Mae Cyngor Wrecsam yn gweithio gyda’r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA) i godi ymwybyddiaeth trigolion lleol o’r Cynllun Iawndal Gwaed Heintiedig.
Corff annibynnol yw IBCA, sy’n talu iawndal i bobl sydd wedi’u heintio a’u heffeithio gan HIV, hepatitis B ac C drwy waed neu gynnyrch gwaed halogedig.
Mae hyn yn cynnwys pobl a gafodd waed neu blasma heintiedig, yn bennaf yn yr 1970au a’r 1980au, o drallwysiad yn ystod llawdriniaeth, triniaeth neu enedigaeth, neu gynnyrch gwaed i drin anhwylder gwaedu fel Haemoffilia.
Mae hefyd yn cynnwys pobl sydd wedi’u heintio drwy drosglwyddiad haint gan berson sydd wedi’i heintio’n uniongyrchol, aelodau o’r teulu a gofalwyr di-dâl person sydd wedi’i heintio.
Ers ei sefydlu yn 2024, mae IBCA wedi cysylltu â dros 3,000 o bobl i ddechrau eu hawliad am iawndal ac wedi cynnig dros £2 biliwn mewn taliadau iawndal.
Efallai fod pobl yn byw yn Wrecsam sydd â hawl i gael iawndal, ac mae IBCA bellach yn annog pawb yn yr ardal sy’n credu y gallent fod yn gymwys i gofrestru eu bwriad i hawlio iawndal.
Gallech chi fod yn gymwys i gael iawndal os ydych chi wedi cael eich heintio, os ydych chi’n hawlio ar ran rhywun sydd wedi’i heintio ac sydd, yn anffodus, wedi marw, neu os yw’r sgandal wedi effeithio arnoch chi (gan gynnwys rhieni, partneriaid, brodyr a chwiorydd, plant a gofalwyr heb eu cofrestru).
Dywedodd David Foley, Prif Weithredwr yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig:
“Rydyn ni’n benderfynol o dalu pob un person sy’n gymwys, cyn gynted ag y gallwn ni.
“Mae pobl wedi aros degawdau i gael yr iawndal maen nhw’n ei haeddu. Ers sefydlu IBCA, mae dros £2 biliwn wedi cael ei dalu mewn iawndal, ond rydyn ni’n gwybod bod llawer mwy i’w wneud.
“Mae cofrestru gydag IBCA yn ein galluogi i ddeall pwy sy’n bwriadu hawlio a beth yw’r ffordd orau i ni gysylltu â nhw, er mwyn i ni allu gwneud hynny cyn gynted ag y gallwn ni er mwyn dechrau eu hawliad.
“Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Wrecsam i gyrraedd trigolion lleol na fyddai, o bosib, yn gwybod am y cynllun iawndal a’u bod yn gymwys fel arall.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Cysylltodd yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig â ni ddiwedd y llynedd i ofyn a fyddai modd i ni helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cynllun iawndal drwy’r sianeli cyfathrebu sydd ar gael i ni, ac roedden ni’n fwy na pharod i wneud hynny.
“Os ydych chi’n gymwys i gael iawndal, neu’n adnabod rhywun a allai fod yn gymwys, mae’r manylion cyswllt ar gael isod.”
Gallwch chi hawlio iawndal:
- os cawsoch eich heintio â HIV, hepatitis B a hepatitis C drwy waed, cynnyrch gwaed neu feinwe heintiedig
- os ydych chi’n gweithredu ar ran rhywun sydd wedi’i heintio ac sydd, yn anffodus, wedi marw
- os ydych chi’n berson sydd wedi’i effeithio – hynny yw partner, rhiant, plentyn, brawd neu chwaer neu ofalwr di-dâl rhywun sydd wedi’i heintio neu a oedd wedi’i heintio.
Mae adnodd i gyfrifo’r iawndal disgwyliedig ar wefan IBCA ibca.org.uk/estimate-your-compensation
Mae pawb sy’n bwriadu hawlio iawndal gan y Cynllun Iawndal Gwaed Heintiedig nawr yn gallu cofrestru gydag IBCA.
Mae IBCA yn prosesu hawliadau am iawndal yn nhrefn blaenoriaeth, fel yr argymhellwyd gan yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig. Bydd hawliadau’n cael eu blaenoriaethu ar gyfer y rhai sy’n agosáu at ddiwedd eu hoes yn anffodus, ac yna grwpiau oedran hŷn.
Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd i gofrestru, gan roi gwybodaeth fel enw, manylion cyswllt a’r math o hawliad yr hoffech ei wneud.
Mae hyn yn golygu bod IBCA wedyn yn gallu cysylltu â phobl pan fyddant yn gallu dechrau gwneud hawliad, gan ofyn i ddechrau am fanylion yr haint a thystiolaeth ei fod wedi deillio o waed heintiedig.
Gallwch chi gofrestru eich bwriad i wneud hawliad am iawndal yn ibca.org.uk/register/
Os nad ydych chi’n gallu cofrestru ar-lein, neu os hoffech chi gael help i gofrestru, ffoniwch IBCA ar 0141 471 8886.
Digwyddiadau wyneb yn wyneb yn y gymuned
Yn dilyn adborth gan y gymuned gwaed heintiedig eu bod eisiau mwy o gyfleoedd i siarad wyneb yn wyneb ag IBCA, mae sesiynau galw heibio cymunedol yn cael eu cynnal ledled y Deyrnas Unedig yn ystod 2026. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau yn Lerpwl ym mis Mai, ac yng Nghaerdydd ym mis Mehefin. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i gwrdd â thîm IBCA a gofyn cwestiynau am hawlio iawndal.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen digwyddiadau gwefan IBCA, neu cofrestrwch ar gyfer Diweddariadau Cymunedol yn ibca.my.site.com i gael y wybodaeth ddiweddaraf.



