Erthygl Gwadd – Magnify PR
Mae pennod newydd ar fin dechrau ar gyfer un o adeiladau mwyaf adnabyddus Wrecsam, wrth i’r allweddi i lawr gwaelod yr Hen Lyfrgell gael eu trosglwyddo i feddiannydd newydd a fydd yn siapio ei cham nesaf.
Cyn hir bydd yr adeilad yn gartref i fusnes newydd o’r enw Queen’s Square Social, sef gofod bwyd, cymdeithasol a chreadigol bywiog ar y llawr gwaelod a fydd yn dod â gweithgarwch newydd i ganol y ddinas.
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan yr entrepreneur Steven Hesketh, sylfaenydd The SAVVY Collective, sy’n anelu at greu “trydydd gofod” bob dydd i Wrecsam. Mae’r lleoliad wedi’i gynllunio i fod rhwng cartref a gwaith, gan gynnig lle hyblyg ac anffurfiol i’w ddefnyddio gydol y dydd.
Bydd gan Queen’s Square Social gaffi a deli tra’n cynnig mwy na phrofiad bwyd traddodiadol, gyda lle ar gyfer cinio ganol dydd, cyfarfodydd anffurfiol, creu cynnwys ac ymweliadau cymdeithasol. Gyda lle i hyd at 250 o bobl, bydd hefyd yn gartref i ddosbarthiadau, cyfarfodydd a digwyddiadau preifat. Mae cynlluniau hefyd ar waith i’r lleoliad gynnal digwyddiadau mwy gan gynnwys dathliadau teuluol, cynadleddau a digwyddiadau siaradwyr gwadd.
Mae’r tîm yn disgwyl agor yn ddiweddarach y gwanwyn hwn a bydd yn cyhoeddi rhagor o fanylion am ei wasanaethau llawn a’i galendr digwyddiadau yn yr wythnosau nesaf.
Meddai Steven Hesketh: “Mae’r Hen Lyfrgell yn adeilad y mae pobl yn ei adnabod ac yn malio amdano, felly mae cael yr allweddi nawr a symud i mewn yn foment arwyddocaol i ni.
“Rydym yn dal i gwblhau’r cynnig llawn, ond y bwriad yw creu rhywbeth sy’n gweithio i’r sgwâr ac i’r ddinas, ac y gall pobl ei ddefnyddio yn hawdd fel rhan o’u bywydau bob dydd.
“Y nod yw cyfrannu’n gadarnhaol at ganol y ddinas, cefnogi creu swyddi a gwneud defnydd da o adeilad pwysig. ‘Da ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at gael dechrau arni.”
Dwedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth “Mae’r Hen Lyfrgell yn adeilad poblogaidd iawn yn Wrecsam, ac mae’n wych ei weld yn cael ei ddefnyddio’n weithredol unwaith eto.”
“Bydd Queen’s Square Social yn ychwanegu rhywbeth ffres i ganol y ddinas, gan helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, cefnogi swyddi lleol a chreu gofod croesawgar i breswylwyr, ymwelwyr a busnesau.”
“Dyma’r union fath o fuddsoddiad a chreadigrwydd yr ydym am ei weld wrth i Wrecsam barhau i dyfu.”
Bydd busnes o ddydd i ddydd yn cael ei arwain gan y rheolwr cyffredinol Li Armitstead.
Meddai: “Yr hyn sy’n fy nghyffroi am y prosiect hwn yw’r cyfle i sefydlu’r diwylliant cywir o’r cychwyn cyntaf. Mae gofodau fel hyn yn dibynnu ar gysondeb, safonau uchel ac amgylchedd croesawgar. Ein nod yw gwneud i hyn deimlo fel trydydd gofod i bobl sy’n ymweld â ni. Rhywle sy’n eistedd rhwng gwaith a chartref a lle gallant fwynhau treulio amser.
“Rydyn ni eisiau i hyn deimlo fel lle naturiol i bobl dreulio amser, boed am gyfnod byr neu’n hirach, tra hefyd yn cydnabod pwysigrwydd hanes yr adeilad yn Wrecsam.”
Bydd y lleoliad yn cynnwys deli a chaffi, ardal eistedd fawr, stiwdio podledu ac ystafell gyfarfod, gan ddod â bwyd, gwaith a gweithgarwch cymdeithasol ynghyd. Disgwylir i’r prosiect greu chwe swydd gychwynnol, gyda photensial ar gyfer rolau pellach wrth iddo ddatblygu.
Bydd Queen’s Square Social hefyd yn cysylltu â gweithgarwch presennol yn y ddinas. Bydd gan drigolion yr Hen Gofrestrfa, y mae Mr Hesketh hefyd yn ei weithredu, fynediad at amwynderau o fewn y lleoliad, gan helpu i gysylltu’r ddau brosiect a chynyddu’r niferoedd ymweld yn yr ardal.
Mae’n rhan o bortffolio ehangach dan arweiniad Mr Hesketh ar draws y rhanbarth, gan gynnwys Hotel Wrexham, The Savvy Fox a Gŵyl Bwyd a Diod Swydd Gaer a Gogledd Cymru.
Agorwyd yr adeilad yn wreiddiol ym 1907 fel un o lyfrgelloedd Carnegie, wedi ei ariannu gan Andrew Carnegie, ac mae wedi dal lle amlwg yn Wrecsam ers tro byd. Am flynyddoedd lawer, bu’n llyfrgell gyhoeddus ac yn ganolfan dysgu a gweithgarwch cymunedol.
Yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £4 miliwn gan Gyngor Wrecsam, mae’r adeilad eisoes yn gartref i gwmni teledu Tŷ’r Ddraig ac mae wedi’i ail-sefydlu yn ganolbwynt i’r Diwydiannau Creadigol yn Wrecsam gan gynnwys gofod cydweithio Creadigol Amlbwrpas newydd i fyny’r grisiau i’w agor fis Mai.
Yn ddiweddar, ail-agorwyd yr adeilad ar ôl ei adnewyddu gan Faer Wrecsam, gan ei ddisgrifio fel “atgof o’n gorffennol tra hefyd yn gwasanaethu ein huchelgeisiau i’r dyfodol.” Roedd yr ailagor yn gam pwysig i warchod treftadaeth yr adeilad wrth alluogi defnydd o’r newydd ddigwydd sy’n cefnogi canol y ddinas.
Wrth i’r adeilad gymryd y cam nesaf hwn, bydd yn parhau i ddatblygu fel canolfan greadigol a gwasanaethu fel man lle gall pobl gyfarfod, gweithio a threulio amser gyda’i gilydd yng nghanol Wrecsam.
Ychwanegodd Mr Hesketh: “Rydyn ni eisiau i hwn fod yn ofod y mae pobl wir yn teimlo’n rhan ohono, rhywle sy’n adlewyrchu egni’r ddinas, yn cefnogi ei thwf ac yn dod yn lle y bydd pobl yn dod nôl iddo dro ar ôl tro.”



