os oeddech chi’n disgwyl cael casgliad ailgylchu ddydd Gwener, 3 Ebrill, gallwch roi ailgylchu ychwanegol allan i ni ei gasglu ddydd Gwener, 10 Ebrill yn lle hynny.
- Os oeddech chi’n disgwyl cael casgliad bin du/glas ac ailgylchu ddydd Gwener, 3 Ebrill, bydd eich biniau du/glas yn cael eu casglu ddydd Mawrth, 7 Ebrill yn lle hynny, a gallwch roi unrhyw ailgylchu ychwanegol allan i ni ei gasglu ddydd Gwener, 10 Ebrill.
- Os oeddech chi’n disgwyl cael casgliad bin du/glas ac ailgylchu ddydd Llun, 6 Ebrill, bydd eich biniau du/glas ac unrhyw ailgylchu ychwanegol yn cael eu casglu ddydd Llun, 13 Ebrill yn lle hynny.
- Os oeddech chi’n disgwyl cael casgliad ailgylchu ddydd Llun, 6 Ebrill, gallwch roi ailgylchu ychwanegol allan i ni ei gasglu ddydd Llun, 13 Ebrill yn lle hynny.
Casgliadau gwastraff gardd
Mae casgliadau’n dilyn patrwm tymhorol, gyda mis Ebrill a mis Mai yn gweithredu yn ôl amserlen addasedig oherwydd gwyliau banc. Gallwch gael gwybod pryd y bydd eich gwastraff gardd yn cael ei gasglu trwy wirio eich diwrnod casglu neu gofrestru i dderbyn ein negeseuon atgoffa am gasgliadau.
Bydd casgliadau gwastraff gardd yn dychwelyd i’r patrwm arferol o fis Mehefin.
Nodyn atgoffa am reolau ailgylchu ychwanegol
Os bydd eich blychau ailgylchu yn llawn, gallwch adael unrhyw ddeunyddiau ailgylchadwy ychwanegol mewn cynwysyddion solet wrth ymyl eich ailgylchu arall ar eich diwrnod casglu a byddwn yn ailgylchu’r deunyddiau (gan adael y cynwysyddion ar ôl i chi eu hailddefnyddio eto).
Ond os oes gennych ailgylchu ychwanegol, gwahanwch y deunyddiau fel y byddech chi fel arfer… er enghraifft, os oes gennych boteli plastig a gwydr ychwanegol, rhowch y plastig mewn un cynhwysydd a’r gwydr mewn cynhwysydd ar wahân.
Hefyd, byddwn yn casglu cardbord glân, wedi’i wasgu’n fflat, sy’n cael ei adael wrth ymyl cynwysyddion ailgylchu os nad yw’n fwy o ran uchder na lled na sach las safonol.
Canolfannau ailgylchu
Cofiwch, bydd ein canolfannau ailgylchu yn aros ar agor dros y Pasg os oes angen i chi eu defnyddio.
Yn ogystal, o ddydd Llun 6 Ebrill, bydd y Lodge, Brymbo a Phlas Madog yn aros ar agor yn hwyrach, gan gau am 8pm.
Nid oes unrhyw newidiadau i Lôn y Bryn, a fydd yn parhau i fod ar agor 8am-8pm drwy gydol y flwyddyn.
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam
Pryd caiff fy miniau eu casglu? Gwiriwch eich diwrnod casglu a chofrestrwch am negeseuon atgoffa.



