Cyn llogi ‘dyn gyda fan’, cynghorir preswylwyr Wrecsam i wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio cludwr gwastraff trwyddedig.
Mae gan ddeiliad tai ddyletswydd gofal i sicrhau bod unrhyw un sy’n mynd â’u gwastraff i ffwrdd wedi’i gofrestru i wneud hynny.
Gall preswylwyr wirio hyn ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros yr Amgylchedd, “Mae’n bwysig ein bod yn helpu pobl i ddeall sut i waredu eu gwastraff yn iawn, ac mae hyn yn cynnwys defnyddio gweithredwyr gwastraff trwyddedig cyfrifol yn unig i fynd â’u sbwriel i ffwrdd.”
“Felly, os ydych chi’n ystyried talu ‘dyn gyda fan’ i fynd â’ch eich sbwriel i ffwrdd, gwnewch yn siŵr bod ganddyn nhw drwydded gyntaf.”
“Mae cludwyr gwastraff heb drwydded yn fwy tebygol o dipio eich sbwriel yn anghyfreithlon, a gallech chi fod yn atebol a gorfod talu dirwy sylweddol.”
“Dylem i gyd ymfalchïo yn ein cymuned a gwneud popeth y gallwn i atal tipio anghyfreithlon.”
Dylai cwmnïau cyfreithlon fod yn hapus i ddangos eu trwydded cludwr gwastraff i chi a’ch sicrhau y bydd eich gwastraff yn cael ei waredu’n gywir ar safle awdurdodedig.
Os yw eich sbwriel yn cael ei dipio’n anghyfreithlon a’i olrhain yn ôl atoch chi, gallech wynebu dirwy o hyd at £5,000 ac erlyniad.
Gall deiliaid tai hefyd gael hysbysiad cosb benodedig o £300 yn lle cael eu herlyn.



