Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pennod newydd yn dechrau yn Hen Lyfrgell Wrecsam wrth i Queen’s Square Social baratoi i agor
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Pennod newydd yn dechrau yn Hen Lyfrgell Wrecsam wrth i Queen’s Square Social baratoi i agor
Pobl a lleY cyngor

Pennod newydd yn dechrau yn Hen Lyfrgell Wrecsam wrth i Queen’s Square Social baratoi i agor

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 30, 2026 9:18 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Wrexham Old Library exterior
Read construction Wrexham old library.
RHANNU

Erthygl Gwadd – Magnify PR

Mae pennod newydd ar fin dechrau ar gyfer un o adeiladau mwyaf adnabyddus Wrecsam, wrth i’r allweddi i lawr gwaelod yr Hen Lyfrgell gael eu trosglwyddo i feddiannydd newydd a fydd yn siapio ei cham nesaf.

Cyn hir bydd yr adeilad yn gartref i fusnes newydd o’r enw Queen’s Square Social, sef gofod bwyd, cymdeithasol a chreadigol bywiog ar y llawr gwaelod a fydd yn dod â gweithgarwch newydd i ganol y ddinas.

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan yr entrepreneur Steven Hesketh, sylfaenydd The SAVVY Collective, sy’n anelu at greu “trydydd gofod” bob dydd i Wrecsam.  Mae’r lleoliad wedi’i gynllunio i fod rhwng cartref a gwaith, gan gynnig lle hyblyg ac anffurfiol i’w ddefnyddio gydol y dydd.

Bydd gan Queen’s Square Social gaffi a deli tra’n cynnig mwy na phrofiad bwyd traddodiadol, gyda lle ar gyfer cinio ganol dydd, cyfarfodydd anffurfiol, creu cynnwys ac ymweliadau cymdeithasol. Gyda lle i hyd at 250 o bobl, bydd hefyd yn gartref i ddosbarthiadau, cyfarfodydd a digwyddiadau preifat. Mae cynlluniau hefyd ar waith i’r lleoliad gynnal digwyddiadau mwy gan gynnwys dathliadau teuluol, cynadleddau a digwyddiadau siaradwyr gwadd.

Mae’r tîm yn disgwyl agor yn ddiweddarach y gwanwyn hwn a bydd yn cyhoeddi rhagor o fanylion am ei wasanaethau llawn a’i galendr digwyddiadau yn yr wythnosau nesaf.

Meddai Steven Hesketh:  “Mae’r Hen Lyfrgell yn adeilad y mae pobl yn ei adnabod ac yn malio amdano, felly mae cael yr allweddi nawr a symud i mewn yn foment arwyddocaol i ni.

“Rydym yn dal i gwblhau’r cynnig llawn, ond y bwriad yw creu rhywbeth sy’n gweithio i’r sgwâr ac i’r ddinas, ac y gall pobl ei ddefnyddio yn hawdd fel rhan o’u bywydau bob dydd.

“Y nod yw cyfrannu’n gadarnhaol at ganol y ddinas, cefnogi creu swyddi a gwneud defnydd da o adeilad pwysig.  ‘Da ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at gael dechrau arni.”

Dwedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth “Mae’r Hen Lyfrgell yn adeilad poblogaidd iawn yn Wrecsam, ac mae’n wych ei weld yn cael ei ddefnyddio’n weithredol unwaith eto.”

“Bydd Queen’s Square Social yn ychwanegu rhywbeth ffres i ganol y ddinas, gan helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, cefnogi swyddi lleol a chreu gofod croesawgar i breswylwyr, ymwelwyr a busnesau.”

“Dyma’r union fath o fuddsoddiad a chreadigrwydd yr ydym am ei weld wrth i Wrecsam barhau i dyfu.”

Bydd busnes o ddydd i ddydd yn cael ei arwain gan y rheolwr cyffredinol Li Armitstead.

Meddai:  “Yr hyn sy’n fy nghyffroi am y prosiect hwn yw’r cyfle i sefydlu’r diwylliant cywir o’r cychwyn cyntaf.  Mae gofodau fel hyn yn dibynnu ar gysondeb, safonau uchel ac amgylchedd croesawgar.  Ein nod yw gwneud i hyn deimlo fel trydydd gofod i bobl sy’n ymweld â ni.  Rhywle sy’n eistedd rhwng gwaith a chartref a lle gallant fwynhau treulio amser.  

“Rydyn ni eisiau i hyn deimlo fel lle naturiol i bobl dreulio amser, boed am gyfnod byr neu’n hirach, tra hefyd yn cydnabod pwysigrwydd hanes yr adeilad yn Wrecsam.”

Bydd y lleoliad yn cynnwys deli a chaffi, ardal eistedd fawr, stiwdio podledu ac ystafell gyfarfod, gan ddod â bwyd, gwaith a gweithgarwch cymdeithasol ynghyd. Disgwylir i’r prosiect greu chwe swydd gychwynnol, gyda photensial ar gyfer rolau pellach wrth iddo ddatblygu.

Bydd Queen’s Square Social hefyd yn cysylltu â gweithgarwch presennol yn y ddinas.  Bydd gan drigolion yr Hen Gofrestrfa, y mae Mr Hesketh hefyd yn ei weithredu, fynediad at amwynderau o fewn y lleoliad, gan helpu i gysylltu’r ddau brosiect a chynyddu’r niferoedd ymweld yn yr ardal.

Mae’n rhan o bortffolio ehangach dan arweiniad Mr Hesketh ar draws y rhanbarth, gan gynnwys Hotel Wrexham, The Savvy Fox a Gŵyl Bwyd a Diod Swydd Gaer a Gogledd Cymru.

Agorwyd yr adeilad yn wreiddiol ym 1907 fel un o lyfrgelloedd Carnegie, wedi ei ariannu gan Andrew Carnegie, ac mae wedi dal lle amlwg yn Wrecsam ers tro byd. Am flynyddoedd lawer, bu’n llyfrgell gyhoeddus ac yn ganolfan dysgu a gweithgarwch cymunedol.

Yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £4 miliwn gan Gyngor Wrecsam, mae’r adeilad eisoes yn gartref i gwmni teledu Tŷ’r Ddraig ac mae wedi’i ail-sefydlu yn ganolbwynt i’r Diwydiannau Creadigol yn Wrecsam gan gynnwys gofod cydweithio Creadigol Amlbwrpas newydd i fyny’r grisiau i’w agor fis Mai.

Yn ddiweddar, ail-agorwyd yr adeilad ar ôl ei adnewyddu gan Faer Wrecsam, gan ei ddisgrifio fel “atgof o’n gorffennol tra hefyd yn gwasanaethu ein huchelgeisiau i’r dyfodol.” Roedd yr ailagor yn gam pwysig i warchod treftadaeth yr adeilad wrth alluogi defnydd o’r newydd ddigwydd sy’n cefnogi canol y ddinas.

Wrth i’r adeilad gymryd y cam nesaf hwn, bydd yn parhau i ddatblygu fel canolfan greadigol a gwasanaethu fel man lle gall pobl gyfarfod, gweithio a threulio amser gyda’i gilydd yng nghanol Wrecsam.

Ychwanegodd Mr Hesketh:  “Rydyn ni eisiau i hwn fod yn ofod y mae pobl wir yn teimlo’n rhan ohono, rhywle sy’n adlewyrchu egni’r ddinas, yn cefnogi ei thwf ac yn dod yn lle y bydd pobl yn dod nôl iddo dro ar ôl tro.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Parking Mynd i Wrecsam v Middlesborough? Darllenwch ymlaen…
Erthygl nesaf EURO dan 19 yn dod i Wrecsam yr haf hwn EURO dan 19 yn dod i Wrecsam yr haf hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English